Sut Medrwch Chi Ganfod y Wir Grefydd?
Gwers 13
Sut Medrwch Chi Ganfod y Wir Grefydd?
A yw pob crefydd yn boddhau Duw, neu ai dim ond un sydd? (1)
Pam mae ’na gymaint o grefyddau sy’n honni bod yn Gristnogol? (2)
Sut medrwch chi ’nabod gwir Gristnogion? (3-7)
1. Fe roddodd Iesu gychwyn i un wir grefydd Gristnogol. Felly heddiw mae’n rhaid mai dim ond un corff, neu grŵp, o wir addolwyr Jehofah Dduw sydd. (Ioan 4:23, 24; Effesiaid 4:4, 5) Mae’r Beibl yn dysgu mai ychydig o bobl yn unig sydd ar y ffordd gul i fywyd.—Mathew 7:13, 14.
2. Fe ragfynegodd y Beibl y byddai, wedi marw’r apostolion, gau ddysgeidiaeth ac arferion anghristnogol yn treiddio’n araf i mewn i’r gynulleidfa Gristnogol. Byddai dynion yn denu credinwyr ymaith i’w canlyn nhw yn hytrach na Christ. (Mathew 7:15, 21-23; Actau 20:29, 30) Dyna pam ’rydym yn gweld cymaint o wahanol grefyddau sy’n honni bod yn Gristnogol. Sut medrwn ni ’nabod gwir Gristnogion?
3. Nodwedd mwyaf amlwg gwir Gristnogion yw fod ganddynt wir gariad tuag at ei gilydd. (Ioan 13:34, 35) ’Dydyn’ nhw ddim yn cael eu dysgu i feddwl eu bod nhw’n well na phobl hiliau eraill neu o liw croen gwahanol. ’Dydyn nhw ddim chwaith yn cael eu dysgu i gasáu pobl o wledydd eraill. (Actau 10:34, 35) Felly ’dydyn’ nhw ddim yn cymryd rhan mewn rhyfeloedd. Mae gwir Gristnogion yn trin ei gilydd fel brodyr a chwiorydd.—1 Ioan 4:20, 21.
4. Nodwedd arall gwir grefydd yw fod gan ei haelodau barch mawr at y Beibl. Maen’ nhw’n ei dderbyn fel Gair Duw ac yn credu’r hyn mae’n ei ddweud. (Ioan 17:17; 2 Timotheus 3:16, 17) Maen’ nhw’n ystyried bod Gair Duw yn bwysicach na syniadau ac arferion dynol. (Mathew 15:1-3, 7-9) Maen’ nhw’n ceisio byw yn ôl y Beibl yn eu bywyd bob dydd. Felly ’dydyn’ nhw ddim yn pregethu un peth a gweithredu rhywbeth arall.—Titus 1:15, 16.
5. Mae’n rhaid i’r wir grefydd hefyd anrhydeddu enw Duw. (Mathew 6:9) Fe wnaeth Iesu enw Duw, Jehofah, yn hysbys i eraill. Mae’n rhaid i wir Gristnogion wneud yr un modd. (Ioan 17:6, 26; Rhufeiniaid 10:13, 14) Pwy yw’r bobl yn eich cymdogaeth chi sy’n dweud wrth eraill am enw Duw?
6. Mae’n rhaid i wir Gristnogion bregethu am Deyrnas Dduw. Fe wnaeth Iesu hyn. ’Roedd e bob amser yn siarad am y Deyrnas. (Luc 8:1) Fe orchmynnodd i’w ddisgyblion bregethu’r un neges hon yn yr holl ddaear. (Mathew 24:14; 28:19, 20) Mae gwir Gristnogion yn credu mai Teyrnas Dduw yn unig ddaw â gwir heddwch a diogelwch i’r ddaear hon.—Salmau 146:3-5.
7. Mae’n rhaid i ddisgyblion Iesu beidio â bod yn rhan o’r byd drwg hwn. (Ioan 17:16) Maen’ nhw’n cadw’n glir rhag materion gwleidyddol a dadleuon cymdeithasol y byd. Maen’ nhw’n osgoi’r ymddygiad, y gweithredoedd, a’r agweddau niweidiol sy’n gyffredin yn y byd. (Iago 1:27; 4:4) ’Fedrwch chi feddwl am grŵp crefyddol yn eich cymdogaeth chi sydd â nodweddion y wir Gristnogaeth hyn ganddo?
[Lluniau ar dudalen 26, 27]
Mae gwir Gristnogion yn caru ei gilydd, yn parchu’r Beibl, ac yn pregethu am Deyrnas Dduw