Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Nesáu at Dduw mewn Gweddi

Nesáu at Dduw mewn Gweddi

Gwers 7

Nesáu at Dduw mewn Gweddi

Pam mae hi’n bwysig i weddïo’n rheolaidd? (1)

Ar bwy dylem ni weddïo, a sut? (2, 3)

Beth sy’n destunau cymwys wrth weddïo? (4)

Pryd dylech chi weddïo? (5, 6)

A yw Duw yn gwrando ar bob gweddi? (7)

1. Siarad yn ostyngedig â Duw ydi gweddi. Fe ddylech weddïo ar Dduw yn rheolaidd. Felly fe fedrwch chi deimlo’n agos ato megis at ffrind annwyl. Mae Jehofah mor fawr a grymus, eto mae e’n gwrando ar ein gweddïau ni! ’Fyddwch chi’n gweddïo ar Dduw yn rheolaidd?—Salmau 65:2; 1 Thesaloniaid 5:17.

2. Mae gweddi yn rhan o’n haddoliad ni. Felly, dim ond ar Dduw, Jehofah, y dylem ni weddïo. Pan oedd Iesu ar y ddaear, ’roedd e bob amser yn gweddïo ar ei Dad, nid ar neb arall. Fe ddylem ninnau wneud yr un peth. (Mathew 4:10; 6:9) Fodd bynnag, fe ddylem ni ddweud ein holl weddïau yn enw Iesu. Mae hyn yn dangos ein bod ni’n parchu safle Iesu a bod gennym ffydd yn ei aberth pridwerthol.—Ioan 14:6; 1 Ioan 2:1, 2.

3. Wrth weddïo fe ddylem ni siarad â Duw o’n calon. ’Ddylem ni ddim dweud ein gweddïau o’n cof na’u darllen nhw o lyfr gweddi. (Mathew 6:7, 8) Fe fedrwn ni weddïo mewn unrhyw ystum parchus, ar unrhyw adeg, ac yn unrhyw fan. Fe all Duw glywed hyd yn oed gweddïau distaw a fynegir yn ein calonnau. (1 Samuel 1:12, 13) Da yw canfod lle tawel ar wahân i bobl eraill i ddweud ein gweddïau personol.—Marc 1:35.

4. Pa destunau fedrwch chi weddïo amdanyn’ nhw? Unrhyw beth a all effeithio ar eich cyfeillgarwch ag ef. (Philipiaid 4:6, 7) Mae’r weddi enghreifftiol yn dangos y dylem ni weddïo ynglŷn ag enw a phwrpas Jehofah. Fe allwn ni hefyd ofyn am ddarparu ein hanghenion materol, am faddau’n pechodau, ac am help i wrthsefyll prawf temtasiwn. (Mathew 6:9-13) ’Ddylai ein gweddïau ni ddim bod yn hunanol. Dim ond am bethau sydd mewn harmoni ag ewyllys Duw y dylem ni weddïo.—1 Ioan 5:14.

5. Fe gewch chi weddïo pryd bynnag mae eich calon yn eich ysgogi chi i ddiolch i Dduw neu i’w glodfori. (1 Cronicl 29:10-13) Fe ddylech weddïo pan mae problemau gennych a’ch ffydd yn cael ei rhoi ar brawf. (Salmau 55:22; 120:1) Mae hi’n addas gweddïo cyn pryd bwyd. (Mathew 14:19) Mae Jehofah yn ein gwahodd ni i weddïo “bob amser.”—Effesiaid 6:18.

6. Mae angen arbennig arnom i weddïo os ydym wedi cyflawni pechod difrifol. Ar adegau o’r fath fe ddylem ni erfyn am drugaredd a maddeuant Jehofah. Os cyffeswn ein pechodau iddo a gwneud ein gorau’n wirioneddol i beidio â’u hailadrodd nhw, mae Duw yn “faddeugar.”—Salmau 86:5; Diarhebion 28:13.

7. Dim ond ar weddïau pobl gyfiawn mae Jehofah yn gwrando. Er mwyn i Dduw wrando ar eich gweddïau chi, mae’n rhaid i chi fod yn gwneud eich gorau i fyw yn ôl ei ddeddfau. (Diarhebion 15:29; 28:9) Mae’n rhaid i chwi fod yn ostyngedig wrth weddïo. (Luc 18:9-14) Mae’n rhaid i chi ymdrechu i weithredu yn ôl yr hyn ’rydych yn gweddïo amdano. Fel hyn y byddwch yn profi fod gennych ffydd a’ch bod chi’n wirioneddol yn golygu’r hyn a ddywedwch. Dim ond wedyn y bydd Jehofah yn ateb eich gweddïau.—Hebreaid 11:6.