Beth Sy’n Digwydd i’r Enaid Adeg Marw?
Beth Sy’n Digwydd i’r Enaid Adeg Marw?
“Mae’r athrawiaeth fod yr enaid dynol yn anfarwol ac y bydd yn parhau i fodoli wedi i ddyn farw ac i’w gorff ymddatod yn un o gonglfeini athroniaeth a diwinyddiaeth Cristionogol.” —“NEW CATHOLIC ENCYCLOPEDIA.”
1. Beth mae’r New Catholic Encyclopedia yn ei gyfaddef ynglŷn â’r enaid yn goroesi marwolaeth?
M AE’R gwaith cyfeiriol hwn uchod, fodd bynnag, yn cyfaddef “nid yw’r syniad am enaid sy’n goroesi wedi marwolaeth yn amlwg yn y Beibl.” Beth, felly, mae’r Beibl yn ei wir ddysgu am yr hyn sy’n digwydd i’r enaid adeg marw?
Mae’r Meirw yn Anymwybodol
2, 3. Beth ydi cyflwr y meirw, a pha ysgrythurau sy’n dangos hyn?
2 Mae’n eglur wrth ddarllen Pregethwr 9:5, 10, beth yw cyflwr y meirw: “Nid yw’r meirw yn gwybod dim . . . Nid oes gweithgarwch, na chynllunio, na gwybodaeth na dirnadaeth, oddi mewn i’r bedd.” (Moffatt) Felly, cyflwr anfodolaeth ydi marwolaeth. Pan fo person yn marw, ysgrifennodd y salmydd, bydd yn “dychwelyd i’r ddaear, a’r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.”—Salm 146:4.
3 Felly mae’r meirw yn anymwybodol, yn anweithredol. Wrth ddedfrydu Adda, dywedodd Duw: “Llwch wyt ti, ac i’r llwch y dychweli.” (Genesis 3:19) Cyn i Dduw ei lunio o lwch y ddaear a rhoi bywyd iddo, nid oedd Adda yn bodoli. Pan fu farw, fe ddychwelodd Adda i’r cyflwr hwnnw. Ei gosb oedd marwolaeth—nid ei drosglwyddo i deyrnas arall.
Gall yr Enaid Farw
4, 5. Rhowch enghreifftiau o’r Beibl sy’n dangos y gall yr enaid farw.
4 Pan fu farw Adda, beth ddigwyddodd i’w enaid? Wel, yn y Beibl cofiwch mai cyfeirio’n syml at berson mae’r gair “enaid” yn aml. Felly wrth ddweud i Adda farw, dweud ’rydym i’r enaid o’r enw Adda farw. Gall hyn swnio’n rhyfedd i berson sy’n credu yn anfarwoldeb yr enaid. Ond mae’r Beibl yn dweud: “Yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.” (Eseciel 18:4, BCL) Mae Lefiticus 21:1 yn sôn “am farw yr un (“enaid,” NW) o’i dylwyth,” (“corff,” Jerusalem Bible). Dywedwyd wrth Nasireaid i beidio ag agosáu at “gorff (“enaid,” NW) marw” (“corff marw,” Lamsa).—Numeri 6:6.
5 Mae cyfeiriad tebyg at yr enaid i’w weld yn 1 Brenhinoedd 19:4. “Deisyfodd,” Elias, llawn gofid “o’i galon am (“i’w enaid,” NW) gael marw.” Yn yr un modd, “gofynnodd” Jona “am (“i’w enaid,” NW) gael marw, a dweud, ‘Gwell gennyf farw na byw.’” (Jona 4:8) Hefyd defnyddiodd Iesu’r ymadrodd “achub bywyd, ynteu lladd (“lladd enaid,” NW),” y mae The Bible in Basic English yn ei drosi “rhoi i farwolaeth.” (Marc 3:4) Felly, ystyr syml marw’r enaid ydi marw’r person.
“Ymadael” a ‘Dod yn Ôl’
6. Beth mae’r Beibl yn ei olygu wrth ddweud fod enaid Rachel yn “ymadael”?
6 Ond beth am farw trasig Rachel, ddigwyddodd wrth iddi eni ei hail fab? Yn Genesis 35:18, darllenwn: “Fel yr oedd yn gwanychu wrth farw (“Wrth ymadael o’i henaid hi,” BCL), rhoes iddo’r enw Ben-oni; ond galwodd ei dad ef Benjamin.” Ydi’r darn hwn yn awgrymu fod gan Rachel ryw fod mewnol a ymadawodd pan fu hi farw? Dim o gwbl. Cofiwch y gall y gair “enaid” gyfeirio hefyd at y bywyd sy’n eiddo person. Felly yn yr achos hwn ystyr “enaid” Rachel yn syml ydi ei “bywyd” hi. Dyna pam mae Beiblau eraill yn trosi’r ymadrodd “ymadael o’i henaid hi” yn “’roedd ei bywyd yn pallu” (Knox), “anadlodd am y tro olaf” (Jerusalem Bible), ac “ymadawodd ei bywyd ohoni” (Bible in Basic English). ’Does dim awgrym i ryw ran ddirgel o Rachel oroesi’i marwolaeth hi.
7. Ym mha ffordd y daeth enaid mab atgyfodedig y weddw “yn ôl iddo”?
7 Mae hanes atgyfodi mab gwraig weddw sy’n cael ei gofnodi yn 1 Brenhinoedd pennod 17, yn debyg. Yn adnod 22, darllenwn wrth i Elias weddïo dros y bachgen, “gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lef Elias, a daeth einioes (“enaid,” BCL) y bachgen yn ôl iddo, ac adfywiodd.” Unwaith eto, ystyr y gair “enaid” ydi bywyd. Dyna pam mae’r New American Standard Bible yn darllen: “Dychwelodd bywyd y plentyn iddo a daeth ato’i hun.” Ie, bywyd, nid rhyw ffurf annelwig, a ddychwelodd i’r bachgen. Mae hyn yn cytuno â beth ddywedodd Elias wrth fam y bachgen: “Edrych, y mae dy fab [y person cyfan] yn fyw.”—1 Brenhinoedd 17:23.
Dilema’r “Rhyng-Gyflwr”
8. Beth mae llawer sy’n honni bod yn Gristionogion yn ei gredu fydd yn digwydd yn ystod yr atgyfodiad?
8 Mae llawer sy’n honni bod yn Gristionogion yn credu y bydd atgyfodiad yn y dyfodol pryd bydd cyrff yn uno ag eneidiau anfarwol. Yna, mae tynged y rhai atgyfodedig yn cael ei benderfynu—naill ai gwobr i’r rhai fu’n byw bywyd da neu ad-daledigaeth
i’r rhai drwg.9. Beth ydi ystyr yr ymadrodd “rhyng-gyflwr,” a beth mae rhai yn ei ddweud sy’n digwydd i’r enaid yn ystod y cyfnod hwn?
9 Mae’r cysyniad hwn yn ymddangos yn syml. Ond mae’r rhai sy’n glynu wrth gred anfarwoldeb yr enaid yn cael anhawster esbonio’r hyn sy’n digwydd i’r enaid rhwng amser marw ac amser atgyfodi. Yn wir, mae’r “rhyng-gyflwr” hwn, fel y’i gelwir yn aml, wedi achosi dyfalu ers canrifoedd. Mae rhai yn dweud fod yr enaid yn mynd i’r purdan yn ystod y cyfnod hwn, lle gellir ei buro oddi wrth fân bechodau gan ddod yn addas ar gyfer y nef. *
10. Pam mae hi’n anysgrythurol credu fod eneidiau yn oedi yn y purdan wedi marwolaeth, a sut mae profiad Lasarus yn cadarnhau hyn?
10 Fodd bynnag, fel y gwelsom, yr enaid yn syml ydi’r person. Pan mae’r person yn marw, mae’r enaid yn marw. Felly, ’does dim bodolaeth ymwybodol ar ôl marwolaeth. Yn wir, pan fu farw Lasarus, ni ddywedodd Iesu Grist ei fod yn y purdan, Limbo, neu unrhyw “rhyng-gyflwr” arall. Yn hytrach, dywedodd Iesu yn syml: “Mae Lasarus wedi mynd i gysgu.” (Ioan 11:11, New English Bible) Mae’n eglur fod Iesu, a oedd yn gwybod y gwirionedd am yr hyn sy’n digwydd i’r enaid adeg marw, yn credu mai’n anymwybodol ’roedd Lasarus, mewn cyflwr anfodolaeth.
Beth Ydi’r Ysbryd?
11. Pam na allai’r gair “ysbryd” gyfeirio at ran di-gorff person sy’n goroesi marwolaeth?
11 Yn ôl y Beibl pan fo person yn marw, “Bydd ei anadl yn darfod (“bydd ei ysbryd yn mynd allan,” NW) ac yntau’n dychwelyd i’r ddaear.” (Salm 146:4) ’Ydi hyn yn golygu fod ysbryd di-gorff yn llythrennol ymadael a byw ymlaen wedi marw person? ’Fedrai hynny ddim bod, oherwydd mae’r salmydd yna’n dweud: “A’r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau” (“mae ei holl allu meddwl yn dod i ben,” New English Bible). Beth, felly, ydi’r ysbryd, a sut mae e’n “mynd allan” o berson amser ei farw?
12. Beth sy’n cael ei awgrymu gan y geiriau Hebraeg a Groeg sy’n cyfateb i “ysbryd” yn y Beibl?
12 Yn y Beibl ystyr sylfaenol y geiriau sy’n cael eu cyfieithu “ysbryd” (Hebraeg, ruʹach; Groeg, pneuʹma) ydi “anadl.” Felly, yn lle “bydd ei ysbryd yn mynd allan,” mae cyfieithiad R. A. Knox yn defnyddio’r ymadrodd “bydd yr anadl yn gadael ei gorff.” (Salm 145:4, Knox) Ond mae’r gair “ysbryd” yn awgrymu llawer rhagor na’r weithred o anadlu. Er enghraifft, wrth ddisgrifio difa bywyd dyn ac anifail amser y Dilyw byd-eang, mae Genesis 7:22 yn dweud: “Bu farw popeth ar y tir sych oedd ag anadl [neu, ysbryd; Hebraeg, ruʹach] einioes yn ei ffroenau” (“oedd ag anadl grym bywyd yn weithredol yn ei ffroenau,” NW). Felly gall “ysbryd” gyfeirio at y grym bywyd sy’n gweithredu ym mhob creadur byw, yn ddyn ac anifail, ac sy’n cael ei gynnal gan anadlu.
13. Ym mha ffordd y gallwn gyffelybu’r ysbryd i gerrynt trydan?
13 I egluro: Mae cerrynt trydan yn gyrru darn o offer. Os peidia’r cerrynt, mae’r offer yn peidio â gweithio. ’Dyw’r cerrynt ddim yn mabwysiadu bywyd iddo’i hun. Yn yr un modd, pan fo person yn marw, mae ei ysbryd yn peidio â bywhau celloedd y corff. ’Dyw e ddim yn gadael y corff a symud i deyrnas arall.—Salm 104:29.
14, 15. Sut mae’r ysbryd yn dychwelyd at Dduw adeg marw?
14 Pam, felly, mae Pregethwr 12:7 yn dweud pan fo person yn marw fod ‘yr ysbryd yn dychwelyd at y Duw a’i rhoes’? ’Ydi hyn yn golygu fod yr ysbryd yn teithio’n llythrennol drwy’r gofod i bresenoldeb Duw? ’Does dim o’r fath yn cael ei awgrymu. Cofiwch, grym-bywyd ydi’r ysbryd. Unwaith mae’r grym-bywyd hwnnw wedi mynd, dim ond gan Dduw mae’r gallu i’w adfer e. Felly mae’r ysbryd yn ‘dychwelyd at Dduw’ yn yr ystyr fod unrhyw obaith am fywyd i’r unigolyn hwnnw yn y dyfodol yn dibynnu’n llwyr ar Dduw.
15 Dim ond Duw fedr adfer yr ysbryd, neu’r grym-bywyd, a galluogi person i ddod yn ôl yn fyw. (Salm 104:30) Ond a ydi Duw yn bwriadu gwneud hynny?
[Troednodyn]
^ Par. 9 Yn ôl y New Catholic Encyclopedia, “yn gyffredinol mae’r Tadau [Eglwysig] yn eglur gadarnhau bodolaeth y purdan.” Ac eto, mae’r gwaith cyfeiriol hwn hefyd yn cyfaddef fod “athrawiaeth Babyddol y purdan wedi’i seilio ar draddodiad, nid ar yr Ysgrythur Sanctaidd.”
[Cwestiynau’r Astudiaeth]
[Blwch ar dudalen 23]
ATGOFION AM FYWYD BLAENOROL
S NAD oes dim yn goroesi marw’r corff, yna beth am atgofion y mae rhai yn honni sydd ganddynt am fywyd blaenorol?
Mae Nikhilananda, ysgolhaig o Hindŵ yn dweud, ‘mae’n amhosibl i’r rheswm dderbyn fod profiadau wedi marwolaeth yn digwydd.’ Yn y ddarlith “Modelau Credu mewn Tragwyddoldeb yn y Crefyddau,” mae’r diwinydd Hans Küng yn pwysleisio: “’Does dim un o’r adroddiadau—sy’n dod yn bennaf gan blant neu o wledydd lle mae ’na gred mewn ailymgnawdoliad—ynglŷn ag atgof am fywyd blaenorol, y gellid ei gadarnhau.” Mae’n ychwanegu: “Mae’r mwyafrif [o’r rhai sy’n ymchwilio o ddifrif ac yn wyddonol yn y maes] yn cyfaddef nad yw’r profiadau a sefydlwyd ganddyn’ nhw ddim yn cyfiawnhau eu derbyn yn sail gadarn dros gredu fod bywyd daearol yn ailddigwydd.”
Beth os teimlwch fod gennych atgofion personol am fywyd blaenorol? Gallai amryw o ffactorau gyfrif am y teimladau hyn. Mae llawer o’r wybodaeth a dderbyniwn yn cael ei storio mewn rhyw gornel gudd yn ein hisymwybod gan nad oes angen defnydd brys neu uniongyrchol arnom amdani. Pan ddaw atgofion anghofiedig i’r amlwg, mae rhai pobl yn dehongli’r rhain yn bethau sy’n tystio i fywyd cynharach. Er hynny, y ffaith amdani ydi nad oes gennym brofiadau y gallwn eu cadarnhau am fywyd heblaw’r un ’rydym yn ei fyw ’nawr. ’Does gan fwyafrif y bobl sy’n fyw ar y ddaear ddim atgof o gwbl o fod wedi byw o’r blaen; a ’dydyn’ nhw ddim chwaith yn meddwl y gallen’ nhw fod wedi byw bywydau cynt.