Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Parchu Bywyd a Gwaed

Parchu Bywyd a Gwaed

Gwers 12

Parchu Bywyd a Gwaed

Sut dylem ni ystyried bywyd? (1) erthylu? (1)

Sut mae Cristnogion yn dangos eu bod nhw’n ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch? (2)

Ydi hi’n anghywir lladd anifeiliaid? (3)

Beth yw rhai arferion nad ydynt yn dangos parch at fywyd? (4)

Beth yw cyfraith Duw ynglŷn â gwaed? (5)

A yw hyn yn cynnwys trallwyso gwaed? (6)

1. Jehofah yw Ffynhonnell bywyd. Mae popeth byw yn ddyledus i Dduw am ei fywyd. (Salmau 36:9) Mae bywyd yn gysegredig gan Dduw. Mae hyd yn oed fywyd plentyn sydd heb ei eni y tu mewn i’w fam yn werthfawr gan Jehofah. Byddai lladd yn fwriadol faban sy’n datblygu fel hyn, yn ddrwg yng ngolwg Duw.—Exodus 21:22, 23; Salmau 127:3.

2. Mae gwir Gristnogion yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch. Maen’ nhw’n sicrhau fod eu ceir a’u cartrefi yn ddiogel. (Deuteronomium 22:8) Nid yw gweision Duw yn mentro peryglu eu bywydau yn ddiangen er mwyn pleser neu gyffro. Felly ’dydyn’ nhw ddim yn cymryd rhan mewn chwaraeon treisiol sy’n fwriadol niweidio pobl eraill. Maen’ nhw’n osgoi adloniant sy’n annog trais.—Salmau 11:5; Ioan 13:35.

3. Mae bywyd anifeiliaid hefyd yn gysegredig gan y Creawdwr. Fe ganiateir i Gristion ladd anifeiliaid i ddarparu bwyd a dillad neu i’w amddiffyn ei hun rhag afiechyd a pherygl. (Genesis 3:21; 9:3; Exodus 21:28) Ond nid yw’n iawn camdrin anifeiliaid neu eu lladd nhw er mwyn difyrrwch neu bleser.—Diarhebion 12:10.

4. Nid yw ysmygu, cnoi cnau betel, a chymryd cyffuriau er mwyn pleser yn addas i Gristnogion. Mae’r arferion hyn yn anghywir oherwydd eu bod nhw (1) yn ein gwneud ni’n gaeth iddynt, (2) yn niweidio’n cyrff, ac (3) yn aflan. (Rhufeiniaid 6:19; 12:1; 2 Corinthiaid 7:1) Fe all fod yn anodd iawn rhoi’r gorau i’r arferion hyn. Ond mae’n rhaid gwneud i foddhau Jehofah.

5. Mae gwaed hefyd yn gysegredig yng ngolwg Duw. Mae Duw yn dweud fod yr enaid, neu’r bywyd, yn y gwaed. Felly nid yw’n iawn bwyta gwaed. ’Dyw hi ddim yn iawn chwaith bwyta cig anifail nad yw wedi’i waedu’n addas. Os tagir anifail neu os yw’n marw mewn magl, ni ddylid ei fwyta. Os picellir e neu ei saethu, rhaid ei waedu ar unwaith os yw i gael ei fwyta.—Genesis 9:3, 4; Lefiticus 17:13, 14; Actau 15:28, 29.

6. A yw derbyn trallwysiad gwaed yn anghywir? Cofiwch fod Jehofah yn gofyn inni ymgadw rhag gwaed. Rhaid inni beidio felly â derbyn i’n cyrff mewn unrhyw fodd o gwbl waed pobl eraill na hyd yn oed waed o gronfa o’n gwaed ein hunain wedi’i storio. (Actau 21:25) Felly nid yw gwir Gristnogion yn derbyn trallwysiad gwaed. Fe dderbyniant fathau eraill o driniaeth feddygol, megis trallwyso cynhyrchion di-waed. Maen’ nhw eisiau byw, ond ’wnân’ nhw ddim ceisio achub eu bywyd drwy dorri cyfraith Duw.—Mathew 16:25.

[Lluniau ar dudalen 25]

Er mwyn boddhau Duw, rhaid i ni osgoi trallwysiadau gwaed, arferion aflan, a pheryglon diangen