Mae’n Rhaid i Weision Duw Fod yn Lân
Gwers 9
Mae’n Rhaid i Weision Duw Fod yn Lân
Pam mae’n rhaid i ni fod yn lân ym mhob ffordd? (1)
Beth mae’n ei olygu i fod yn ysbrydol lân? (2) yn foesol lân? (3) yn feddyliol lân? (4) yn gorfforol lân? (5)
Pa fathau o sgwrsio aflan y dylem ni eu hosgoi? (6)
1. Mae Duw Jehofah yn lân ac yn sanctaidd. Mae e’n disgwyl i’w addolwyr barhau yn lân—yn ysbrydol, yn foesol, yn feddyliol, ac yn gorfforol. (1 Pedr 1:16) Mae’n golygu gwir ymdrech i gadw’n lân yng ngolwg Duw. ’Rydym ni’n byw mewn byd aflan. Hefyd mae angen inni ymdrechu yn erbyn ein tueddiadau ein hunain i wneud drwg. Ond rhaid inni beidio â digalonni.
2. Glendid Ysbrydol: Os ydym ni eisiau gwasanaethu Jehofah, ’fedrwn ni ddim glynu wrth unrhyw athrawiaethau nac arferion sy’n perthyn i gau grefydd. Mae’n rhaid inni ddod allan o gau grefydd a pheidio â’i chefnogi hi mewn unrhyw ffordd. (2 Corinthiaid 6:14-18; Datguddiad 18:4) Unwaith ’rydym ni wedi dysgu’r gwirionedd am Dduw, mae’n rhaid inni fod yn ofalus rhag cael ein camarwain gan bobl sy’n dysgu twyll.—2 Ioan 10, 11.
1 Pedr 2:12) Mae e’n gweld popeth a wnawn ni, hyd yn oed y pethau a wnawn yn y dirgel. (Hebreaid 4:13) Fe ddylem ni osgoi anfoesoldeb rhywiol a gweithredoedd aflan eraill y byd hwn.— 1 Corinthiaid 6:9-11.
3. Glendid Moesol: Mae Jehofah eisiau i’w addolwyr ymddwyn fel gwir Gristnogion bob amser. (4. Glendid Meddyliol: Os llanwn ni’n meddyliau â syniadau glân, pur, fe fydd ein hymarweddiad hefyd yn lân. (Philipiaid 4:8) Ond canlyniad oedi gyda phethau aflan fydd gwneud drygioni. (Mathew 15:18-20) Fe ddylem ni osgoi mathau o adloniant a allai faeddu’n meddyliau. Fe fedrwn ni lenwi’n meddyliau â syniadau glân wrth astudio Gair Duw.
5. Glendid Corfforol: Am eu bod nhw’n cynrychioli Duw, fe ddylai Cristnogion gadw’u cyrff a’u dillad yn lân. Fe ddylem ni olchi’n dwylo ar ôl defnyddio’r toiled, ac fe ddylem ni eu golchi nhw cyn bwyta neu drin bwyd. Os nad oes gennych drefn ddigonol i waredu carthion, fe ddylid claddu gwastraff toiled. (Deuteronomium 23:12, 13) Mae cadw’n gorfforol lân yn hybu iechyd da. Fe ddylai cartref Cristion fod yn lân ac yn daclus y tu mewn a’r tu allan. Fe ddylai fod yn amlwg yn y gymuned fel esiampl dda.
6. Sgwrsio Glân: Mae’n rhaid i weision Duw ddweud y gwir bob amser. ’Fydd neb celwyddog yn mynd i mewn i Deyrnas Dduw. (Effesiaid 4:25; Datguddiad 21:8) Nid yw Cristnogion yn rhegi. ’Dydyn nhw ddim yn gwrando ar jôcs brwnt na storïau anweddus nac yn eu hadrodd. Oherwydd eu sgwrsio glân, maen’ nhw’n amlwg wahanol yn y gwaith neu yn yr ysgol ac yn y gymdogaeth.—Effesiaid 4:29, 31; 5:3.
[Lluniau ar dudalennau 18, 19]
Mae’n rhaid i weision Duw fod yn lân ym mhob agwedd