Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Gwers 6

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Ble mae Teyrnas Dduw wedi’i lleoli? (1)

Pwy yw ei Brenin hi? (2)

Oes eraill â rhan yn teyrnasu gyda’r Brenin? Os oes, sawl un sydd? (3)

Beth sy’n dangos ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf? (4)

Beth fydd Teyrnas Dduw yn ei wneud dros y ddynolryw yn y dyfodol? (5-7)

1. Pan ’roedd e ar y ddaear, fe ddysgodd Iesu ei ganlynwyr i weddïo am Deyrnas Dduw. Llywodraeth yw teyrnas gyda brenin yn ben arni. Mae Teyrnas Dduw yn llywodraeth arbennig. Mae hi wedi’i sefydlu yn y nefoedd, a bydd yn teyrnasu dros y ddaear hon. Fe fydd hi’n sancteiddio, neu yn cysegru, enw Duw. Fe fydd hi’n gweithredu ewyllys Duw ar y ddaear fel y mae yn y nefoedd.—Mathew 6:9, 10.

2. Fe addawodd Duw y byddai Iesu yn dod yn Frenin Ei Deyrnas. (Luc 1:30-33) Pan oedd Iesu ar y ddaear, fe brofodd y byddai yn Llywodraethwr caredig, cyfiawn, a pherffaith. Pan ddychwelodd i’r nefoedd, ’chafodd e ddim ei orseddu’n Frenin Teyrnas Dduw yn syth. (Hebreaid 10:12, 13) Yn 1914, fe roddodd Jehofah i Iesu yr awdurdod a addawsai E iddo. Oddi ar hynny, mae Iesu wedi teyrnasu yn Frenin penodedig Jehofah yn y nefoedd.—Daniel 7:13, 14.

3. Mae Jehofah hefyd wedi dewis rhai dynion a merched ffyddlon o’r ddaear i fynd i’r nefoedd. Fe fyddan’ nhw’n teyrnasu gyda Iesu yn frenhinoedd, barnwyr ac offeiriaid dros y ddynolryw. (Luc 22:28-30; Datguddiad 5:9, 10) Fe alwodd Iesu’r cyd-lywodraethwyr hyn yn ei Deyrnas yn “braidd bychan.” Mae ’na 144,000 ohonyn’ nhw.—Luc 12:32; Datguddiad 14:1-3.

4. Unwaith y daeth Iesu yn Frenin, fe fwriodd e Satan a’i angylion drygionus allan o’r nefoedd ac i lawr i gyffiniau’r ddaear. Dyna pam y mae pethau wedi gwaethygu cymaint yma ar y ddaear oddi ar 1914. (Datguddiad 12:9, 12) Rhyfeloedd, adegau o newyn, plâu, anghyfraith yn cynyddu—mae’r rhain oll yn rhan o “arwydd” yn dynodi fod Iesu yn teyrnasu a’i bod hi’n ddyddiau diwethaf y drefn bresennol.—Mathew 24:3, 7, 8, 12; Luc 21:10, 11; 2 Timotheus 3:1-5.

5. Cyn bo hir fe fydd Iesu yn barnu pobl, yn eu didoli fel y mae bugail yn gwahanu’r defaid oddi wrth y geifr. Y “defaid” ydi’r rhai hynny fydd wedi profi eu bod nhw’n ddeiliaid teyrngar iddo. Fe gânt dderbyn fywyd tragwyddol ar y ddaear. Y “geifr” ydi’r rhai hynny fydd wedi gwrthod Teyrnas Dduw. (Mathew 25:31-34, 46) Yn y dyfodol agos, fe fydd Iesu yn difa’r holl rai gafr-debyg. (2 Thesaloniaid 1:6-9) Os oes arnoch chi eisiau bod yn un o “ddefaid” Iesu, mae’n rhaid i chi wrando ar neges y Deyrnas a gweithredu’r hyn ’rydych yn ei ddysgu.—Mathew 24:14.

6. Ar hyn o bryd mae’r ddaear wedi’i rhannu’n llawer o wledydd. Mae gan bob un ei llywodraeth ei hun. Mae’r cenhedloedd hyn yn aml yn ymladd â’i gilydd. Ond fe fydd Teyrnas Dduw yn disodli yr holl lywodraethau dynol. Teyrnasiad y Deyrnas fydd yr unig lywodraeth dros yr holl ddaear. (Daniel 2:44) Y pryd hwnnw ’fydd ’na ddim rhagor o ryfel, torcyfraith, a thrais. Fe fydd yr holl bobl yn byw yn gytún gyda’i gilydd mewn heddwch ac undod.—Micha 4:3, 4.

7. Yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Iesu, fe ddaw bodau dynol ffyddlon yn berffaith, ac fe ddaw’r ddaear gyfan yn baradwys. Erbyn diwedd y mil blynyddoedd, fe fydd Iesu wedi gwneud popeth y gofynnodd Duw iddo’i wneud. Yna fe fydd yn trosglwyddo’r Deyrnas yn ôl i’w Dad. (1 Corinthiaid 15:24) Beth am i chi ddweud wrth eich ffrindiau a’ch anwyliaid am yr hyn y bydd Teyrnas Dduw yn ei wneud?

[Llun ar dudalen 13]

Dan deyrnasiad Iesu, ’fydd ’na ddim rhagor o gasineb na rhagfarn