Bywyd Teuluol Sy’n Boddhau Duw
Gwers 8
Bywyd Teuluol Sy’n Boddhau Duw
Beth yw safle’r gŵr yn y teulu? (1)
Sut dylai gŵr drin ei wraig? (2)
Beth yw cyfrifoldebau tad? (3)
Beth yw rhan y wraig yn y teulu? (4)
Beth y mae Duw yn ei ofyn gan rieni a chan blant? (5)
Sut mae’r Beibl yn ystyried ymwahanu ac ysgariad? (6, 7)
1. Mae’r Beibl yn dweud mai’r gŵr yw pen ei deulu. (1 Corinthiaid 11:3) Rhaid i ŵr gael dim ond un wraig. Fe ddylen’ nhw fod yn gywir briod yng ngolwg y gyfraith.—1 Timotheus 3:2; Titus 3:1.
2. Fe ddylai gŵr garu ei wraig yn union fel mae’n ei garu ei hun. Fe ddylai ei thrin hi y ffordd mae Iesu’n trin ei ddilynwyr. (Effesiaid 5:25, 28, 29) ’Ddylai e byth daro’i wraig na’i chamdrin hi mewn unrhyw ffordd. Yn hytrach, fe ddylai e ddangos anrhydedd a pharch iddi.—Colosiaid 3:19; 1 Pedr 3:7.
3. Fe ddylai tad weithio’n galed i ofalu am ei deulu. Rhaid iddo ddarparu bwyd, dillad, a llety i’w wraig a’i blant. Rhaid i dad hefyd sicrhau anghenion ysbrydol ei deulu. (1 Timotheus 5:8) Fe sydd yn arwain wrth helpu ei deulu i ddysgu am Dduw a’I bwrpasau.—Deuteronomium 6:4-9; Effesiaid 6:4.
4. Fe ddylai gwraig fod yn ymgeledd dda i’w gŵr. (Genesis 2:18) Fe ddylai hi gynorthwyo’i gŵr wrth ddysgu a hyfforddi eu plant. (Diarhebion 1:8) Mae Jehofah yn disgwyl i wraig ofalu am ei theulu yn gariadus. (Diarhebion 31:10, 15, 26, 27; Titus 2:4, 5) Fe ddylai hi barchu ei gŵr.—Effesiaid 5:22, 23, 33.
5. Mae Duw yn disgwyl i blant ufuddhau i’w rhieni. (Effesiaid 6:1-3) Mae e’n disgwyl i rieni hyfforddi a chywiro eu plant. Mae gofyn i rieni dreulio amser gyda’u plant ac astudio’r Beibl gyda nhw, gan ofalu am eu hanghenion ysbrydol ac emosiynol. (Deuteronomium 11:18, 19; Diarhebion 22:6, 15) ’Ddylai rhieni byth ddisgyblu eu plant mewn modd creulon neu lym.—Colosiaid 3:21.
6. Pan fo cymheiriaid priodas yn cael trafferthion cyd-dynnu, fe ddylen’ nhw geisio gweithredu cyngor y Beibl. Mae’r Beibl yn ein hannog ni i ddangos cariad a bod yn faddeugar. (Colosiaid 3:12-14) Nid yw Gair Duw yn cymeradwyo ymwahanu fel ffordd i ddatrys problemau llai. Ond fe allai gwraig ddewis gadael ei gŵr (1) os yw e’n ystyfnig wrthod cynnal ei deulu, (2) os yw e mor dreisgar fel bod ei hiechyd a’i bywyd hi mewn perygl, neu (3) os yw ei wrthwynebiad eithafol yn ei gwneud hi’n amhosibl iddi hi addoli Jehofah.—1 Corinthiaid 7:12, 13.
7. Mae’n rhaid i gymheiriaid priodas fod yn ffyddlon i’w gilydd. Mae godineb yn bechod yn erbyn Duw ac yn erbyn y cymar priodas. (Hebreaid 13:4) Perthynas rywiol y tu allan i’r briodas yw’r unig sail Ysgrythurol dros ysgaru sy’n caniatáu ailbriodi. (Mathew 19:6-9; Rhufeiniaid 7:2, 3) Mae Jehofah yn casáu gweld pobl yn ysgaru heb fod sail Ysgrythurol dros wneud hynny, ac yn priodi â rhywun arall.—Malachi 2:14-16.
[Lluniau ar dudalennau 16, 17]
Mae tad cariadus yn darparu ar gyfer ei deulu yn faterol ac yn ysbrydol
[Llun ar dudalen 17]
Mae Duw yn disgwyl i rieni hyfforddi a chywiro eu plant