Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Helpu Eraill i Wneud Ewyllys Duw

Helpu Eraill i Wneud Ewyllys Duw

Gwers 15

Helpu Eraill i Wneud Ewyllys Duw

Pam dweud wrth eraill am yr hyn ’rydych yn ei ddysgu? (1)

 phwy y gallwch chi rannu’r newydd da? (2)

Pa effaith all eich ymddygiad ei gael ar eraill? (2)

Pryd cewch chi bregethu gyda’r gynulleidfa? (3)

1. Erbyn hyn ’rydych wedi dysgu llawer o bethau da o’r Beibl. Fe ddylai’r wybodaeth hon eich arwain chi i feithrin natur Gristnogol. (Effesiaid 4:22-24) Mae gwybodaeth o’r fath yn hanfodol er mwyn i chi ennill bywyd tragwyddol. (Ioan 17:3) Fodd bynnag, mae angen i eraill yn ogystal glywed y newydd da fel y gellir eu hachub nhw hefyd. Mae’n rhaid i bob gwir Gristion dystiolaethu i eraill. Gorchymyn Duw ydyw.—Rhufeiniaid 10:10; 1 Corinthiaid 9:16; 1 Timotheus 4:16.

2. Mi fedrwch chi gychwyn drwy rannu’r pethau da ’rydych yn eu dysgu gyda’r rhai sy’n agos atoch chi. Adroddwch nhw i’ch teulu, ffrindiau, cyd-ddisgyblion yn yr ysgol, a chydweithwyr. Byddwch yn garedig ac yn amyneddgar wrth i chi wneud hyn. (2 Timotheus 2:24, 25) Cofiwch fod pobl yn aml yn sylwi ar ymddygiad rhywun yn fwy nag y maen’ nhw’n gwrando ar yr hyn mae’n ei ddweud. Felly fe all eich ymddygiad da ddenu eraill i wrando ar y neges sydd gennych i’w dweud wrthynt.—Mathew 5:16; 1 Pedr 3:1, 2, 16.

3. Gydag amser, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau pregethu gyda chynulleidfa leol Tystion Jehofah. Mae hyn yn gam pwysig yn eich cynnydd. (Mathew 24:14) Dyna hyfrydwch fyddai petaech chi’n gallu helpu rhywun arall i ddod i wasanaethu Jehofah ac ennill bywyd tragwyddol!—1 Thesaloniaid 2:19, 20.