Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

’Oes ’Na Fywyd Wedi Marwolaeth?

’Oes ’Na Fywyd Wedi Marwolaeth?

’Oes ’Na Fywyd Wedi Marwolaeth?

“Er i goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, . . . Pan fydd dyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?” —MOSES, PROFFWYD O’R HEN FYD.

1-3. Sut mae llawer yn ceisio cysur wedi iddyn’ nhw golli anwylyn drwy farwolaeth?

M EWN parlwr angladdau yn Ninas Efrog Newydd, mae cyfeillion a theulu’n dawel gerdded heibio i’r arch agored. Maen’ nhw’n syllu ar gorff bachgen 17 oed. Prin fod ei gyfeillion ysgol yn ei ’nabod e. Mae cemotherapi wedi teneuo’i wallt; mae’r cancr wedi achosi iddo golli pwysau. Ai dyma’u ffrind nhw, mewn difrif? Dim ond ychydig fisoedd ynghynt, ’roedd e mor llawn syniadau, cwestiynau, egni—mor llawn bywyd! Yn ei thorcalon mae mam y bachgen yn ceisio canfod gobaith a chysur yn y syniad fod ei mab rywsut yn parhau i fyw. Drosodd a throsodd mae hi’n ddagreuol ailadrodd yr hyn a ddysgwyd iddi: “Mae Tommy’n hapusach ’nawr. ’Roedd ar Dduw eisiau Tommy yn y nefoedd gydag e.”

2 Rhyw 7,000 milltir i ffwrdd, yn Jamnagar, India, mae tri mab gŵr busnes 58 mlwydd oed yn helpu gosod corff eu tad ar goelcerth angladdol. Yng ngoleuni llachar haul canol y bore, mae’r mab hynaf yn rhoi cychwyn i drefn yr amlosgi drwy gynnau’r logiau coed gyda ffagl gan arllwys cymysgedd persawrus o sbeisys ac arogldarth dros gorff difywyd ei dad. Trechir clindarddach y tân gan lais y Brahmin yn ailadrodd mantrâu Sansgrit sy’n golygu: “Boed i’r enaid nad yw byth yn marw barhau yn ei ymdrechion i ddod yn un â’r realedd eithaf.”

3 Wrth i’r tri brawd syllu ar yr amlosgi, mae pob un yn dawel ofyn iddo’i hun, ‘’Ydw i’n credu mewn bywyd wedi marwolaeth?’ Gan iddyn’ nhw gael eu haddysgu mewn rhannau gwahanol o’r byd, maen’ nhw’n ateb yn wahanol. Mae’r ieuengaf yn teimlo’n hyderus y bydd eu tad annwyl yn cael ei ailymgnawdoli i fywyd o statws uwch. Mae’r brawd canol yn credu fod y meirw ar un ystyr yn cysgu, heb wybod dim. Mae’r hynaf yn syml geisio derbyn realedd marwolaeth, oherwydd ei fod e’n credu na all neb wybod yn sicr beth sy’n digwydd inni pan ’rydym ni’n marw.

Un Cwestiwn, Llawer Ateb

4. Pa gwestiwn sydd wedi gofidio’r ddynolryw ers oesoedd?

4 ’Oes ’na fywyd wedi marwolaeth?—dyma gwestiwn sydd wedi achosi penbleth i’r ddynolryw ers miloedd o flynyddoedd. “Mae diwinyddion hyd yn oed yn teimlo’n chwithig wrth wynebu’r cwestiwn,” medd Hans Küng, ysgolhaig Pabyddol. Ar hyd yr oesoedd, mae pobl ym mhob cymdeithas wedi pendroni uwchben y pwnc, a ’does dim prinder atebion sy’n cael eu hawgrymu.

5-8. Beth mae amrywiol grefyddau yn ei ddysgu am fywyd wedi marwolaeth?

5 Mae llawer sy’n Gristionogion mewn enw yn credu mewn nefoedd ac uffern. Mae Hindwiaid, ar y llaw arall, yn credu mewn ailymgnawdoliad. Dywed Amir Muawiyah, cynorthwy-ydd mewn canolfan grefyddol Islamaidd, wrth wneud sylwadau ar yr olygwedd Fwslemaidd: “’Rydym ni’n credu y bydd ’na ddydd barn wedi marwolaeth, pan fyddwch yn mynd o flaen Duw, Allah, yn union fel cerdded i mewn i lys barn.” Yn ôl cred Islamaidd, fe fydd Allah wedyn yn asesu cwrs bywyd pob un ac yn anfon person i baradwys neu i dân uffern.

6 Yn Sri Lanca, mae Bwdyddion a Phabyddion yn gadael drysau a ffenestri yn llydan agored pan ddigwydd marwolaeth yn eu tylwyth. Mae lamp olew yn cael ei chynnau, a gosod yr arch gyda thraed yr ymadawedig yn wynebu drws y ffrynt. Maen’ nhw’n credu fod gweithredu fel hyn yn hwyluso ymadawiad ysbryd, neu enaid yr ymadawedig o’r tŷ.

7 Mae cynfrodorion Awstralia, medd Ronald M. Berndt o Brifysgol Gorllewin Awstralia, yn credu fod “bodau dynol yn ysbrydol annistrywiol.” Mae rhai o lwythau Affrica yn credu fod pobl gyffredin yn troi’n rhithiau wedi marwolaeth, tra bod unigolion blaenllaw yn dod yn ysbrydion cyndadau, fydd yn cael eu hanrhydeddu ac y bydd deisyfu arnyn’ nhw fel arweinwyr anweledig y gymuned.

8 Yn rhai gwledydd, cymysgedd o draddodiadau lleol a Christionogaeth mewn enw yn unig ydi’r credoau ynglŷn ag eneidiau tybiedig y meirw. Er enghraifft, ymhlith llawer o Babyddion a Phrotestaniaid yng Ngorllewin Affrica, mae hi’n arferiad gorchuddio drychau pan fydd rhywun yn marw fel na bo neb yn edrych a gweld ysbryd y person marw. Yna, 40 niwrnod wedi marw’r anwylyn, mae’r teulu a chyfeillion yn dathlu esgyn yr enaid i’r nef.

Thema Gyffredin

9, 10. Beth yw’r gred sylfaenol mae’r mwyafrif o grefyddau yn cytuno arni?

9 Mae’r atebion i’r cwestiwn ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd pan ’rydym ni’n marw mor amrywiol ag arferion a chredoau’r bobl sy’n eu cynnig nhw. Ac eto, mae’r mwyafrif o grefyddau yn cytuno ar un syniad sylfaenol: Mae rhywbeth y tu mewn i unigolyn—enaid, ysbryd, rhith—yn anfarwol ac yn parhau i fyw wedi marwolaeth.

10 Mae’r gred am anfarwoldeb yr enaid i’w chael bron yn fyd-eang ymhlith miloedd crefyddau ac enwadau Gwledydd Cred. Mae hi’n athrawiaeth swyddogol gan Iddewiaeth hefyd. Mewn Hindŵaeth y gred hon ydi holl sail dysgeidiaeth ailymgnawdoliad. Mae Mwslemiaid yn credu fod yr enaid yn dod i fodolaeth gyda’r corff ond ei fod yn parhau i fyw wedi i’r corff farw. Mae crefyddau eraill—animistiaeth Affrica, Shinto, a Bwdaeth hyd yn oed—yn dysgu amrywiadau ar yr un thema hon.

11. Sut mae rhai ysgolheigion yn gweld y syniad fod yr enaid yn anfarwol?

11 Mae rhai yn gweld i’r gwrthwyneb, fod bywyd ymwybodol yn gorffen gyda marwolaeth. Iddyn’ nhw, mae’r syniad fod bywyd emosiynol a deallusol yn parhau mewn enaid amhersonol, annelwig, ar wahân i’r corff, yn ymddangos y tu hwnt i reswm. Mae’r Sbaenwr o ysgrifennwr ac ysgolhaig o’r ugeinfed ganrif Miguel de Unamuno yn ysgrifennu: “Dymuno am i’r enaid fod yn anfarwol ydi credu yn anfarwoldeb yr enaid, ond dymuno hynny gyda’r fath rym sy’n sathru rheswm dan draed a mynd y tu hwnt iddo.” Ymhlith y rhai oedd yn gwrthod credu mewn anfarwoldeb personol mae’r hen athronwyr o fri, Aristotlys ac Epicurus, y meddyg Hippocrates, yr athronydd o Albanwr David Hume, yr ysgolhaig Arabaidd Averroës, a phrif weinidog cyntaf India wedi annibyniaeth, Jawaharlal Nehru.

12, 13. Pa gwestiynau pwysig sy’n codi ynglŷn â dysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid?

12 Y cwestiwn ydi, Ydi hi’n wir fod gennym ni enaid anfarwol? Os nad ydi’r enaid yn wir anfarwol, yna sut gall dysgeidiaeth gau o’r fath fod yn rhan hanfodol o fwyafrif crefyddau’r byd heddiw? Ble cychwynnodd y syniad? Ac os gwir yw fod yr enaid yn peidio â bod adeg marw, pa obaith allai fod i’r meirw?

13 ’Fedrwn ni ganfod atebion gwir a boddhaus i gwestiynau o’r fath? Medrwn! Caiff y cwestiynau hyn ac eraill eu hateb ar y tudalennau sy’n dilyn. Yn gyntaf, gadewch inni edrych sut cychwynnodd athrawiaeth anfarwoldeb yr enaid.

[Cwestiynau’r Astudiaeth]