Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gweithredoedd Mae Duw yn eu Casáu

Gweithredoedd Mae Duw yn eu Casáu

Gwers 10

Gweithredoedd Mae Duw yn eu Casáu

Sut dylech chi deimlo ynglŷn â phethau mae Duw yn dweud eu bod nhw’n ddrwg? (1)

Pa fathau o ymddygiad rhywiol sy’n anghywir? (2)

Beth ddylai agwedd Cristion fod tuag at ddweud celwydd? (3) gamblo? (3) lladrata? (3) trais? (4) ysbrydegaeth? (5) meddwdod? (6)

Sut gall person ymryddhau oddi wrth weithredoedd drwg? (7)

1. Mae gweision Duw yn caru’r hyn sydd yn dda. Ond mae’n rhaid iddyn’ nhw hefyd ddysgu casáu yr hyn sy’n ddrwg. (Salmau 97:10) Mae hynny’n golygu osgoi gweithgareddau arbennig y mae Duw yn eu casáu. Beth yw rhai o’r gweithgareddau hynny?

2. Puteindra: Mae cael rhyw cyn priodi, godinebu, bwystfileidd-dra, llosgach, a gwrywgydiaeth oll yn bechodau difrifol yn erbyn Duw. (Lefiticus 18:6; Rhufeiniaid 1:26, 27; 1 Corinthiaid 6:9, 10) Os yw pâr yn byw gyda’i gilydd ond heb briodi, fe ddylent wahanu neu briodi’n gyfreithlon.—Hebreaid 13:4.

3. Dweud Celwydd, Gamblo, Lladrata: Ni all Jehofah Dduw ddweud celwydd. (Titus 1:2) Mae’n rhaid i unigolion sydd am fod yn gymeradwy ganddo osgoi dweud celwydd. (Diarhebion 6:16-19; Colosiaid 3:9, 10) Mae pob ffurf ar gamblo wedi’i lygru gan chwant. Felly ’dyw Cristnogion ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw fath o gamblo, fel lotrïau, rasio ceffylau, a bingo. (Effesiaid 5:3-5) A ’dyw Cristnogion ddim yn lladrata. ’Dydyn nhw ddim yn ymwybodol brynu eiddo sydd wedi’i ladrata nac yn cymryd pethau heb ganiatâd.—Exodus 20:15; Effesiaid 4:28.

4. Tymer ddrwg, Trais: Fe all tymer ddireolaeth arwain at weithredoedd o drais. (Genesis 4:5-8) Ni all person treisgar fod yn gyfaill i Dduw. (Salmau 11:5; Diarhebion 22:24, 25) Nid yw’n iawn dial neu dalu drwg am y pethau anfad y gall eraill eu gwneud inni.—Diarhebion 24:29; Rhufeiniaid 12:17-21.

5. Swyngyfaredd ac Ysbrydegaeth: Mae rhai pobl yn galw ar bwerau ysbrydol i geisio gwella clefydau. Mae eraill yn bwrw swynion ar eu gelynion i’w gwneud yn glaf neu hyd yn oed i’w lladd nhw. Y grym y tu ôl i’r holl weithgareddau hyn ydi Satan. Felly nid yw Cristnogion i gymryd rhan yn unrhyw un ohonynt. (Deuteronomium 18:9-13) Cadw’n agos at Jehofah ydi’r amddiffyn gorau rhag swyngyfareddau y gall eraill eu bwrw arnom.—Diarhebion 18:10.

6. Meddwdod: ’Does dim o’i le mewn yfed ychydig win, neu gwrw neu ddiod alcoholaidd arall. (Salmau 104:15; 1 Timotheus 5:23) Ond mae yfed trwm a meddwdod yn ddrwg yng ngolwg Duw. (1 Corinthiaid 5:11-13; 1 Timotheus 3:8) Fe all yfed yn ormodol ddifetha’ch iechyd chi a tharfu ar eich teulu. Fe all hefyd achosi i chi ildio’n fuan iawn i demtasiynau eraill.—Diarhebion 23:20, 21, 29-35.

7. Ni chaiff unigolion sy’n gweithredu’r pethau y mae Duw yn dweud eu bod nhw’n ddrwg “etifeddu teyrnas Dduw.” (Galatiaid 5:19-21) Os ydych chi’n caru Duw yn wirioneddol ac yn dymuno ei foddhau, fe allwch ymryddhau oddi wrth y gweithredoedd hyn. (1 Ioan 5:3) Dysgwch gasáu yr hyn mae Duw yn ei ddweud sy’n ddrwg. (Rhufeiniaid 12:9) Cymdeithaswch â phobl sydd ag arferion duwiol. (Diarhebion 13:20) Fe all cyfeillion Cristnogol aeddfed eich helpu. (Iago 5:14) Yn fwy na dim, ymddiriedwch yn help Duw drwy weddi.—Philipiaid 4:6, 7, 13.

[Lluniau ar dudalennau 20, 21]

Mae Duw yn casáu meddwdod, lladrata, gamblo, a gweithredoedd treisiol