Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Eich Penderfyniad i Wasanaethu Duw

Eich Penderfyniad i Wasanaethu Duw

Gwers 16

Eich Penderfyniad i Wasanaethu Duw

Beth y mae’n rhaid i chi ei wneud i ddod yn gyfaill i Dduw? (1, 2)

Sut mae cysegru eich bywyd i Dduw? (1)

Pryd dylech chi gael eich bedyddio? (2)

Sut medrwch chi ymgryfhau i aros yn ffyddlon i Dduw? (3)

1. Er mwyn dod yn gyfaill i Dduw, mae’n rhaid i chi sicrhau gwybodaeth dda am wirionedd y Beibl (1 Timotheus 2:3, 4), roi ffydd yn y pethau ’rydych wedi’u dysgu (Hebreaid 11:6), edifarhau am eich pechodau (Actau 17:30, 31), a newid cwrs eich bywyd. (Actau 3:19) Yna fe ddylai eich cariad chi at Dduw eich cymell chi i’ch cysegru eich hun iddo. Mae hyn yn golygu eich bod yn dweud wrtho mewn gweddi bersonol ddirgel, eich bod yn eich rhoi eich hun iddo i wneud ei ewyllys.—Mathew 16:24; 22:37.

2. Wedi i chi ymgysegru i Dduw, fe ddylech chi gael eich bedyddio. (Mathew 28:19, 20) Mae cael eich bedyddio yn hysbysu pawb eich bod wedi’ch cysegru’ch hun i Jehofah. Felly mae bedydd yn unig ar gyfer y rhai sy’n ddigon hen i wneud penderfyniad i wasanaethu Duw. Pan gaiff person ei fedyddio, fe ddylid rhoi ei holl gorff o dan y dŵr am ennyd. *Marc 1:9, 10; Actau 8:36.

3. Wedi i chi ymgysegru, fe fydd Jehofah yn disgwyl i chi wireddu eich addewid. (Salmau 50:14; Pregethwr 5:4, 5) Fe fydd y Diafol yn ceisio eich rhwystro rhag gwasanaethu Jehofah. (1 Pedr 5:8) Ond neséwch at Dduw mewn gweddi. (Philipiaid 4:6, 7) Astudiwch ei Air bob dydd. (Salmau 1:1-3) Glynwch yn agos wrth y gynulleidfa. (Hebreaid 13:17) Wrth wneud hyn oll, fe ymgryfhewch i aros yn ffyddlon i Dduw. Am dragwyddoldeb gyfan, mi fedrwch chi fod yn gwneud y pethau mae Duw yn eu gofyn gennych!

[Troednodyn]

^ Par. 2 Fe gymeradwyir astudio Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol, neu lyfr tebyg a gyhoeddir gan y Watch Tower Bible and Tract Society, i baratoi ar gyfer bedydd.