Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Cyfundrefnir Tystion Jehofah

Sut Cyfundrefnir Tystion Jehofah

Gwers 14

Sut Cyfundrefnir Tystion Jehofah

Pryd cafodd Tystion Jehofah gychwyn yn yr oes ddiweddar? (1)

Sut mae cyfarfodydd Tystion Jehofah yn cael eu cynnal? (2)

Sut gofelir am dreuliau? (3)

Pwy sy’n cymryd yr arweiniad ym mhob cynulleidfa? (4)

Pa gyfarfodydd mwy a gynhelir bob blwyddyn? (5)

Pa waith a wneir yn eu pencadlys a’u swyddfeydd cangen? (6)

1. Rhoddwyd cychwyn i Dystion Jehofah yn yr oes ddiweddar yn y 1870au. Ar y cychwyn, fe’u galwyd wrth yr enw Myfyrwyr y Beibl. Ond yn 1931 fe fu iddyn’ nhw fabwysiadu’r enw Ysgrythurol, Tystion Jehofah. (Eseia 43:10) O gychwyniadau bychain mae’r gyfundrefn wedi tyfu’n filiynau o Dystion, sydd yn brysur yn pregethu mewn rhagor na 230 o wledydd.

2. Mae’r mwyafrif o gynulleidfaoedd Tystion Jehofah yn cynnal cyfarfodydd dair gwaith bob wythnos. Gwahoddir chi i fod yn bresennol yn unrhyw un o’r rhain. (Hebreaid 10:24, 25) Y Beibl yw sail yr hyn a ddysgir. Fe agorir ac fe gloir cyfarfodydd â gweddi. Hefyd fe genir “caniadau ysbrydol” o’r galon yn y mwyafrif o’r cyfarfodydd. (Effesiaid 5:18, 19) ’Does dim tâl am fynediad, ac ni wneir casgliad.—Mathew 10:8.

3. Mae’r mwyafrif o gynulleidfaoedd yn cynnal cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas. Fel rheol adeilad syml ydyw wedi’i godi gan wirfoddolwyr o Dystion. ’Welwch chi ddim eilunod, croesau, na phethau o’r fath yn Neuadd y Deyrnas. Fe delir am dreuliau drwy roddion gwirfoddol. Mae blwch cyfrannu ar gyfer y sawl sydd yn dymuno rhoddi.—2 Corinthiaid 9:7.

4. Ym mhob cynulleidfa mae ’na henuriaid, neu oruchwylwyr. Nhw sy’n cymryd yr arweiniad yn hyfforddi’r gynulleidfa. (1 Timotheus 3:1-7; 5:17) Maen’ nhw’n cael eu cynorthwyo gan weision gweinidogaethol. (1 Timotheus 3:8-10, 12, 13) Nid yw’r dynion hyn yn cael eu dyrchafu uwchben gweddill y gynulleidfa. (2 Corinthiaid 1:24) ’Does dim teitlau arbennig ganddyn’ nhw. (Mathew 23:8-10) ’Dydyn’ nhw ddim yn gwisgo’n wahanol i eraill. ’Dydyn nhw ddim chwaith yn cael eu talu am eu gwaith. Mae’r henuriaid yn gofalu o’u gwirfodd am anghenion ysbrydol y gynulleidfa. Fe allan’ nhw ddarparu cysur a chyngor yn amser gofid.—Iago 5:14-16; 1 Pedr 5:2, 3.

5. Mae Tystion Jehofah hefyd yn cynnal cynulliadau neu gymanfaoedd mawr bob blwyddyn. Ar yr adegau hyn daw llawer o gynulleidfaoedd at ei gilydd ar gyfer rhaglen arbennig o hyfforddiant o’r Beibl. Mae bedyddio disgyblion newydd yn rhan reolaidd o raglen pob cynulliad a chymanfa.—Mathew 3:13-17; 28:19, 20.

6. Yn Efrog Newydd mae pencadlys-byd Tystion Jehofah. Yno lleolir y Corff Llywodraethol, grŵp allweddol o henuriaid profiadol sy’n goruchwylio’r gynulleidfa fyd-eang. Mae hefyd dros 100 o swyddfeydd cangen dros y byd. Yn y mannau hyn, mae gwirfoddolwyr yn helpu i argraffu a danfon llenyddiaeth Feiblaidd. Rhoddir cyfarwyddyd hefyd ynglŷn â threfnu’r gwaith pregethu. Pam na threfnwch chi i ymweld â’r swyddfa gangen agosaf atoch chi?