Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y Syniad yn Dod yn Rhan o Iddewiaeth, Gwledydd Cred, ac Islam

Y Syniad yn Dod yn Rhan o Iddewiaeth, Gwledydd Cred, ac Islam

Y Syniad yn Dod yn Rhan o Iddewiaeth, Gwledydd Cred, ac Islam

“Ymhlith pethau eraill, ffordd o gymodi pobl â’r ffaith fod yn rhaid iddyn’ nhw ryw ddydd farw ydi crefydd, boed trwy addo bywyd gwell y tu hwnt i’r bedd, aileni, neu’r ddau.” —GERHARD HERM, AWDUR O’R ALMAEN.

1. Ar ba gred sylfaenol mae’r rhan fwyaf o grefyddau yn seilio’u haddewid am fywyd wedi marwolaeth?

W RTH addo bywyd a ddaw, mae pob crefydd bron yn dibynnu ar y gred fod gan ddyn enaid sy’n anfarwol ac sydd wrth farw yn teithio i deyrnas arall neu’n trawsfudo i greadur arall. Fel nodwyd yn yr adran flaenorol, mae’r gred mewn anfarwoldeb dyn wedi bod yn rhan annatod o grefyddau’r Dwyrain o’u cychwyn. Ond beth am Iddewiaeth, Gwledydd Cred, ac Islam? Sut daeth y ddysgeidiaeth yn ganolog i’r tair ffydd hyn?

Iddewiaeth yn Derbyn Cysyniadau Groegaidd

2, 3. Yn ôl Encyclopaedia Judaica, ’oedd yr ysgrifeniadau sanctaidd Hebraeg yn dysgu anfarwoldeb yr enaid?

2 Mae gwreiddiau Iddewiaeth yn mynd yn ôl rhyw 4,000 o flynyddoedd i Abraham. Dechreuwyd cofnodi’r ysgrifeniadau sanctaidd Hebraeg yn yr 16eg ganrif C.C.C. a’u gorffen erbyn yr amser i Socrates a Platon ffurfio damcaniaeth anfarwoldeb yr enaid. ’Oedd yr Ysgrythurau hyn yn dysgu am anfarwoldeb yr enaid?

3 Dyma ateb Encyclopaedia Judaica: “Dim ond wedi’r cyfnod beiblaidd, y daeth credu yn anfarwoldeb yr enaid yn amlwg a chadarn . . . gan ddod yn un o gonglfeini’r ffydd Iddewig a’r ffydd Gristionogol.” Mae’n dweud hefyd: “Yn y cyfnod beiblaidd ystyrid y bersonoliaeth yn gyfanwaith. Felly ’doedd dim gwahaniaethu amlwg rhwng y corff a’r enaid.” Credai’r Iddewon cynnar yn atgyfodiad y meirw, a “rhaid gwahaniaethu rhwng hyn a’r gred yn . . . anfarwoldeb yr enaid,” yw pwyslais y gwyddoniadur hwnnw.

4-6. Sut daeth athrawiaeth anfarwoldeb yr enaid yn “un o gonglfeini” Iddewiaeth?

4 Sut, felly, daeth yr athrawiaeth yn “un o gonglfeini” Iddewiaeth? Mae hanes yn rhoi’r ateb. Yn 332 C.C.C., cipiodd Alecsander Fawr lawer o’r Dwyrain Canol gyda choncwest sydyn fel mellten. Wrth iddo gyrraedd Jerwsalem, croesawodd yr Iddewon ef yn galonnog. Yn ôl yr hanesydd Iddewig o’r ganrif gyntaf Flavius Josephus, bu iddyn’ nhw hyd yn oed ddangos iddo’r broffwydoliaeth yn llyfr Daniel, a ysgrifennwyd dros 200 mlynedd ynghynt, oedd yn amlwg ddisgrifio buddugoliaethau Alecsander yn rôl “brenin Groeg.” (Daniel 8:5-8, 21) Parhaodd olynwyr Alecsander â’i gynllun Heleneiddio, gan ledaenu iaith, diwylliant, ac athroniaeth Groeg i holl rannau’r ymerodraeth. ’Roedd cyfuno’r ddau ddiwylliant—y Groegaidd a’r Iddewig—yn sicr o ddilyn.

5 Dechreuwyd ar gyfieithiad cyntaf yr Ysgrythurau Hebraeg i’r Groeg, o’r enw y Septuagint, yn gynnar yn y drydedd ganrif C.C.C. Drwy gyfrwng hwn daeth llawer cenedl-ddyn i barchu’r grefydd Iddewig a dod yn gyfarwydd â hi, rhai yn troi ati hyd yn oed. Ar y llaw arall, ’roedd Iddewon yn dod yn gyfarwydd â’r meddwl Groegaidd, a daeth rhai yn athronwyr, rhywbeth hollol newydd yn eu hanes nhw. ’Roedd Philo o Alecsandria, o’r ganrif gyntaf C.C., yn un o’r athronwyr Iddewig hyn.

6 ’Roedd Philo yn parchu Platon yn fawr a cheisiodd egluro Iddewiaeth yn nhermau athroniaeth Groeg. “Drwy greu cyfuniad unigryw o athroniaeth Blatonaidd a thraddodiad feiblaidd,” medd y llyfr Heaven—A History, “paratodd Philo’r ffordd ar gyfer meddylwyr Cristionogol [ac Iddewig yn ogystal] diweddarach.” A beth oedd cred Philo am yr enaid? Mae’r llyfr yn mynd rhagddo: “O’i ran ef, mae angau’n dychwelyd yr enaid i’w gyflwr gwreiddiol, cynenedigaeth. Gan mai i’r byd ysbrydol y perthyn yr enaid, ’dyw bywyd y corff yn dod yn ddim ond pennod fer, un anffodus yn aml.” Ymhlith meddylwyr Iddewig eraill a gredai yn anfarwoldeb yr enaid mae Isaac Israeli, y meddyg adnabyddus o Iddew yn y 10fed ganrif, a Moses Mendelssohn, athronydd Iddewig o’r Almaen yn y 18fed ganrif.

7, 8. (a) Sut mae’r Talmwd yn darlunio’r enaid? (b) Beth mae llenyddiaeth gyfriniol Iddewig ddiweddarach yn ei ddweud am yr enaid?

7 Llyfr a ddylanwadodd yn sylweddol hefyd ar y meddwl a’r bywyd Iddewig ydi’r Talmwd—crynodeb ysgrifenedig y ddeddf lafar fel y’i gelwir, gyda sylwebu ac esbonio diweddarach ar y ddeddf hon, wedi’i gasglu gan rabïaid o’r ail ganrif C.C. hyd at y Canol Oesoedd. “Credai rabïaid y Talmwd,” medd Encyclopaedia Judaica, “ym modolaeth parhaol yr enaid wedi marwolaeth.” Mae’r Talmwd hyd yn oed yn sôn am y meirw yn cysylltu â’r byw. “Oherwydd dylanwad Platoniaeth mae’n debyg,” medd Encyclopædia of Religion and Ethics, “credai [rabïaid] yng nghynfodolaeth eneidiau.”

8 Mae’r Cabala, llenyddiaeth gyfriniol Iddewig ddiweddarach, yn mynd mor bell â dysgu am ailymgnawdoliad. Ynglŷn â’r gred hon, dywed The New Standard Jewish Encyclopedia: “Mae’n ymddangos i’r syniad gychwyn yn India. . . . Yn Cabbala mae’n dod yn amlwg gyntaf yn y llyfr Bahir, ac yna, o’r Zohar ymlaen, ’roedd yn cael ei dderbyn gan gyfrinwyr, a chwarae rhan bwysig yn y gredo a’r llenyddiaeth Hasidig.” Yn Israel heddiw, derbynnir ailymgnawdoliad yn gyffredinol yn ddysgeidiaeth Iddewig.

9. Beth yw agwedd mwyafrif carfanau Iddewiaeth heddiw at anfarwoldeb yr enaid?

9 Felly, daeth syniad anfarwoldeb yr enaid yn rhan o Iddewiaeth drwy ddylanwad athroniaeth Groeg, a heddiw caiff y cysyniad ei dderbyn gan fwyafrif ei charfanau. Beth ellir ei ddweud am sut daeth y ddysgeidiaeth yn rhan o Wledydd Cred?

Gwledydd Cred yn Mabwysiadu Meddyliau Platon

10. Beth oedd casgliad ysgolhaig blaenllaw o Sbaenwr ynglŷn â chred Iesu am anfarwoldeb yr enaid?

10 Cychwynnodd Cristionogaeth ddilys gyda Christ Iesu. Ynglŷn â Iesu ysgrifennodd Miguel de Unamuno, ysgolhaig blaenllaw o Sbaenwr yn yr 20fed ganrif: “Credai yn hytrach yn atgyfodiad y cnawd, yn ôl y dull Iddewig, nid yn anfarwoldeb yr enaid, yn ôl y dull Platonaidd [Groegaidd]. . . . Gellir gweld profi hyn mewn unrhyw lyfr esbonio gonest.” Ei gasgliad oedd: “Dogma athronyddol baganaidd . . . yw anfarwoldeb yr enaid.”

11. Pryd dechreuodd athroniaeth o wlad Groeg ddylanwadu ar Gristionogaeth?

11 Pryd a sut daeth y “ddogma athronyddol baganaidd” hon yn rhan o Gristionogaeth? Mae New Encyclopædia Britannica yn pwysleisio: “O ganol yr ail ganrif OC dechreuodd Cristionogion oedd wedi cael peth hyfforddiant yn athroniaeth Groeg deimlo angen mynegi’u ffydd yn ei thermau hi, er mwyn eu boddhad deallusol personol ac er mwyn troi paganiaid addysgedig. Yr athroniaeth fwyaf addas iddynt oedd Platoniaeth.”

12-14. Beth oedd rôl Origen ac Awstin yn asio athroniaeth Blatonaidd i Gristionogaeth?

12 Bu i ddau athronydd cynnar o’r fath ddylanwadu’n fawr ar athrawiaethau Gwledydd Cred. Origen o Alecsandria oedd un (c. 185-254 C.C.), ac Awstin o Hippo (354-430 C.C.) oedd y llall. Mae New Catholic Encyclopedia yn dweud amdanynt: “Dim ond gydag Origen yn y Dwyrain ac Awstin Sant yn y Gorllewin y sefydlwyd yr enaid yn sylwedd ysbrydol a ffurfio cysyniad athronyddol ynglŷn â’i natur.” Ar ba sail y ffurfiodd Origen ac Awstin eu cysyniadau am yr enaid?

13 ’Roedd Origen yn ddisgybl i Glement o Alecsandria, “y cyntaf o’r Tadau i fenthyg yn ddiamwys o’r traddodiad Groegaidd am yr enaid,” medd New Catholic Encyclopedia. Mae’n rhaid bod syniadau Platon am yr enaid wedi dylanwadu’n drwm ar Origen. “Cymerodd [Origen] yr holl ddrama gosmig am yr enaid gan Platon, a’i hadeiladu’n athrawiaeth Gristionogol,” nododd y diwinydd Werner Jaeger yn The Harvard Theological Review.

14 Mae rhai yng Ngwledydd Cred yn ystyried Awstin yn feddyliwr mwyaf yr oesoedd cynnar. Cyn troi at “Gristionogaeth” yn 33 oed, bu gan Awstin ddiddordeb dwys mewn athroniaeth ac ’roedd wedi dod yn Neo-Platonydd. * Ar ei dröedigaeth, parhaodd i resymu fel Neo-Platonydd. “Ei feddwl e oedd y pair yr asiwyd ynddo lwyraf grefydd y Testament Newydd i draddodiad Platonaidd athroniaeth Groeg,” medd The New Encyclopædia Britannica. Mae New Catholic Encyclopedia yn cydnabod fod “athrawiaeth” Awstin [am yr enaid], “a ddaeth yn safonol yn y Gorllewin tan yn hwyr yn y 12fed ganrif, yn ddyledus iawn . . . i Neo-Platoniaeth.”

15, 16. A wnaeth diddordeb y 13eg ganrif yn nysgeidiaethau Aristotlys newid agwedd yr eglwys at ddysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid?

15 Yn y 13eg ganrif, ’roedd dysgeidiaethau Aristotlys yn ennill poblogrwydd yn Ewrop, yn bennaf oherwydd fod gwaith ysgolheigion Arabaidd, oedd wedi esbonio ysgrifeniadau Aristotlys yn helaeth, ar gael yn y Lladin. Gwnaeth y syniadau Aristotelaidd argraff ddofn ar ysgolhaig o Babydd o’r enw Thomas Aquinas. Oherwydd ysgrifeniadau Aquinas, dylanwadodd barn Aristotlys yn fwy nag un Platon ar ddysgeidiaeth yr eglwys. Ond nid effeithiodd y duedd hon ar ddysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid.

16 ’Roedd Aristotlys yn dysgu fod yr enaid wedi’i gysylltu’n anwahanadwy â’r corff ac nad oedd yn parhau i fodoli fel unigolyn wedi marwolaeth ac os oedd unrhyw beth tragwyddol yn bodoli mewn dyn, deall haniaethol, di-bersonol ydoedd. ’Doedd edrych fel hyn ar yr enaid ddim mewn harmoni â chred yr eglwys ynglŷn ag eneidiau personol yn goroesi angau. Felly, fe addasodd Aquinas farn Aristotlys am yr enaid, gan honni y gellir profi anfarwoldeb yr enaid trwy resymu. Felly, arhosodd cred yr eglwys yn anfarwoldeb yr enaid yn gyfan.

17, 18. (a) A fu i Ddiwygiad Protestannaidd yr 16eg ganrif gyflwyno diwygiad yn y ddysgeidiaeth am yr enaid? (b) Beth ydi safbwynt y rhan fwyaf o enwadau Gwledydd Cred ynglŷn ag anfarwoldeb yr enaid?

17 Yn ystod y 14eg a’r 15ed ganrif, rhan gynnar y Dadeni, bu adfywiad yn y diddordeb yn Platon. Fe gynorthwyodd teulu enwog Medici yn yr Eidal, hyd yn oed i sefydlu academi yn Fflorens i hybu astudio athroniaeth Platon. Yn ystod yr 16eg a’r 17eg ganrif, pylodd y diddordeb yn Aristotlys. Ac ni fu i’r Diwygiad Protestannaidd yn y 16eg ganrif ddiwygio’r ddysgeidiaeth am yr enaid. Er i Ddiwygwyr Protestannaidd ddadlau ynglŷn â dysgeidiaeth y purdan, bu iddyn’ nhw dderbyn syniad cosb neu wobr dragwyddol.

18 Felly mae dysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid yn parhau yn amlwg yn y rhan fwyaf o enwadau Gwledydd Cred. Gan sylwi ar hyn, ysgrifennodd ysgolhaig o America: “Yn wir, i fwyafrif mawr ein hil ni, mae crefydd yn golygu anfarwoldeb, a dim arall. Duw ydi’r un sy’n cynhyrchu anfarwoldeb.”

Anfarwoldeb ac Islam

19. Pryd sefydlwyd Islam, a chan bwy?

19 Cychwynnodd Islam gyda galw Muḥammad i fod yn broffwyd pan oedd tua 40 mlwydd oed. Credir yn gyffredinol ymhlith Moslemiaid i ddatguddiadau ddod i’w ran dros gyfnod o rhyw 20 i 23 mlynedd, o tua 610 C.C. i’w farw yn 632 C.C. Mae’r datguddiadau hyn yn cael eu cofnodi yn y Koran, llyfr sanctaidd y Moslemiaid. Erbyn i Islam ddod i fodolaeth, ’roedd cysyniad Platonaidd yr enaid wedi treiddio i Iddewiaeth a Gwledydd Cred.

20, 21. Beth mae Moslemiaid yn ei gredu am y byd a ddaw?

20 Mae Moslemiaid yn credu mai uchafbwynt y datguddiadau a roddwyd i’r Hebreaid a’r Cristionogion ffyddlon gynt ydi eu ffydd nhw. Mae’r Koran yn crybwyll yr Ysgrythurau Hebraeg a’r Ysgrythurau Groeg. Ond ynglŷn â dysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid, mae’r Koran yn dysgu’n wahanol i’r ysgrifeniadau hyn. Mae’r Koran yn dysgu fod gan ddyn enaid sy’n parhau i fyw wedi angau. Mae hefyd yn sôn am atgyfodiad y meirw, dydd barn, a thynged derfynol yr enaid—naill ai bywyd mewn gardd baradwys nefol neu gosb yn nhân uffern.

21 Mae Moslemiaid o’r farn fod enaid person marw yn mynd i Barzakh, neu “Ddosraniad,” “lle neu gyflwr y bydd pobl ynddo wedi marwolaeth a chyn y Farn.” (Surah 23:99, 100, The Holy Qur-an, troednodyn) Mae’r enaid yn ymwybodol, yn profi yno’r hyn a elwir “Cosbedigaeth y Beddrod” os bu’r person yn ddrwg, neu yn mwynhau hapusrwydd os bu’n ffyddlon. Ond mae’ rhaid i’r rhai ffyddlon hefyd brofi peth poenydio oherwydd eu hychydig bechodau a gyflawnwyd tra ’roeddynt yn fyw. Ar y dydd barn, byddant bob un yn wynebu eu tynged dragwyddol, sy’n terfynu’r rhyng-gyflwr hwnnw.

22. Pa ddamcaniaethau gwahanol wnaeth rhai athronwyr Arabaidd eu cyflwyno ynglŷn â thynged yr enaid?

22 Ymddangosodd syniad anfarwoldeb yr enaid mewn Iddewiaeth ac yng Ngwledydd Cred oherwydd dylanwad Platoniaeth, ond ’roedd y cysyniad yn rhan hanfodol o Islam o’i chychwyn. ’Dyw hyn ddim yn golygu na cheisiodd ysgolheigion Arabaidd gyfuno dysgeidiaethau Islamaidd ac athroniaeth Groeg. Yn wir, dylanwadwyd yn gryf ar y byd Arabaidd gan waith Aristotlys. Ac fe eglurodd ysgolheigion Arabaidd nodedig, megis Avicenna ac Averroës, y meddwl Aristotelaidd gan ychwanegu’n fanwl ato. Ond, wrth iddyn’ nhw geisio harmoneiddio y meddwl Groegaidd gyda’r ddysgeidiaeth Foslemaidd am yr enaid, bu iddyn’ nhw ddatblygu damcaniaethau gwahanol. Er enghraifft, dywedodd Avicenna fod yr enaid personol yn anfarwol. Ar y llaw arall, dadleuodd Averroës yn erbyn y syniad hwnnw. Beth bynnag am y safbwyntiau hyn, mae anfarwoldeb yr enaid yn aros yn gred gan y Moslemiaid.

23. Ble mae Iddewiaeth, Gwledydd Cred, ac Islam yn sefyll ar destun dadl anfarwoldeb yr enaid?

23 Mae’n eglur, felly, fod Iddewiaeth, Gwledydd Cred, ac Islam oll yn dysgu athrawiaeth anfarwoldeb yr enaid.

[Troednodyn]

^ Par. 14 Un o ymlynwyr Neo-Platoniaeth, fersiwn newydd ar athroniaeth Platon a ddatblygwyd gan Plotinus yn Rhufain y drydedd ganrif.

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Llun ar dudalen 14]

Arweiniodd concwest Alecsander Fawr at gyfuno’r diwylliannau Groegaidd ac Iddewig

[Lluniau ar dudalen 15]

Ceisiodd Origen, uchaf, ac Awstin asio athroniaeth Blatonaidd i Gristionogaeth

[Lluniau ar dudalen 16]

Datganodd Avicenna, uchod, fod yr enaid personol yn anfarwol. Dadleuodd Averroës yn erbyn y syniad hwnnw