Gobaith Sicr
Gobaith Sicr
“O eiliad geni mae ’na bosiblrwydd cyson y gall bod dynol farw unrhyw amser; ac yn anochel fe ddaw’r posiblrwydd hwn yn ffaith ddiamheuol.” —ARNOLD TOYNBEE, HANESYDD PRYDEINIG
1. Pa realedd fu’n rhaid i’r ddynoliaeth ei dderbyn, gan godi pa gwestiynau?
P WY fyddai’n anghytuno â’r wireb hanesyddol uchod? Mae’r ddynoliaeth erioed wedi gorfod dygymod â realedd erchyll angau. Ac mor ddiymadferth y teimlwn pan fydd rhywun ’rydym yn ei garu yn marw! Y pryd hwnnw mae’r golled yn ymddangos yn ffaith hollol ddigyfnewid. ’Ydi hi’n bosib’ cael ein hailuno â’n hanwyliaid marw? Beth yw’r gobaith mae’r Beibl yn ei gynnig i’r meirw? Ystyriwch yr hanes sy’n dilyn.
‘Mae Ein Cyfaill Wedi Marw’
2-5. (a) Pan fu farw ei gyfaill Lasarus, sut dangosodd Iesu ei fod yn ewyllysio’i atgyfodi e a bod ganddo’r gallu i wneud hynny? (b) Heblaw dod â Lasarus yn ôl yn fyw, beth gyflawnodd gwyrth yr atgyfodiad?
2 Y flwyddyn 32 C.C. ydoedd. Yn nhref fechan Bethania, ddwy filltir y tu allan i Jerwsalem, ’roedd Lasarus yn byw gyda’i chwiorydd Martha a Mair. ’Roedden’ nhw’n ffrindiau agos i Iesu. Un diwrnod, aeth Lasarus yn ddifrifol wael. Heb oedi, anfonodd ei chwiorydd pryderus y newyddion hwn at Iesu, oedd yr ochr arall i Afon Iorddonen. ’Roedd Iesu’n hoff o Lasarus a’i chwiorydd, felly ymhen amser fe gychwynnodd tua Bethania. Ar y ffordd, fe ddywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i’w ddeffro.” Gan nad oedd y disgyblion yn deall ystyr hyn ar unwaith, dywedodd Iesu’n blaen: “Y mae Lasarus wedi marw.”—Ioan 11:1-15.
3 O glywed fod Iesu’n dod i Fethania, rhedodd Martha i’w gyfarfod. Gan deimlo’n ddwys oherwydd ei thristwch, rhoddodd Iesu’r sicrwydd iddi: “Fe atgyfoda dy frawd.” Atebodd Martha: “Mi wn y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Yna dywedodd Iesu wrthi: “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw.”—Ioan 11:20-25.
4 Aeth Iesu wedyn at y bedd a gorchymyn symud oddi yno’r maen oedd yn cau ei fynedfa. Wedi gweddïo’n uchel, gorchmynnodd: “Lasarus, tyrd allan.” Tra’r oedd pob llygad yn syllu ar y bedd, yn wir fe ddaeth Lasarus allan. Fe atgyfododd Iesu Lasarus—gan adfer bywyd i ddyn a fuasai’n farw bedwar diwrnod!—Ioan 11:38-44.
5 ’Roedd gan Martha eisoes ffydd yn addewid yr atgyfodiad. (Ioan 5:28, 29; 11:23, 24) Fe wnaeth gwyrth adfer bywyd Lasarus gadarnhau ei ffydd hi ac ysgogi ffydd mewn eraill. (Ioan 11:45) Ond beth yn hollol ydi ystyr yr ymadrodd “atgyfodiad”?
“Fe Atgyfoda”
6. Beth ydi ystyr yr ymadrodd “atgyfodiad”?
6 Mae’r gair “atgyfodiad” yn cyfieithu’r gair Groeg a·naʹsta·sis, sy’n golygu’n llythrennol “sefyll eto.” Mae cyfieithwyr Hebreïg sy’n cyfieithu o’r Groeg, yn cyfleu a·naʹsta·sis gyda’r * Felly, mae atgyfodi yn golygu codi person o gyflwr difywyd angau—ailfywiogi patrwm bywyd yr unigolyn.
geiriau Hebraeg techi·yathʹ ham·me·thimʹ, sy’n golygu “adfywiad y meirw.”7. Pam na fydd atgyfodi unigolion yn achosi problem i Jehofah Dduw ac Iesu Grist?
7 Gan fod Jehofah Dduw yn ddiderfyn mewn doethineb, a bod cof perffaith ganddo, hawdd yw iddo atgyfodi person. ’Dyw cofio patrwm bywyd y rhai sydd wedi marw—nodweddion eu personoliaeth, eu hanes personol, a holl fanylion eu hunaniaeth—ddim yn broblem iddo. (Job 12:13; cymharer Eseia 40:26.) Jehofah hefyd ydi Cychwynnwr bywyd. O’r herwydd, gall yn rhwydd ddod â’r un person yn ôl yn fyw, gan roi iddo neu iddi yr un bersonoliaeth mewn corff wedi’i ffurfio o’r newydd. Yn ogystal, fel mae profiad Lasarus yn dangos, mae Iesu Grist yn ewyllysio atgyfodi’r meirw ac mae’r gallu ganddo i wneud hynny.—Cymharer Luc 7:11-17; 8:40-56.
8, 9. (a) Pam mae’r atgyfodiad a syniad anfarwoldeb yr enaid yn anghyson â’i gilydd? (b) Beth ydi’r ateb i farwolaeth?
8 Ond, mae’r ddysgeidiaeth Ysgrythurol am yr atgyfodiad ac athrawiaeth anfarwoldeb yr enaid yn anghyson â’i gilydd. Petai enaid anfarwol yn goroesi marwolaeth, ’fyddai dim angen atgyfodi neb, na dod ag e’n ôl yn fyw. Yn wir, ni feddyliodd Martha am enaid anfarwol oedd yn byw ymlaen yn rhywle arall wedi marwolaeth. ’Doedd hi ddim yn credu fod Lasarus eisoes wedi mynd i ryw ysbryd deyrnas i barhau ei fodolaeth. Yn hytrach, dangosodd hi ei ffydd ym mwriad Duw i ddadwneud niwed marwolaeth. Fe ddywedodd hi: “Mi wn y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” (Ioan 11:23, 24) Yn gyson â hyn, ’doedd gan Lasarus ddim profiadau am rhyw fywyd a ddaw i’w mynegi. ’Doedd ’na ddim i’w adrodd.
9 Mae’n eglur, yn ôl y Beibl, fod yr enaid yn marw ac mai’r ateb cyfreithiol i farwolaeth ydi’r atgyfodiad. Ond mae biliynau o bobl wedi marw oddi ar i’r dyn cyntaf, Adda, droedio’r ddaear. Pwy felly gaiff ei atgyfodi, ac i ble?
‘Pawb yn y Beddau Coffa’
10. Pa addewid a wnaeth Iesu ynglŷn â’r rhai yn y beddau coffa?
10 Dywedodd Iesu Grist: “Y mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau [“beddau coffa,” NW] yn clywed ei lais ef [Iesu] ac yn dod allan.” (Ioan 5:28, 29) Do, fe addawodd Iesu Grist y byddai pawb sydd yng nghof Jehofah yn cael atgyfodiad. Mae biliynau o bobl wedi byw a marw. Pwy yn eu plith nhw sydd yng nghof Duw, yn aros yr atgyfodiad?
11. Pwy gaiff ei atgyfodi?
11 Bydd y rhai sydd wedi canlyn cwrs cyfiawn yn weision Jehofah yn cael eu hatgyfodi. Ond mae miliynau o bobl eraill wedi marw heb ddangos a fydden’ nhw’n cydymffurfio â safonau cyfiawn Duw. Naill ai ’doedden nhw ddim yn gwybod am ofynion Jehofah neu ’roedden’ nhw heb gael digon o amser i wneud y newidiadau oedd eu hangen. Mae’r rhain hefyd yng nghof Duw ac felly fe gânt eu hatgyfodi, oherwydd mae’r Beibl yn addo: “Y bydd atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.”—Actau 24:15.
12. (a) Pa weledigaeth a gafodd yr apostol Ioan ynglŷn â’r atgyfodiad? (b) Beth sy’n cael ei fwrw “i’r llyn tân,” a beth ydi ystyr yr ymadrodd hwnnw?
12 Cafodd yr apostol Ioan weledigaeth wefreiddiol am rai atgyfodedig yn sefyll o flaen gorsedd Duw. Wrth ei disgrifio, ysgrifennodd: “Ildiodd y môr y meirw oedd ynddo, ac ildiodd Marwolaeth a Thrigfan y Meirw y rhai oedd ynddynt hwy, ac fe’u barnwyd, pob un yn ôl ei weithredoedd. Bwriwyd Marwolaeth a Thrigfan y Meirw i’r llyn tân; dyma’r ail farwolaeth, sef y llyn tân.” (Datguddiad 20:12-14) Meddyliwch beth mae hynny’n ei olygu! Bydd y meirw oll sydd yng nghof Duw yn cael eu rhyddhau o Drigfan y Meirw, neu Sheol, bedd cyffredin y teulu dynol. (Salm 16:10; Actau 2:31) Yna bydd “Marwolaeth a Thrigfan y Meirw” yn cael eu bwrw i’r hyn a elwir “y llyn tân,” sy’n symbol dinistr llwyr. Bydd bedd cyffredin y ddynoliaeth yn peidio â bod.
Atgyfodi i Ble?
13. Pam mae Duw wedi trefnu i rai gael eu hatgyfodi i’r nef, a sut gorff fydd Jehofah yn ei roi iddyn’ nhw?
13 Bydd nifer bychan o ddynion a merched yn cael eu hatgyfodi i fywyd yn y nef. Bydd y rhain yn teyrnasu yn frenhinoedd ac offeiriaid gyda Christ ac fe fyddan’ nhw’n helpu dadwneud holl niwed marwolaeth a etifeddodd y ddynoliaeth gan y dyn cyntaf, Adda. (Rhufeiniaid 5:12; Datguddiad 5:9, 10) Yn ôl y Beibl, dim ond 144,000 yw eu nifer nhw ac maen’ nhw’n cael eu dewis o blith canlynwyr Crist, gan ddechrau gyda’r apostolion ffyddlon. (Luc 22:28-30; Ioan 14:2, 3; Datguddiad 7:4; 14:1, 3) Bydd Jehofah yn rhoi ysbryd gorff i bob un o’r rhai atgyfodedig hyn fel y gallan’ nhw fyw yn y nef.—1 Corinthiaid 15:35, 38, 42-45; 1 Pedr 3:18.
14, 15. (a) I ba fath o fywyd y bydd mwyafrif mawr y rhai sydd wedi marw yn cael eu hatgyfodi? (b) Pa fendithion fydd dynoliaeth ufudd yn eu profi?
14 Ond bydd mwyafrif mawr y rhai sydd wedi marw yn cael eu hatgyfodi i fywyd ar y ddaear. (Salm 37:29; Mathew 6:10) Sut ddaear? Mae’r ddaear heddiw yn llawn gwrthdaro, tywallt gwaed, llygredd, a thrais. Pe byddai’r meirw’n dychwelyd i fyw ar y fath ddaear, yna’n sicr byr iawn fyddai unrhyw hapusrwydd. Ond mae’r Creawdwr wedi addo y bydd yn dod â’r gymdeithas fyd bresennol sydd dan reolaeth Satan yn fuan i ben. (Diarhebion 2:21, 22; Daniel 2:44) Yna bydd cymdeithas ddynol gyfiawn newydd—“daear newydd”—yn realedd. (2 Pedr 3:13) Y pryd hwnnw “ni ddywed neb o’r preswylwyr, ‘’Rwy’n glaf.’” (Eseia 33:24) Bydd hyd yn oed ing marwolaeth yn cael eu dileu, oherwydd bydd Duw yn sychu “pob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”—Datguddiad 21:4.
15 Yn y byd newydd mae Duw yn ei addo, bydd y gostyngedig “yn mwynhau heddwch llawn.” (Salm 37:11) Bydd llywodraeth nefol Crist Iesu a’i 144,000 cydymaith yn gynyddol adfer dynoliaeth ufudd i’r perffeithrwydd a gollodd Adda ac Efa, ein rhieni gwreiddiol ni. Ymhlith y rheini fydd yn byw ar y ddaear fe fydd y rhai atgyfodedig.—Luc 23:42, 43.
16-18. Pa lawenydd fydd yr atgyfodiad yn ei sicrhau i deuluoedd?
16 Mae’r Beibl yn rhoi cipolwg ar y llawenydd y bydd yr atgyfodiad yn ei sicrhau i deuluoedd. Dychmygwch hapusrwydd y weddw o Nain Luc 7:11-17) Yn ddiweddarach, ger Môr Galilea, pan ddaeth Iesu â merch 12 oed yn ôl yn fyw, “trawyd” ei rhieni “yn y fan â syndod mawr.”—Marc 5:21-24, 35-42; gweler hefyd 1 Brenhinoedd 17:17-24; 2 Brenhinoedd 4:32-37.
pan stopiodd Iesu’r orymdaith angladdol ac atgyfodi ei hunig fab hi! (17 I filiynau sydd ’nawr ynghwsg mewn marwolaeth, bydd atgyfodiad yn golygu bywyd mewn byd newydd heddychlon. Meddyliwch am y sail gobaith gwefreiddiol mae hyn yn ei gynnig i Tommy a’r gŵr busnes y soniwyd amdano yn adran agoriadol y llyfryn hwn! Pan fydd Tommy yn deffro i fywyd ym Mharadwys ar y ddaear, yr un Tommy fydd e ag ’roedd ei fam yn ei ’nabod—ond heb fod yn glaf. Fe fydd hi’n medru ei gyffwrdd e, ei ddal yn ei breichiau, a’i garu. Yn yr un modd, yn hytrach na chael ei ddal ym magl cylch diddiwedd aileni, mae gan y gŵr busnes o India sail gobaith gwych o agor ei lygaid ym myd newydd Duw a gweld ei feibion.
18 Gall gwybod y gwirionedd am yr enaid, am yr hyn sy’n digwydd inni pan ’rydym yn marw, ac am obaith yr atgyfodiad gael effaith mawr hefyd ar y rhai sy’n fyw ’nawr. Dowch inni weld sut.
[Troednodyn]
^ Par. 6 Er nad ydi’r gair “atgyfodiad” yn ymddangos yn yr Ysgrythurau Hebraeg, mae mynegiant clir i obaith yr atgyfodiad yn Job 14:13, Daniel 12:13, a Hosea 13:14, BCL.
[Cwestiynau’r Astudiaeth]
[Llun ar dudalen 26]
Daw atgyfodiad â llawenydd parhaol