Neidio i'r cynnwys

Beth Mae Tystion Jehofah yn ei Gredu?

Beth Mae Tystion Jehofah yn ei Gredu?

Beth Mae Tystion Jehofah yn ei Gredu?

“Fe garem glywed gennyt ti beth yw dy ddaliadau; oherwydd fe wyddom ni am y sect hon, ei bod yn cael ei gwrthwynebu ym mhobman.” (Actau 28:22) Fe osododd yr arweinwyr cymunedol hyn yn Rhufain y ganrif gynta’ esiampl wych. ’Roedden’ nhw eisiau clywed o’r ffynhonnell, yn hytrach na chan feirniaid o’r tu allan yn unig.

Yn yr un modd, mae llawer o siarad yn erbyn Tystion Jehofah heddiw, a chamgymeriad fyddai disgwyl dysgu y gwirionedd amdanyn’ nhw o ffynonellau sy’n dangos rhagfarn. Felly pleser ydi egluro i chi rai o’n prif ddaliadau.

Y Beibl, Iesu Grist, a Duw

’Rydyn ni’n credu fod “pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol.” (2 Timotheus 3:16) Ac er bod rhai wedi honni nad ydyn ni ddim yn Gristnogion go iawn, ’dydi hyn ddim yn wir o gwbl. ’Rydyn ni’n cefnogi’n llawn dystiolaeth yr apostol Pedr ynglyn â Iesu Grist: “Nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i ddynion, y mae i ni gael ein hachub drwyddo.” Actau 4:12.

Fodd bynnag, oherwydd i Iesu ddweud mai “Mab Duw” ydyw a “Y Tad byw a’m hanfonodd i,” mae Tystion Jehofah yn credu fod Duw yn fwy na Iesu. (Ioan 10:36; 6:57) Mae Iesu ei hun wedi cydnabod: “Y mae’r Tad yn fwy na mi.” (Ioan 14:28; 8:28) Felly ’dydyn ni ddim yn credu fod Iesu yn gyfartal â’r Tad, fel mae dysgeidiaeth y Drindod yn dweud. Yn hytrach, ’rydyn ni’n credu iddo gael ei greu gan Dduw a’i fod yn ddarostyngedig iddo Ef. Colosiaid 1:15; 1 Corinthiaid 11:3.

Yn yr iaith Gymraeg, enw Duw ydi Jehofah. Mae’r Beibl yn dweud: “Tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.” (Salm 83:18, Y Beibl Cysegr-Lân, Argraffiad 1974) Yn unol â’r datganiad hwn, ’roedd Iesu yn rhoi pwyslais mawr ar enw Duw, gan ddysgu i’w ganlynwyr weddio: “Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw.” Ac fe weddiodd ef ei hun ar Dduw: “Yr wyf wedi amlygu dy enw i’r dynion a roddaist imi.” Mathew 6:9; Ioan 17:6.

Mae Tystion Jehofah yn credu y dylen’ nhw fod fel Iesu yn gwneud enw ac amcanion Duw yn amlwg i eraill. Felly ’rydyn ni wedi cymryd yr enw Tystion Jehofah am ein bod yn efelychu Iesu, “y tyst ffyddlon.” (Datguddiad 1:5; 3:14) Yn addas, mae Eseia 43:10 yn dweud wrth bobl gynrychioliadol Duw: “‘Chwi yw fy nhystion,’ medd yr ARGLWYDD [“Jehovah,” New World Translation of the Holy Scriptures], ‘fy ngwas, a etholais.’”

Teyrnas Dduw

Fe ddysgodd Iesu ei ddilynwyr i weddio, “Deled dy deyrnas,” a gwnaeth y Deyrnas honno yn brif thema ei athrawiaeth. (Mathew 6:10; Luc 4:43) Mae Tystion Jehofah yn credu mai llywodraeth go iawn o’r nef ydi’r Deyrnas, y bydd hi’n teyrnasu dros y ddaear, ac mai Iesu Grist sy’ wedi’i benodi’n Frenin anweledig arni hi. “Bydd yr awdurdod [“llywodraeth,” BCL] ar ei ysgwydd,” medd y Beibl. “Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch.” Eseia 9:6, 7.

Fodd bynnag, nid Iesu Grist fydd unig frenin llywodraeth Duw. Fe fydd ganddo lawer yn cyd-deyrnasu gydag ef yn y nef. “Os dioddefwn,” ysgrifennodd yr apostol Paul, “cawn deyrnasu hefyd gydag ef.” (2 Timotheus 2:12) Mae’r Beibl yn dangos bod nifer y bodau dynol hynny sydd yn cael eu hatgyfodi i deyrnasu efo Crist yn y nef yn cael ei gyfyngu i’r “cant pedwar deg a phedair o filoedd, y rhai oedd wedi eu prynu’n rhydd oddi ar y ddaear.” Datguddiad 14:1, 3.

Wrth gwrs, mae’n rhaid i unrhyw lywodraeth gael deiliaid, ac mae Tystion Jehofah yn credu y bydd biliynau’n rhagor heblaw’r llywodraethwyr nefol hyn yn derbyn bywyd tragwyddol. Ymhen amser fe fydd y ddaear, wedi iddi gael ei throi yn baradwys hardd, yn cael ei llenwi gan y deiliaid teilwng hyn o Deyrnas Dduw, pob un yn ymostwng i deyrnasiad Crist a’i gydlywodraethwyr. Felly mae Tystion Jehofah wedi’u llwyr argyhoeddi na fydd y ddaear byth yn cael ei difa ac y bydd ’na gyflawni addewid y Beibl: “Y mae’r cyfiawn yn etifeddu’r tir [“ddaear,” BCL], ac yn cartrefu ynddo am byth.” Salm 37:29; 104:5.

Ond sut bydd Teyrnas Dduw yn dod? Drwy i’r holl bobloedd ymostwng yn wirfoddol i lywodraeth Duw? I’r gwrthwyneb, mewn ffordd realistig mae’r Beibl yn dangos y bydd dyfodiad y Deyrnas yn gofyn am ymyrraeth uniongyrchol gan Dduw ym mhethau’r ddaear: “Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, ... Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill, ond bydd hi ei hun yn para am byth.” (Ein llythrennau italaidd ni.) Daniel 2:44.

Pryd bydd Teyrnas Dduw yn dod? Ar sail proffwydoliaethau’r Beibl sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd, mae Tystion Jehofah yn credu y bydd hi’n dod yn fuan iawn. ’Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ystyried rhai proffwydoliaethau sy’n rhagfynegi nodweddion “dyddiau diwethaf” y drefn bresennol ddrwg sydd ohoni. Maen’ nhw wedi’u cofnodi yn Mathew 24:3-14; Luc 21:7-13, 25-31; a 2 Timotheus 3:1-5.

Am ein bod yn ‘caru yr Arglwydd [“Jehovah,” NW] ein Duw â’n holl galon, enaid, meddwl a nerth, a’n cymydog fel ni ein hunain,’ ’dydyn ni ddim yn rhanedig yn genedlaethol, yn hiliol, nac yn gymdeithasol. (Marc 12:30, 31) ’Rydyn ni’n enwog am y cariad sy’n cael ei ddangos ymhlith ein brodyr Cristnogol sydd i’w cael ym mhob cenedl. (Ioan 13:35; 1 Ioan 3:10-12) Felly safiad niwtral sy’ gennym ni at faterion politicaidd y cenhedloedd hynny. ’Rydyn ni’n trio bod fel disgyblion cynnar Iesu, y dywedodd ef amdanyn’ nhw: “Nid ydynt yn perthyn i’r byd, fel nad wyf finnau’n perthyn i’r byd.” (Ioan 17:16) ’Rydyn ni’n credu fod peidio â pherthyn i’r byd yn golygu osgoi’r ymddwyn anfoesol sy’ mor gyffredin heddiw, gan gynnwys dweud celwydd, dwyn, puteindra, godineb, gwrywgydiaeth, camddefnyddio gwaed, eilunaddoliaeth, a phethau eraill tebyg sy’n cael eu condemnio yn y Beibl. 1 Corinthiaid 6:9-11; Effesiaid 5:3-5; Actau 15:28, 29.

Gobaith ar Gyfer y Dyfodol

Mae Tystion Jehofah yn credu nad ein bywyd presennol yn y byd hwn ydi’r cyfan sydd. ’Rydyn ni’n credu i Jehofah anfon Crist i’r ddaear i dywallt gwaed ei einioes yn bridwerth er mwyn i fodau dynol fedru sefyll mewn cyfiawnder o flaen Duw a derbyn bywyd tragwyddol mewn cyfundrefn newydd o bethau. Fel dywedodd un o apostolion Iesu: “A ninnau yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei farw aberthol ef [“ei waed ef,” BCL].” (Rhufeiniaid 5:9; Mathew 20:28) Mae Tystion Jehofah yn ddiolchgar dros ben i Dduw a’i Fab am ddarparu’r bridwerth hon sy’n gwneud bywyd yn y dyfodol yn bosib’.

Mae gan Dystion Jehofah hyder llawn yn y bywyd hwn i ddod, wedi’i seilio ar atgyfodiad oddi wrth y meirw dan Deyrnas Dduw. ‘Rydyn ni’n credu, fel mae’r Beibl yn dysgu, fod bodolaeth person yn gorffen yn llwyr wrth iddo farw, “a’r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.” (Salm 146:3, 4; Eseciel 18:4; Pregethwr 9:5) Ydi, mae bywyd yn y dyfodol ar gyfer y meirw yn seiliedig ar goffadwriaeth Duw amdanyn’ nhw mewn atgyfodiad. Ioan 5:28, 29.

Fodd bynnag, mae Tystion Jehofah yn argyhoeddedig y bydd llawer sy’ ’nawr yn fyw yn goroesi pan fydd Teyrnas Dduw yn rhoi terfyn ar yr holl lywodraethau presennol ac, fel y goroesodd Noa a’i deulu y Dilyw, y byddan’ nhw’n byw ymlaen i fwynhau bywyd tragwyddol ar ddaear wedi’i glanhau. (Mathew 24:36-39; 2 Pedr 3:5-7, 13) Ond ’rydyn ni’n credu fod goroesi yn dibynnu ar gyfarfod â gofynion Jehofah, fel mae’r Beibl yn dweud: “Y mae’r byd ... yn mynd heibio, ond y mae’r hwn sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.” 1 Ioan 2:17; Salm 37:11; Datguddiad 7:9, 13-15; 21:1-5.

Mae’n amlwg na fedrwn ni ddim trafod holl ddaliadau Tystion Jehofah yma, ond ’rydyn ni’n eich gwahodd chi i gael rhagor o wybodaeth.

Oni nodir yn wahanol, o Y Beibl Cymraeg Newydd y daw’r dyfyniadau.

[Broliant ar dudalen 4]

’Rydyn ni wedi cymryd yr enw Tystion Jehofah am ein bod yn efelychu Iesu