Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y Syniad yn Dod yn Rhan o Grefyddau’r Dwyrain

Y Syniad yn Dod yn Rhan o Grefyddau’r Dwyrain

Y Syniad yn Dod yn Rhan o Grefyddau’r Dwyrain

“’Roeddwn bob amser yn meddwl fod anfarwoldeb yr enaid yn wirionedd cyffredinol ’roedd pawb yn ei dderbyn. Felly fe’m synnwyd yn fawr o ddeall fod rhai meddylwyr mawr y Dwyrain a’r Gorllewin wedi dadlau’n angerddol yn erbyn y gred. ’Nawr ’rwy’n meddwl tybed sut daeth syniad anfarwoldeb i’r ymwybyddiaeth Hindŵaidd.” —MYFYRIWR PRIFYSGOL A FAGWYD YN HINDŴ.

1. Pam mae gwybodaeth am ddatblygu a thaenu athrawiaeth anfarwoldeb dyn mewn gwahanol grefyddau o ddiddordeb i ni?

S UT daeth y syniad fod gan ddyn enaid sy’n anfarwol yn rhan o Hindŵaeth a chrefyddau eraill y Dwyrain? Mae’r cwestiwn o ddiddordeb hyd yn oed i’r rhai o’r Gorllewin nad ydyn’ nhw’n gyfarwydd â’r crefyddau hyn, gan fod y gred yn effeithio ar agwedd pawb at y dyfodol. Gan fod dysgeidiaeth anfarwoldeb dyn yn nodwedd gyffredin mwyafrif crefyddau heddiw, gall gwybod sut datblygodd y cysyniad hwyluso gwell deall a chyfathrebu.

2. Pam bu India yn ffynhonnell nodedig dylanwad crefyddol yn Asia?

2 Mae Ninian Smart, athro astudiaethau crefyddol ym Mhrifysgol Caerhirfryn ym Mhrydain, yn dweud: “India fu canolfan bwysicaf dylanwad crefyddol yn Asia. Nid dim ond am fod India ei hun wedi esgor ar sawl ffydd—Hindŵaeth, Bwdaeth, Jainiaeth, Siciaeth, ayb. y mae hyn,—ond am i un o’r rhain, Bwdaeth, ddylanwadu’n ddwfn ar ddiwylliant Dwyrain Asia gyfan bron.” Mae llawer diwylliant y dylanwadwyd arnyn’ nhw fel hyn “yn dal i ystyried India yn famwlad ysbrydol iddyn’ nhw,” medd ysgolhaig o Hindŵ, Nikhilananda. Sut, felly, y bu i’r ddysgeidiaeth hon am anfarwoldeb ennill tir yn India a rhannau eraill o Asia?

Dysgeidiaeth Hindŵaeth ar Ailymgnawdoliad

3. Yn ôl hanesydd, pwy o bosib’ aeth â syniad trawsfudo eneidiau i India?

3 Yn y chweched ganrif C.C.C., tra ’roedd Pythagoras a’i ganlynwyr yng Ngwlad Groeg yn argymell damcaniaeth trawsfudo eneidiau, ’roedd gwŷr doeth Hindŵaidd oedd yn byw ar lannau afonydd Indus a Ganges yn India yn datblygu’r un cysyniad. “Prin mai damwain” oedd i’r gred hon ymddangos “yn y byd Groegaidd ac yn India,” yr un pryd, medd yr hanesydd Arnold Toynbee. “Un ffynhonnell [dylanwad] gyffredin bosib’,” awgryma Toynbee, “ydi cymdeithas grwydrol Ewrasia, a oedd wedi cyrraedd India, De-Orllewin Asia, y stepdir ar hyd glannau gogleddol Y Môr Du, a gorynysoedd y Balcanau ac Anatolia, yn yr 8fed a’r 7fed ganrif cyn Crist.” Mae’n amlwg i’r llwythau mudol Ewrasiaidd gludo syniad trawsfudo gyda nhw i India.

4. Beth oedd apêl cysyniad trawsfudo eneidiau i wŷr doeth Hindŵaidd?

4 ’Roedd Hindŵaeth wedi cychwyn yn India lawer ynghynt, wrth i’r Aryaid gyrraedd tua 1500 C.C.C. O’r cychwyn cyntaf, credai Hindŵaeth fod yr enaid yn wahanol i’r corff a bod yr enaid yn goroesi marwolaeth. Felly ’roedd Hindwiaid yn addoli cyndadau ac yn gosod bwyd i eneidiau eu meirw ei fwyta. Ganrifoedd yn ddiweddarach pan gyrhaeddodd syniad trawsfudo’r enaid India, rhaid ei fod wedi apelio at y gwŷr doeth Hindŵaidd oedd yn ymgodymu â phroblem fyd-eang drygioni a dioddefaint ymysg bodau dynol. Wrth gyfuno trawsfudo â’r hyn a elwir yn ddeddf Karma, deddf achos ac effaith, datblygodd gwŷr doeth Hindŵaidd ddamcaniaeth ailymgnawdoli lle gwobrwyir neu y cosbir rhagoriaethau a gwallau un bywyd yn yr un nesaf.

5. Yn ôl Hindŵaeth, beth ydi nod eithaf yr enaid?

5 Ond ’roedd un cysyniad arall a ddylanwadodd ar ddysgeidiaeth Hindŵaeth am yr enaid. “Mae’n ymddangos ei bod yn wir, union adeg ffurfio damcaniaeth trawsfudo a karma, neu hyd yn oed ynghynt,” medd Encyclopædia of Religion and Ethics, “fod cysyniad arall . . . yn graddol ymffurfio mewn cylch bychan o ddeallusion yng Ngogledd India—cysyniad athronyddol Brahman-Ātman [y Brahmin goruchaf a thragwyddol, y realedd eithaf].” Cyfunwyd y syniad hwn â damcaniaeth ailymgnawdoli i ddiffinio nod eithaf Hindwiaid—ymryddhau oddi wrth gylch trawsfudo er mwyn bod yn un â’r realedd eithaf. Sicrheir hyn, yn ôl fel mae Hindwiaid yn credu, wrth ymdrechu i ymddwyn yn gymdeithasol dderbyniol ac ennill gwybodaeth Hindŵaidd arbennig.

6, 7. Beth ydi cred Hindŵaeth heddiw ynglŷn â’r byd a ddaw?

6 Felly addasodd gwŷr doeth Hindŵaeth y syniad trawsfudo eneidiau yn rhan o athrawiaeth ailymgnawdoli drwy ei gyfuno â deddf Karma a chysyniad Brahmin. Ysgrifennodd Octavio Paz, bardd a enillodd Wobr Nobel a chyn lysgennad Mexico yn India: “Wrth i Hindŵaeth ymledu, felly hefyd syniad . . . sy’n allweddol i Brahminiaeth, Bwdaeth, a chrefyddau eraill Asia: metemseicosis, trawsfudo eneidiau ar draws bodolaethau olynol.”

7 Athrawiaeth ailymgnawdoli ydi sail Hindŵaeth gyfoes. Mae’r athronydd o Hindŵ Nikhilananda yn dweud: “Nid braint nifer dethol yn unig yw cyrraedd anfarwoldeb, ond mae’n enedigaeth-fraint i bawb, a dyna argyhoeddiad pob Hindŵ da.”

Cylch Aileni Bwdaeth

8-10. (a) Sut mae Bwdaeth yn diffinio bodolaeth? (b) Sut mae ysgolhaig Bwdaidd yn egluro aileni?

8 Sefydlwyd Bwdaeth yn India tua 500 C.C.C. Yn ôl traddodiad Bwdaidd, tywysog o India o’r enw Siddhārtha Gautama, y daethpwyd i’w ’nabod fel Bwda wedi iddo dderbyn goleuedigaeth, a sefydlodd Fwdaeth. Gan i Fwdaeth darddu o Hindŵaeth, mae ei dysgeidiaethau mewn rhai ffyrdd yn debyg i rai Hindŵaeth. Yn ôl Bwdaeth, cylch parhaol o aileni a marw ydi bodolaeth, ac fel yn achos Hindŵaeth, caiff safle pob unigolyn yn ei fywyd presennol ei benderfynu gan weithredoedd ei fywyd blaenorol.

9 Ond ’dyw Bwdaeth ddim yn diffinio bodolaeth yn nhermau enaid personol sy’n goroesi angau. “Yr hyn a welodd [Bwda] yn y seice dynol oedd dim ond cyfres wibiog o gyflyrau seicolegol dibarhâd, a gysylltir gan ddim byd ond chwant,” oedd sylw Arnold Toynbee. Ac eto, ’roedd Bwda yn credu bod rhywbeth—cyflwr neu rym—yn cael ei drosglwyddo o un bywyd i un arall. Mae’r Dr. Walpola Rahula, ysgolhaig Bwdaidd, yn egluro:

10 “’Dyw bodolaeth unigolyn yn ddim mwy na chyfuniad o rymoedd neu egnïon anianol a meddyliol. Llwyr ddad-weithredu’r corff anianol ydi’r hyn a alwn ni yn angau. ’Ydi’r holl rymoedd ac egnïon hyn yn peidio’n gyfangwbl wrth i’r corff ddad-weithredu? Mae Bwdaeth yn dweud, ‘Nac ydyn’.’ Mae ewyllys, penderfyniad, dymuniad, yr awch am fodoli, ac i barhau i fyw, ac i wella fwy-fwy trwy brofi aileni parhaol, yn rym aruthrol sy’n cychwyn a chynnal bywydau cyfain, bodolaethau cyfain, sydd hyd yn oed yn gyrru’r holl fyd. Dyma’r grym mwyaf, yr egni mwyaf yn y byd. Yn ôl Bwdaeth, ’dyw’r grym hwn ddim yn peidio gyda dad-weithredu’r corff, sef angau; ond mae’n parhau i’w fynegi’i hun ar ffurf arall, gan gynhyrchu ailfodolaeth a elwir aileni.”

11. Beth ydi syniad Bwdaeth am y byd a ddaw?

11 Mae Bwdaeth yn gweld y byd a ddaw fel hyn: Mae bodolaeth yn dragwyddol onibai bod yr unigolyn yn cyrraedd nod eithaf Nirfana, ymryddhau oddi wrth gylch aileni. Nid cyflwr o ddedwyddwch tragwyddol nac o ddod yn un â’r realedd eithaf ydi Nirfana. Yn syml, cyflwr anfodolaeth ydyw—y “man diangau” y tu hwnt i fodolaeth unigolyddol. Mae Webster’s Ninth New Collegiate Dictionary yn diffinio “Nirfana” yn “lle neu gyflwr pryd bydd pob pryder, poen, neu realedd allanol yn mynd yn angof.” Yn hytrach na cheisio anfarwoldeb, anogir Bwdyddion i ragori ar hynny wrth sicrhau Nirfana.

12-14. Sut mae gwahanol ffurfiau Bwdaeth yn cyfleu syniad anfarwoldeb?

12 Wrth iddi ymledu i wahanol leoedd yn Asia, cyfaddasodd Bwdaeth ei dysgeidiaethau i gynnwys credoau lleol. Er enghraifft, mae Bwdaeth Mahayana, y ffurf amlycaf yn Tsieina a Japan, yn credu mewn bodhisattfâu nefol, neu Fwdâu’r dyfodol. Mae bodhisattfâu yn gohirio eu Nirfana nhw i brofi bywydau di-rif er mwyn gwasanaethu eraill a’u helpu nhw i gyrraedd Nirfana. Felly fe all unigolyn ddewis parhau yn y cylch aileni hyd yn oed wedi ennill Nirfana.

13 Addasiad arall ddaeth yn arbennig o ddylanwadol yn Tsieina a Japan ydi athrawiaeth y Wlad Bur i’r Gorllewin, a grewyd gan Fwda Amitabha, neu Amida. Mae’r rhai sy’n galw ar enw Bwda mewn ffydd yn cael eu haileni i’r Wlad Bur, neu baradwys, lle mae amgylchiadau sy’n fwy ffafriol i gyrraedd yr oleuedigaeth derfynol. Beth ddatblygodd o’r ddysgeidiaeth hon? Fe eglura’r Athro Smart, y cyfeiriwyd ato eisoes: “Fel y gellid disgwyl, daeth ysblanderau paradwys, a ddisgrifir yn fyw yn rhai o ysgrythurau Mahayana, i ddisodli nirfana fel y nod eithaf yn y dychymyg poblogaidd.”

14 Mae Bwdaeth Tibet yn ymgorffori elfennau lleol eraill. Er enghraifft, mae llyfr meirw Tibet yn disgrifio ffawd unigolyn yn y rhyng-gyflwr cyn ei aileni. Dywedir y caiff y meirw eu dwyn i’r amlwg yng ngolau disglair y realedd eithaf, ac na chaiff y rhai na fedrant oddef y golau eu rhyddhau ond cael eu haileni. Yn amlwg, mae Bwdaeth, yn ei hamrywiol ffurfiau yn cyfleu syniad anfarwoldeb.

Addoli Cyndadau yn Shinto Japan

15-17. (a) Sut datblygodd addoli ysbrydoedd cyndadau yn Shinto? (b) Sut mae credu yn anfarwoldeb yr enaid yn sylfaenol i Shinto?

15 ’Roedd crefydd yn bod yn Japan cyn i Fwdaeth gyrraedd yno yn y chweched ganrif C.C. Crefydd heb enw ydoedd, yn cynnwys credoau yn ymwneud â moesau ac arferion y bobl. Gyda chyflwyno Bwdaeth, fodd bynnag, cododd angen gwahaniaethu rhwng crefydd Japan a’r un estron. Ac felly daeth yr enw “Shinto,” sy’n golygu “ffordd y duwiau,” i fod.

16 Beth oedd credo’r Shinto gwreiddiol ynglŷn â’r byd a ddaw? Gyda dyfod amaethu reis yn y gwlyptiroedd, “daeth angen am gymunedau sefydlog wedi’u cyfundrefnu’n dda,” eglura’r Kodansha Encyclopedia of Japan, “a datblygwyd defodau amaethyddol a oedd yn ddiweddarach i gael rôl mor bwysig yn Shintō.” Canlyniad ofni eneidiau ymadawedig oedd i’r bobl hyn o’r henfyd lunio defodau i’w tawelu nhw. Datblygodd hyn yn addoli ysbrydoedd cyndadau.

17 Yn ôl cred Shinto, mae enaid “ymadawedig” yn cadw’i bersonoliaeth ond mae wedi’i ddifwyno oherwydd angau. Pan fo’r galarus yn perfformio defodau coffaol, mae’r enaid yn cael ei buro nes symud ymaith pob malais, ac mae’n mabwysiadu gwedd heddychlon a haelfrydig. Ymhen amser, mae’r ysbryd cyndadol yn cael ei ddyrchafu i safle duwdod cyndadol, neu warchodwr. Gan iddo gydfodoli â Bwdaeth, ymgorfforodd Shinto ddysgeidiaethau Bwdaidd arbennig, gan gynnwys athrawiaeth paradwys. Felly, ’rydym yn canfod fod credu mewn anfarwoldeb yn sylfaenol i Shinto.

Anfarwoldeb mewn Taoaeth, Addoli Cyndadau mewn Conffiwsiaeth

18. Beth ydi syniad Taoaeth ynglŷn ag anfarwoldeb?

18 Sefydlwyd Taoaeth gan Lao-tzu, y dywedir iddo fyw yn Tsieina yn y chweched ganrif C.C.C. Nod bywyd, yn ôl Taoaeth, yw harmoneiddio gweithgarwch dynol â Tao—ffordd natur. Gellir crynhoi syniad Taoaeth ynglŷn ag anfarwoldeb fel hyn: Tao yw’r egwyddor sy’n llywodraethu’r bydysawd. ’Does dim dechrau na diwedd i Tao. Wrth fyw yn unol â Tao, daw unigolyn yn rhan weithredol ohono gan ddod yn dragwyddol.

19-21. Pa ymdrechion ddaeth yn sgîl dyfaliadau Taoaidd?

19 Yn eu hymgais i fod yn un â natur, daeth Taoiaid ymhen amser i ymddiddori’n arbennig yn ei bytholrwydd a’i hystwythder hi. Buont yn dyfalu efallai y gallai dyn wrth fyw mewn harmoni â Tao, neu ffordd natur, ganfod cyfrinachau natur, gan ei ddiogelu ei hun rhag niwed corfforol, afiechyd, a hyd yn oed farwolaeth.

20 Dechreuodd Taoiaid arbrofi gyda myfyrio, ymarferion anadlu, a diet, pethau, fel y tybid, a allai ohirio pydru’r corff ac angau. Cyn bo hir dechreuodd chwedlau ymledu am anfarwolion a allai hedfan ar gymylau ac ymddangos a diflannu fel y mynnent, oedd yn byw ar fynyddoedd sanctaidd neu ynysoedd pell am flynyddoedd di-rif, a chael eu cynnal gan wlith neu ffrwythau hud. Mae hanes Tsieina yn adrodd i’r ymerawdwr Ch’in Shih Huang Ti yn 219 C.C.C., anfon llynges gyda 3,000 o fechgyn a merched i ganfod ynys chwedlonol P’eng-lai, trigfan yr anfarwolion, er mwyn dychwelyd gyda pherlysieuyn anfarwoldeb. ’Does dim angen dweud na fu iddyn’ nhw ddychwelyd â’r elicsir.

21 Yn eu hymchwil am fywyd tragwyddol arweiniwyd y Taoiaid i arbrofi gyda dyfeisio pilsenni anfarwoldeb trwy gyfrwng alcemeg. Yn ôl y Taoiaid, bywyd ydi canlyniad cyfuno grymoedd cyferbyniol yin a yang (benywaidd a gwrywaidd). Felly, trwy asio plwm (tywyll, neu yin) a mercwri (llachar, neu yang), ’roedd yr alcemegwyr yn efelychu proses natur gan gredu mai pilsen anfarwoldeb fyddai’r cynnyrch.

22. Beth oedd canlyniad dylanwad Bwdaidd ar fywyd crefyddol Tsieina?

22 Erbyn y seithfed ganrif C.C., ’roedd Bwdaeth yn dylanwadu ar fywyd crefyddol Tsieina. Canlyniad hyn oedd cymysgedd oedd yn cynnwys elfennau o Fwdaeth, ysbrydegaeth, ac addoli cyndadau. “Rhoddodd Bwdaeth a Thaoaeth,” medd yr Athro Smart, “ffurf a sylwedd i gredoau am y bywyd a ddaw a oedd braidd yn arwynebol mewn addoli cyndadau yn Tsieina hen.”

23. Beth oedd agwedd Conffiwsiws ynglŷn ag addoli cyndadau?

23 Ni wnaeth Conffiwsiws, gŵr doeth amlwg arall Tsieina yn y chweched ganrif C.C.C., ac y daeth ei athroniaeth yn sail Conffiwsiaeth, sylwadau helaeth ar y byd a ddaw. Yn hytrach, pwysleisiodd bwysigrwydd daioni moesol ac ymddygiad cymdeithasol dderbyniol. Ond ’roedd ganddo agwedd ffafriol at addoli cyndadau, gan roi pwyslais mawr ar gadw defodau a seremonïau oedd yn ymwneud ag ysbrydoedd cyndadau ymadawedig.

Crefyddau Eraill y Dwyrain

24. Beth mae Jainiaeth yn ei ddysgu am yr enaid?

24 Sefydlwyd Jainiaeth yn India yn y chweched ganrif C.C.C. Dysgai ei sefydlydd, Mahāvīra, fod gan bob peth byw enaid tragwyddol, ac mai dim ond trwy ymwadu a hunanddisgyblaeth eithafol a gweithredu dulliau caeth di-drais tuag at pob creadur, y caiff yr enaid ei achub o gaethiwed Karma. Mae Jainiaid yn dal i gredu’r pethau hyn hyd heddiw.

25, 26. Pa gredoau Hindŵaidd a ganfyddir hefyd yn Siciaeth?

25 India hefyd ydi man geni Siciaeth, crefydd y mae 19 miliwn o bobl yn ei harfer. Rhoddwyd cychwyn i’r grefydd hon yn yr 16eg ganrif pan benderfynodd Gwrw Nānak asio rhannau gorau Hindŵaeth ac Islam a ffurfio crefydd unedig. Mabwysiadodd Siciaeth gredoau Hindŵaeth ynglŷn ag anfarwoldeb yr enaid, ailymgnawdoliad, a Karma.

26 Yn eglur mae’r gred fod bywyd yn parhau wedi i’r corff farw yn rhan annatod o fwyafrif crefyddau’r Dwyrain. Ond beth am Wledydd Cred, Iddewiaeth, ac Islam?

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Capsiwn ar dudalen 10]

CANOL ASIA

CASHMIR

TIBET

TSIEINA

COREA

JAPAN

Banaras

INDIA

Buddh Gaya

MYANMAR

GWLAD y THAI

SRI LANCA

CAMBODIA

JAFA

Y 3EDD GANRIF C.C.C.

Y GANRIF 1AF C.C.C.

Y GANRIF 1AF C.C.

Y 4EDD GANRIF C.C.

Y 6ED GANRIF C.C.

Y 7FED GANRIF C.C.

Dylanwadodd Bwdaeth ar Ddwyrain Asia gyfan

[Llun ar dudalen 9]

Ailymgnawdoliad sy’n cynnal Hindŵaeth

[Llun ar dudalen 11]

Wrth fyw mewn harmoni â natur, mae Taoiad yn ceisio dod yn dragwyddol

[Llun ar dudalen 12]

’Roedd gan Conffiwsiws agwedd ffafriol at addoli cyndadau