Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pwy Yw Duw?

Pwy Yw Duw?

Gwers 2

Pwy Yw Duw?

Pwy ydi’r gwir Dduw, a beth yw ei enw? (1, 2)

Pa fath o gorff sydd ganddo? (3)

Beth ydi ei nodweddion nodedig? (4)

’Ddylem ni ddefnyddio delwau a symbolau wrth inni ei addoli? (5)

Pa ddwy ffordd sydd gennym i ddysgu am Dduw? (6)

1. Mae pobl yn addoli llawer o bethau. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthym mai dim ond un GWIR Dduw sydd. Fe greodd bopeth yn y nefoedd ac ar y ddaear. Oherwydd iddo roddi bywyd inni, ef yw’r unig Un y dylem ei addoli.—1 Corinthiaid 8:5, 6; Datguddiad 4:11.

2. Mae gan Dduw lawer o deitlau, ond dim ond un enw sydd ganddo. JEHOFAH ydi’r enw hwnnw. Yn y rhan fwyaf o Feiblau, mae enw Duw wedi cael ei ddileu ac wedi cael ei ddisodli gan y teitlau ARGLWYDD neu DUW. Ond pan ysgrifennwyd y Beibl, fe ymddangosai yr enw Jehofah ynddo rhyw 7,000 o weithiau!—Exodus 3:15; Salmau 83:18, Beibl Cysegr-Lân.

3. Mae gan Jehofah gorff, ond ’dyw e ddim fel ein corff ni. “Ysbryd yw Duw,” meddai’r Beibl. (Ioan 4:24) Mae ysbryd yn ffurf ar fywyd sy’n llawer uwch na’n bywyd ni. ’Does neb dynol erioed wedi gweld Duw. Mae Jehofah yn byw yn y nefoedd, ond mae e’n medru gweld pob peth. (Salmau 11:4, 5; Ioan 1:18) Ond, beth yw’r ysbryd sanctaidd? Nid person ydyw fel Duw. Yn hytrach, grym gweithredol Duw ydyw.—Salmau 104:30, BCL.

4. Mae’r Beibl yn datguddio personoliaeth Jehofah inni. Mae’n dangos mai ei nodweddion nodedig ydi cariad, cyfiawnder, doethineb, a gallu. (Deuteronomium 32:4; Job 12:13; Eseia 40:26; 1 Ioan 4:8) Mae’r Beibl yn dweud wrthym ei fod e hefyd yn drugarog, yn garedig, yn faddeugar, yn hael, ac yn amyneddgar. Fe ddylem ni, fel plant ufudd, geisio’i efelychu.—Effesiaid 5:1, 2.

5. ’Ddylem ni ymgrymu i ddelwau, lluniau, neu symbolau neu weddïo arnyn’ nhw wrth inni addoli? Na ddylem! (Exodus 20:4, 5) Mae Jehofah yn dweud mai ef yn unig yr ydym i’w addoli. Ni fydd yn rhannu ei ogoniant â neb na dim arall. ’Does gan ddelwau ddim gallu i’n helpu ni.—Salmau 115:4-8; Eseia 42:8.

6. Sut medrwn ni ddod i ’nabod Duw yn well? Un ffordd ydi trwy arsylwi ar y pethau a greodd ac ystyried yn ddwfn yr hyn a ddywedant wrthym. Mae creadigaethau Duw yn dangos inni fod ganddo allu a doethineb mawr. Fe welwn ei gariad ym mhopeth a wnaeth. (Salmau 19:1-6; Rhufeiniaid 1:20) Ffordd arall y gallwn ni ddysgu am Dduw ydi trwy astudio’r Beibl. Ynddo mae E’n dweud llawer mwy wrthym am y math o Dduw ydi E. Mae E hefyd yn dweud wrthym am Ei bwrpas a beth y mae eisiau i ni ei wneud.—Amos 3:7; 2 Timotheus 3:16, 17.

[Lluniau ar dudalen 5]

’Rydym yn dysgu am Dduw o’r greadigaeth ac o’r Beibl