Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Anfarwoldeb yr Enaid Cychwyn yr Athrawiaeth

Anfarwoldeb yr Enaid Cychwyn yr Athrawiaeth

Anfarwoldeb yr Enaid Cychwyn yr Athrawiaeth

“’Does dim un pwnc sy’n ymwneud â’i fywyd seicig wedi mynd â chymaint bryd meddwl dyn â’i gyflwr wedi marwolaeth.” —“ENCYCLOPÆDIA OF RELIGION AND ETHICS.”

1-3. Sut dyrchafodd Socrates a Platon y syniad fod yr enaid yn anfarwol?

C YHUDDIR ysgolhaig ac athro 70 oed o annuwioldeb ac o lygru meddyliau ifainc gan ei ddysgeidiaeth. Er iddo’i amddiffyn ei hun yn ddisglair yn ystod ei brawf, mae rheithgor rhagfarnllyd yn ei gael yn euog a’i ddedfrydu i farwolaeth. Ychydig oriau cyn ei ddienyddio, mae’r athro hen yn cyflwyno i’w ddisgyblion sydd wedi casglu o’i gwmpas gyfres o ddadleuon i gadarnhau fod yr enaid yn anfarwol ac nad oes rhaid ofni marwolaeth.

2 ’Dyw’r gŵr condemniedig yn neb llai na Socrates, Groegwr ac athronydd o fri o’r bumed ganrif C.C.C. * Cofnododd ei fyfyriwr Platon y digwyddiadau hyn yn y traethodau Apology a Phaedo. Mae Socrates a Platon yn cael eu cydnabod o fod ymhlith y cyntaf i ddyrchafu’r syniad fod yr enaid yn anfarwol. Ond nid nhw roddodd gychwyn i’r ddysgeidiaeth hon.

3 Fel y byddwn yn gweld, mae gwreiddiau syniad anfarwoldeb dynol yn ymestyn yn ôl i gyfnodau llawer cynt. Ond bu i Socrates a Platon loywi’r cysyniad a’i drawsnewid yn ddysgeidiaeth athronyddol, ac felly ei wneud yn fwy deniadol i ddosbarthiadau diwylliedig eu dydd a’r tu hwnt.

O Pythagoras i’r Pyramidiau

4. Cyn amser Socrates, sut oedd y Groegiaid yn edrych ar y byd a ddaw?

4 ’Roedd y Groegiaid cyn Socrates a Platon hefyd yn credu fod yr enaid yn parhau i fyw wedi marwolaeth. Credai Pythagoras, y mathemategydd enwog o Roegwr o’r chweched ganrif C.C.C., fod yr enaid yn anfarwol ac yn cael ei drawsfudo. O’i flaen e, teimlai Thales o Miletus, y credir mai ef yw’r athronydd cyntaf o wlad Groeg y gwyddom amdano, fod enaid anfarwol yn bodoli nid yn unig mewn dynion, anifeiliaid, a phlanhigion ond hefyd mewn gwrthrychau megis magnedau, gan y gallant symud haearn. ’Roedd y Groegiaid gynt yn honni fod eneidiau’r meirw’n cael eu cludo mewn cwch ar draws Afon Styx i ryw deyrnas eang danddaearol a elwid yn isfyd. Yno, byddai barnwyr yn dedfrydu’r eneidiau naill ai i’w harteithio mewn carchar uchel ei waliau neu i ddedwyddwch yn Elysiwm.

5, 6. Sut oedd y Persiaid yn ystyried yr enaid?

5 Yn Iran, neu Bersia, i’r dwyrain, daeth proffwyd o’r enw Zoroaster yn amlwg yn y seithfed ganrif C.C.C. Cyflwynodd e ddull addoli a gafodd ei ’nabod wrth yr enw Zoroastriaeth. Dyma grefydd Ymerodraeth Persia, oedd yn tra-arglwyddiaethu yn y byd cyn i Wlad Groeg ddod yn rym mawr. Mae’r ysgrythurau Zoroastriaidd yn dweud: “Mewn Anfarwoldeb bydd enaid y Cyfiawn bob amser mewn Llawenydd, ond yn ddiau dan artaith bydd enaid y Celwyddog. Ac fe ordeiniodd Ahura Mazda [sy’n golygu, “duw doeth”] y deddfau hyn trwy Ei awdurdod goruchaf.”

6 ’Roedd dysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid hefyd yn rhan o grefydd Iran cyn cyfnod Zoroastriaeth. Er enghraifft, ’roedd hen lwythau Iran gynt yn gofalu am eneidiau’r rhai ymadawedig drwy gynnig bwyd a dillad iddyn’ nhw er eu lles yn yr isfyd.

7, 8. Beth oedd yr Eifftiaid gynt yn ei gredu am yr enaid yn goroesi marw’r corff?

7 ’Roedd credu mewn bywyd wedi marwolaeth yn holl bwysig i grefydd Yr Aifft. ’Roedd yr Eifftiaid yn honni fod enaid person marw yn cael ei farnu gan Osiris, prif dduw’r isfyd. Er enghraifft, mae dogfen bapyrws y dywedir ei bod o’r 14eg ganrif C.C.C., yn dangos Anubis, duw’r meirw, yn tywys enaid yr ysgrifennydd Hunefer o flaen Osiris. Mae calon yr ysgrifennydd, sy’n cynrychioli ei gydwybod, yn cael ei phwyso mewn cloriannau yn erbyn y bluen y mae duwies gwirionedd a chyfiawnder yn gwisgo ar ei phen. Mae Thoth, duw arall, yn cofnodi’r canlyniadau. Gan nad ydi calon Hunefer yn drwm gan euogrwydd, mae’n pwyso llai na’r bluen, a cheir caniatâd i Hunefer gael mynediad i deyrnas Osiris a derbyn anfarwoldeb. Mae’r papyrws hefyd yn dangos anghenfil benywaidd yn sefyll ger y cloriannau, yn barod i lyncu’r ymadawedig petai’r galon yn methu’r prawf. ’Roedd yr Eifftiaid hefyd yn mymïo eu meirw a chadw cyrff pharoaid mewn pyramidiau enfawr, gan eu bod yn meddwl fod goroesi’r enaid yn dibynnu ar gadw’r corff.

8 Felly, ’roedd gan amrywiol hen wareiddiadau gynt un ddysgeidiaeth yn gyffredin—anfarwoldeb yr enaid. A fu iddyn’ nhw gael y ddysgeidiaeth hon o’r un ffynhonnell?

Man Cychwyn

9. Pa grefydd a ddylanwadodd ar hen fyd Yr Aifft, Persia, a Gwlad Groeg?

9 “Yn yr hen fyd,” medd y llyfr The Religion of Babylonia and Assyria, “teimlodd Yr Aifft, Persia, a Gwlad Groeg ddylanwad crefydd Babilonaidd.” Mae’r llyfr hwn yn mynd ymlaen i egluro: “Yn wyneb y cyswllt cynnar rhwng Yr Aifft a Babilonia, fel y datgela llechi El-Amarna, yn sicr ’roedd cyfleon lu i olygweddau ac arferion Babilonaidd dreiddio i gyltiau’r Aifft. Ym Mhersia, mae cwlt Mithra yn datgelu dylanwad eglur cysyniadau Babilonaidd . . . Mae’r gymysgedd amlwg o elfennau Semitig mewn mytholeg gynnar o wlad Groeg ac mewn cyltiau Groegaidd yn cael ei chydnabod mor gyffredinol ’nawr gan ysgolheigion fel nad oes angen sylw pellach. I raddau helaeth Babilonaidd yn benodol ydi’r dylanwadau Semitig hyn.” *

10, 11. Sut oedd y Babiloniaid yn edrych ar fywyd wedi marwolaeth?

10 Ond onid ydi’r olygwedd Fabilonaidd ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd wedi marwolaeth yn gwbl wahanol i un yr Eifftiaid, y Persiaid, a’r Groegiaid? Ystyriwch, er enghraifft, Arwrgerdd Gilgamesh o Fabilon. Mae ei harwr, Gilgamesh, sy’n heneiddio, ac sy’n cael ei darfu arno gan realedd angau, yn cychwyn i chwilio am anfarwoldeb ond mae’n methu â’i ganfod. Mae gwin-forwyn mae’n ei chyfarfod ar y ffordd, hyd yn oed yn ei annog i wneud y gorau o’r bywyd hwn, gan na fydd yn darganfod y bywyd diddiwedd mae’n ei geisio. Neges yr holl arwrgerdd ydi fod angau’n anochel ac mai twyll ydi gobaith anfarwoldeb. ’Fyddai hyn yn awgrymu nad oedd y Babiloniaid yn credu yn y byd a ddaw?

11 Ysgrifennodd Yr Athro Morris Jastrow, yr ieuaf, o Brifysgol Pennsylvania, U.D.A.: “Ni wynebodd pobl nac arweinwyr meddwl crefyddol [Babilonia] erioed bosiblrwydd llwyr ddifa yr hyn a fodolai, unwaith ’roedd e’n bodoli. Taith oedd angau [yn eu barn nhw] i fath arall o fywyd, ac ’roedd gwadu anfarwoldeb dim ond yn pwysleisio mai amhosib’ oedd osgoi’r newid mewn bodolaeth ’roedd angau’n ei achosi.” Oedden’, ’roedd y Babiloniaid hefyd yn credu fod bywyd o ryw fath, yn rhyw ffurf, yn parhau wedi marwolaeth. ’Roedden’ nhw’n mynegi hyn drwy gladdu gwrthrychau gyda’r meirw iddyn’ nhw eu defnyddio yn y byd a ddaw.

12-14. (a) Wedi’r Dilyw, beth oedd man cychwyn dysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid? (b) Sut lledodd yr athrawiaeth ar draws y ddaear?

12 Yn amlwg, mae dysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid yn mynd yn ôl i Babilon hen. Yn ôl y Beibl, llyfr yn dwyn stamp hanes cywir, sefydlwyd dinas Babel, neu Fabilon, gan Nimrod, gor-ŵyr i Noa. * Wedi Dilyw byd-eang oes Noa, dim ond un iaith ac un grefydd oedd. Wrth sefydlu’r ddinas a chodi tŵr yno, rhoddodd Nimrod gychwyn i grefydd arall. Mae cofnod y Beibl yn dangos, wedi cymysgu’r ieithoedd ym Mabel, i adeiladwyr aflwyddiannus y tŵr wasgaru, mynd â’u crefydd efo nhw, a chychwyn o’r newydd. (Genesis 10:6-10; 11:4-9) Felly lledodd dysgeidiaethau crefyddol Babilon dros wyneb y ddaear.

13 Yn ôl traddodiad, marwolaeth treisiol oedd un Nimrod. Yn rhesymol, wedi’i farwolaeth fe fyddai’r Babiloniaid wedi tueddu i’w barchu’n fawr ac yntau’n sefydlydd ac adeiladydd eu dinas nhw ac yn frenin cyntaf arni. Gan mai’r duw Marduk (Merodach) oedd yn cael ei ystyried yn sefydlydd Babilon, mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu mai cynrychioli’r Nimrod dwyfoledig mae Marduk. Os gwir hyn, yna rhaid bod y syniad fod gan berson enaid sy’n goroesi marwolaeth yn gyffredin o leiaf erbyn amser marw Nimrod. Beth bynnag, mae dalennau hanes yn datgelu, wedi’r Dilyw, mai Babel, neu Fabilon, oedd man cychwyn dysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid.

14 Ond, sut daeth yr athrawiaeth yn ganolog i’r mwyafrif o grefyddau ein cyfnod? Bydd yr adran nesaf yn archwilio fel y daeth yn rhan o grefyddau’r Dwyrain.

[Troednodiadau]

^ Par. 2 Ystyr C.C.C. ydi “Cyn y Cyfnod Cyffredin.” Mae C.C. yn dynodi “Cyfnod Cyffredin,” a elwir yn aml yn A.D., am Anno Domini, sy’n golygu “ym mlwyddyn yr Arglwydd.”

^ Par. 9 El-Amarna ydi safle adfeilion y ddinas Akhetaton yn yr Aifft, yr honnir iddi gael ei chodi yn y 14eg ganrif C.C.C.

^ Par. 12 Gweler The Bible—God’s Word or Man’s?, tudalennau 37-54, cyhoeddir gan Watchtower Bible and Tract Society of New York, Inc.

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Lluniau ar dudalen 6]

Golygwedd Eifftaidd ar yr eneidiau yn yr isfyd

[Llun ar dudalen 7]

Dadleuai Socrates fod yr enaid yn anfarwol