Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pwy Yw’r Diafol?

Pwy Yw’r Diafol?

Gwers 4

Pwy Yw’r Diafol?

Satan y Diafol—o ble daeth e? (1, 2)

Sut mae Satan yn camarwain pobl? (3-7)

Pam dylech chi wrthsefyll y Diafol? (7)

1. Mae’r gair “diafol” yn golygu rhywun sy’n dweud celwydd drwg am berson arall. Ystyr “satan” ydi gelyn neu wrthwynebydd. Dyma dermau a roddir i elyn pennaf Duw. Ar y cychwyn, ’roedd e’n angel perffaith yn y nefoedd gyda Duw. Fodd bynnag, yn ddiweddarach fe feddyliodd ormod ohono’i hun ac ’roedd yn dymuno cael yr addoliad sy’n iawn berthyn i Dduw.—Mathew 4:8-10.

2. Fe siaradodd yr angel hwn, Satan, gydag Efa drwy gyfrwng neidr. Drwy ddweud celwydd wrthi, fe’i cafodd hi i anufuddhau i Dduw. Felly fe ymosododd Satan ar yr hyn a elwir yn “awdurdod brenhinol” Duw, neu ei safle fel y Goruchaf. Fe gododd Satan amheuaeth a yw Duw yn teyrnasu mewn modd teilwng er budd a lles Ei ddeiliaid. Fe gododd Satan amheuaeth hefyd a fyddai unrhyw fod dynol yn aros yn deyrngar i Dduw. Wrth weithredu fel hyn, gwnaeth Satan ei hun yn elyn i Dduw. Dyna pam y cafodd yr enw Satan y Diafol.—Genesis 3:1-5; Job 1:8-11; Datguddiad 12:9.

3. Mae Satan yn ceisio twyllo pobl i’w cael nhw i’w addoli e. (2 Corinthiaid 11:3, 14) Un ffordd sydd ganddo o gamarwain pobl ydi trwy gau grefydd. Os oes crefydd yn dysgu celwyddau am Dduw, mae hynny’n ateb diben Satan i’r dim. (Ioan 8:44) Fe all pobl sy’n aelodau gau grefyddau gredu’n ddiffuant eu bod nhw’n addoli’r gwir Dduw. Ond y ffaith amdani yw eu bod nhw’n gwasanaethu Satan. Ef ydi “duw’r oes bresennol.”—2 Corinthiaid 4:4.

4. Mae ysbrydegaeth yn ffordd arall sydd gan Satan o ddod â phobl dan ei awdurdod. Efallai eu bod nhw’n galw ar ysbrydion i’w hamddiffyn, i niweidio eraill, i ragfynegi’r dyfodol, neu i gyflawni gwyrthiau. Satan ydi’r grym drwg sydd y tu ôl i’r holl arferion hyn. Er mwyn boddhau Duw, rhaid i ni beidio ag ymhél dim ag ysbrydegaeth.—Deuteronomium 18:10-12; Actau 19:18, 19.

5. Mae Satan hefyd yn camarwain pobl drwy falchder hiliol eithafol ac addoli cyfundrefnau gwleidyddol. Mae rhai yn credu fod eu cenedl neu eu hil nhw yn well nag eraill. Ond ’dyw hyn ddim yn wir. (Actau 10:34, 35) Mae pobl eraill yn edrych i gyfeiriad cyfundrefnau gwleidyddol i ddatrys problemau dyn. Wrth wneud hyn, maen’ nhw’n gwrthod Teyrnas Dduw. Hi yw’r unig ateb i’n problemau. —Daniel 2:44.

6. Ffordd arall sydd gan Satan o gamarwain pobl ydi drwy eu temtio nhw â chwantau pechadurus. Mae Jehofah yn dweud wrthym i osgoi arferion pechadurus oherwydd fe ŵyr y byddant yn gwneud niwed inni. (Galatiaid 6:7, 8) Fe all y bydd rhai pobl am i chi ymuno â nhw mewn arferion o’r fath. Ond, cofiwch, Satan mewn gwirionedd sydd am i chi wneud y pethau hyn.—1 Corinthiaid 6:9, 10; 15:33.

7. Fe all Satan ddefnyddio erledigaeth neu wrthwynebiad er mwyn eich cael chi i adael Jehofah. Efallai y bydd rhai o’ch anwyliaid yn troi yn ddig iawn am eich bod chi’n astudio’r Beibl. Efallai y bydd eraill yn eich gwawdio. Ond i bwy ’rydych yn ddyledus am eich bywyd? Mae Satan am eich dychryn chi fel y byddwch yn peidio â pharhau i ddysgu am Jehofah. Peidiwch â gadael i Satan ennill! (Mathew 10:34-39; 1 Pedr 5:8, 9) Drwy wrthsefyll y Diafol, mi fedrwch wneud Jehofah yn hapus a dangos eich bod yn cefnogi Ei awdurdod brenhinol.—Diarhebion 27:11.

[Lluniau ar dudalen 9]

Mae gau grefydd, ysbrydegaeth, a chenedlaetholdeb yn camarwain pobl

[Llun ar dudalen 9]

Gwrthsefwch Satan drwy barhau i ddysgu am Jehofah