Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pwy Yw Iesu Grist?

Pwy Yw Iesu Grist?

Gwers 3

Pwy Yw Iesu Grist?

Pam mae Iesu yn cael ei alw yn Fab “cyntafanedig” Duw? (1)

Pam mae e’n cael ei alw “y Gair”? (1)

Pam daeth Iesu i’r ddaear ar ffurf dyn? (2-4)

Pam ’roedd e’n cyflawni gwyrthiau? (5)

Beth fydd Iesu yn ei wneud yn y dyfodol agos? (6)

1. ’Roedd Iesu yn byw yn y nefoedd ar ffurf ysbryd cyn iddo ddod i’r ddaear. Ef oedd creadigaeth cyntaf Duw, ac felly mae’n cael ei alw yn Fab “cyntafanedig” Duw. (Colosiaid 1:15; Datguddiad 3:14) Iesu ydi’r unig Fab i Dduw ei hun ei greu. Fe ddefnyddiodd Jehofah yr Iesu cynddynol fel ei athrylith o gynllunydd “wrth ei ochr yn gyson” i greu pob peth arall yn y nefoedd ac ar y ddaear. (Diarhebion 8:22-31; Colosiaid 1:16, 17) Fe ddefnyddiodd Duw e hefyd fel Ei brif lefarydd. Dyna pam y gelwir Iesu “y Gair.”—Ioan 1:1-3; Datguddiad 19:13.

2. Fe anfonodd Duw Ei Fab i’r ddaear drwy drosglwyddo ei fywyd i groth Mair. Felly ’doedd gan Iesu ddim tad dynol. Dyna pam na fu iddo etifeddu unrhyw bechod nac amherffeithrwydd. Anfonodd Duw Iesu i’r ddaear am dri rheswm: (1) I ddysgu inni’r gwirionedd am Dduw (Ioan 18:37), (2) i gynnal uniondeb perffaith, gan osod esiampl i ni ei dilyn (1 Pedr 2:21), a (3) i aberthu ei fywyd i’n rhyddhau ni o afael pechod a marwolaeth. Pam ’roedd angen hyn?—Mathew 20:28.

3. Wrth anufuddhau i orchymyn Duw, fe gyflawnodd Adda, y dyn cyntaf, yr hyn y mae’r Beibl yn ei alw’n “bechod.” Felly, dedfrydodd Duw ef i farw. (Genesis 3:17-19) ’Doedd e ddim yn cwrdd â gofynion Duw mwyach, felly ’doedd e bellach ddim yn berffaith. Yn araf fe heneiddiodd a marw. Fe drosglwyddodd Adda bechod i’w holl blant. Dyna pam ’rydym ninnau hefyd yn heneiddio, yn clafychu, a marw. Sut y gellid achub y ddynolryw?—Rhufeiniaid 3:23; 5:12.

4. ’Roedd Iesu’n fod dynol perffaith yn union fel Adda. Ond, yn wahanol i Adda, ’roedd Iesu’n berffaith ufudd i Dduw hyd yn oed o dan y prawf mwyaf. Gallai, o’r herwydd, aberthu ei fywyd dynol perffaith i dalu am bechod Adda. Dyma’r hyn y mae’r Beibl yn cyfeirio ato fel y “pridwerth.” Gellid felly ryddhau plant Adda rhag dedfryd marwolaeth. Gall pawb sy’n rhoi eu ffydd yn Iesu gael maddau eu pechodau a derbyn bywyd tragwyddol.—1 Timotheus 2:5, 6; Ioan 3:16; Rhufeiniaid 5:18, 19.

5. Pan ’roedd e ar y ddaear fe iachaodd Iesu y claf, bwydo’r newynog, a thawelu tymhestloedd. Fe atgyfododd e’r meirw hyd yn oed. Pam gyflawnodd e wyrthiau? (1) ’Roedd e’n teimlo tosturi dros bobl oedd yn dioddef, ac ’roedd e eisiau eu helpu nhw. (2) ’Roedd ei wyrthiau yn profi mai Mab Duw oedd e. (3) ’Roedden’ nhw’n dangos beth y bydd yn ei wneud ar ran y ddynolryw ufudd pan fydd yn teyrnasu fel Brenin dros y ddaear.—Mathew 14:14; Marc 2:10-12; Ioan 5:28, 29.

6. Bu Iesu farw ac fe gafodd ei atgyfodi gan Dduw yn ysbryd greadur, a dychwelodd i’r nef. (1 Pedr 3:18) Oddi ar hynny, mae Duw wedi’i wneud yn Frenin. Cyn bo hir fe fydd Iesu yn symud ymaith pob drygioni a dioddefaint oddi ar y ddaear hon.—Salmau 37:9-11; Diarhebion 2:21, 22.

[Lluniau ar dudalen 7]

’Roedd gweinidogaeth Iesu yn cynnwys dysgu, cyflawni gwyrthiau, a hyd yn oed offrymu’i fywyd drosom ni