Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sail Gobaith Unigryw!

Sail Gobaith Unigryw!

Sail Gobaith Unigryw!

“Pob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.” —IOAN 11:26.

1. I ba fath o amgylchoedd bydd miliynau sy’n awr yn farw yn cael eu hatgyfodi?

P AN gaiff miliynau eu cyfodi yn yr atgyfodiad, ’fyddan’ ’nhw ddim yn cael eu dwyn yn ôl i fyw ar ddaear wag. (Actau 24:15) Fe fyddan’ nhw’n deffro mewn amgylchoedd gwell a harddach a gweld fod cartrefi, dillad, a digonedd o fwyd wedi’u paratoi ar eu cyfer nhw. Pwy fydd yn gwneud yr holl baratoi hwn? Mae’n amlwg y bydd yn rhaid i bobl fod yn byw yn y byd newydd cyn cychwyn yr atgyfodiad daearol. Ond pwy?

2-4. Pa sail gobaith unigryw sydd o flaen y rhai sy’n byw yn “y dyddiau diwethaf”?

2 Mae cyflawni proffwydoliaeth Feiblaidd yn dangos ein bod ni’n byw yn “nyddiau diwethaf” trefn bresennol pethau. * (2 Timotheus 3:1) Yn fuan iawn ’nawr, mae Jehofah Dduw yn mynd i ymyrryd ym mhethau dyn a dileu drygioni o’r ddaear. (Salm 37:10, 11; Diarhebion 2:21, 22) Y pryd hwnnw, beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n ffyddlon wasanaethu Duw?

3 ’Wnaiff Jehofah ddim dinistrio’r cyfiawn ynghyd â’r rhai drwg. (Salm 145:20) ’Dyw e erioed wedi gwneud y fath beth, a ’wnaiff e mo hynny pan fydd yn glanhau pob drygioni o’r ddaear. (Cymharer Genesis 18:22, 23, 26) Yn wir, mae llyfr ola’r Beibl yn sôn am “dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a’r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd,” yn dod allan o’r “gorthrymder mawr.” (Datguddiad 7:9-14) Bydd, fe fydd lluoedd yn goroesi’r gorthrymder mawr ddaw â’r byd drwg presennol i’w ddiwedd, ac mi fyddan’ nhw’n dod yn rhan o fyd newydd Duw. Yno, fe fydd y ddynoliaeth ufudd yn gallu elwa’n llawn ar ddarpariaeth ryfeddol Duw i ryddhau dynoliaeth oddi wrth bechod a marwolaeth. (Datguddiad 22:1, 2) Felly, ’does dim rhaid i’r “dyrfa fawr” fyth brofi marwolaeth. Dyna sail gobaith unigryw!

4 ’Fedrwn ni ymddiried yn y gobaith syfrdanol hwn? Yn llwyr! Fe ddangosodd Iesu Grist ei hun y byddai ’na amser pan fyddai pobl yn byw heb fyth farw. Ychydig cyn atgyfodi ei gyfaill Lasarus, dywedodd Iesu wrth Martha: “Pob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.”—Ioan 11:26.

Medrwch Chithau Hefyd Fyw Am Byth

5, 6. Os ydych chi eisiau byw am byth ym Mharadwys ar y ddaear, beth ddylech chi ei wneud?

5 ’Ydych chi eisiau byw am byth ym Mharadwys ar y ddaear? ’Ydych chi’n hiraethu am weld eich anwyliaid eto? Yna mae’n rhaid i chi gymryd i mewn wybodaeth gywir am ewyllys Duw a’i fwriadau. Mewn gweddi ar Dduw, dywedodd Iesu: “A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, (“cymryd i mewn wybodaeth amdanat,” NW) yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.”—Ioan 17:3.

6 Ewyllys Duw ydi “gweld pob dyn yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd.” (1 Timotheus 2:3, 4) ’Nawr yw’r amser i ddysgu sut y medrwch chi, ynghyd â miliynau eraill sydd eisoes yn gwneud ewyllys Duw, fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear. Fe fydd Tystion Jehofah yn falch o’ch helpu chi i ddysgu rhagor am Dduw a’i ofynion. Pam na chysylltwch chi â nhw yn Neuadd y Deyrnas yn eich ymyl neu ysgrifennu i’r cyfeiriad agosaf a restrir ar y dudalen ddilynol?

[Troednodyn]

^ Par. 2 Gweler Knowledge That Leads to Everlasting Life, tudalennau 98-107, gyhoeddir gan Watchtower Bible and Tract Society of New York, Inc.

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Llun ar dudalen 31]

Ni fydd angen i “dyrfa fawr” fyth brofi marwolaeth