Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Yr Enaid Yn Ôl y Beibl

Yr Enaid Yn Ôl y Beibl

Yr Enaid Yn Ôl y Beibl

“Daeth y dyn yn greadur (“enaid,” “Y Beibl Cysegr-Lân”) byw.” —GENESIS 2:7.

1. Beth mae angen inni ei archwilio er mwyn penderfynu beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am yr enaid?

F EL ’rydym wedi gweld, mae credoau ynglŷn â’r enaid yn lluosog ac yn amrywiol. Hyd yn oed ymhlith y rhai sy’n honni bod eu credoau wedi’u seilio ar y Beibl, mae syniadau gwahanol ynglŷn â’r hyn ydi’r enaid a beth sy’n digwydd iddo pan ’rydym yn marw. Ond beth mae’r Beibl yn ei wir ddysgu am yr enaid? Er mwyn canfod hynny, mae angen inni archwilio ystyron y geiriau Hebraeg a Groeg sy’n cael eu cyfieithu “enaid” yn y Beibl.

“Enaid” yn Golygu Creadur Byw

2, 3. (a) Pa air sy’n cael ei gyfieithu’n “enaid” yn yr Ysgrythurau Hebraeg, a beth ydi ystyr sylfaenol y gair hwn? (b) Sut mae Genesis 2:7 yn cadarnhau y gall y gair “enaid” ddynodi’r person cyfan?

2 Y gair Hebraeg sy’n cyfateb i “enaid” ydi neʹphesh, ac mae’n digwydd 754 gwaith yn yr Ysgrythurau Hebraeg (a elwir yr Hen Destament yn gyffredin). Beth ydi ystyr neʹphesh? Yn ôl The Dictionary of Bible and Religion, “fel rheol mae’n cyfeirio at yr holl fod byw, at yr unigolyn cyfan.”

3 Er enghraifft, mae Genesis 2:7 yn dweud: “Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einoes; a daeth y dyn yn greadur (“enaid,” BCL) byw.” Sylwch nad oedd Adda yn meddu ar enaid; enaid ydoedd—yn union fel mae rhywun sy’n dod yn feddyg yn feddyg. Gall y gair “enaid,” felly, ddisgrifio person cyfan.

4, 5. (a) Rhowch enghreifftiau i ddangos fod y gair “enaid” yn cyfeirio at y person cyfan? (b) Sut mae The Dictionary of Bible and Religion yn cadarnhau’r ddealltwriaeth mai enaid ydi person?

4 Mae’r ystyr hwn yn cael ei gadarnhau drwy’r holl Ysgrythurau Hebraeg, lle gwelwn ymadroddion megis “os bydd unrhyw un (“enaid,” New World Translation) yn pechu” (Lefiticus 5:1), “unrhyw un (“enaid,” BCL) a fydd yn gweithio” (Lefiticus 23:30), “os ceir bod dyn (“enaid,” NW) wedi herwgipio un o’i gydwladwyr” (Deuteronomium 24:7), “nes ei fod wedi ymlâdd,” (“ei enaid a ymofidiodd i farw,” BCL) (Barnwyr 16:16), “am ba hyd y blinwch fi? (“fy enaid,” BCL)” (Job 19:2), ac “mae fy enaid yn anniddig gan ofid.”—Salm 119:28.

5 ’Does dim awgrym yn y darnau hyn mai rhyw endid annelwig sy’n parhau i fyw wedi marwolaeth ydi’r enaid. Mae The Dictionary of the Bible and Religion yn dweud: “Byddai sôn yn ein termau ni fod ‘enaid’ yr anwylyn wedi ymadael i fod gyda’r Arglwydd neu siarad am yr ‘enaid anfarwol’ yn hollol annealladwy yn niwylliant yr HD [Hen Destament].”

6, 7. Pa air sy’n cael ei gyfieithu’n “enaid” yn yr Ysgrythurau Cristionogol Groeg, a beth ydi ystyr sylfaenol y gair hwn?

6 Ragor na chan gwaith yn yr Ysgrythurau Cristionogol Groeg (a elwir yn gyffredin yn Destament Newydd) y gair sy’n cael ei gyfieithu “enaid” ydi psy·kheʹ. Fel neʹphesh, mae’r gair hwn yn aml yn cyfeirio at unigolyn cyfan. Er enghraifft, ystyriwch yr ymadroddion canlynol: “y mae fy enaid mewn cynnwrf.” (Ioan 12:27) “Yr oedd ofn ar bob enaid.” (Actau 2:43) “Y mae’n rhaid i bob dyn (“pob enaid,” BCL) ymostwng i’r awdurdodau sy’n ben.” (Rhufeiniaid 13:1) “Cysurwch y gwan galon (“eneidiau digalon,” NW).” (1 Thesaloniaid 5:14) “Fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddŵr.”—1 Pedr 3:20.

7 Mae’n eglur fod psy·kheʹ, fel neʹphesh, yn cyfeirio at yr unigolyn cyfan. Yn ôl yr ysgolhaig Nigel Turner, mae’r gair hwn “yn arwyddocáu yr hyn sy’n nodweddiadol ddynol, yr hunan, y corff anianol sydd â rûaḥ [ysbryd] Duw wedi’i anadlu i mewn iddo. . . . Ar yr hunan cyfan mae’r pwyslais.”

8. ’Ydi anifeiliaid yn eneidiau? Eglurwch.

8 Yn y Beibl mae ystyr y gair “enaid” yn cyfeirio nid yn unig at fodau dynol ond hefyd at anifeiliaid. Er enghraifft, wrth ddisgrifio creu creaduriaid y môr, mae Genesis 1:20 yn dweud i Dduw orchymyn: “Heigied y dyfroedd o greaduriaid (“eneidiau,” NW) byw.” Ac ar y dydd creu nesaf, dywedodd Duw: “Dyged y ddaear greaduriaid (“eneidiau,NW) byw yn ôl eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth.” (Genesis 1:24; cymharer Numeri 31:28, BCL) Felly, gall “enaid” gyfeirio at greadur byw, boed fod dynol neu anifail.

“Enaid” yn Golygu Bywyd Creadur

9. (a) Pa ystyr estynedig gellir ei roi i’r gair “enaid”? (b) ’Ydi hyn yn gwrthdaro â’r syniad mai’r enaid ydi’r person ei hun?

9 Ar adegau, mae’r gair “enaid” yn cyfeirio at y bywyd mae dyn neu anifail yn ei fyw. ’Dyw hyn ddim yn newid diffiniad y Beibl o’r enaid fel dyn neu anifail. I egluro: Byddwn yn dweud fod rhywun yn fyw, gan olygu ei fod yn berson byw. Gallem hefyd ddweud fod bywyd ganddo. Yn yr un modd, enaid ydi person byw. Ond, tra mae’n fyw, gellir sôn am “enaid” yn rhywbeth sydd ganddo.

10. Rhowch enghreifftiau i ddangos y gall y gair “enaid” gyfeirio at y bywyd mae dyn neu anifail yn ei fyw.

10 Er enghraifft, dywedodd Duw wrth Moses: “Y mae pawb oedd yn ceisio dy ladd (“hela dy enaid,” NW) bellach wedi marw.” (Exodus 4:19) Mae’n eglur mai ceisio’i fywyd ’roedd gelynion Moses. Gwelwn ddefnyddio’r gair “enaid” mewn ffordd debyg yn y gosodiadau canlynol. “Yr oedd arnom ofn mawr am ein heinioes (“eneidiau,” NW).” (Josua 9:24) “A ffoi am eu heinioes (“eneidiau,” NW).” (2 Brenhinoedd 7:7) “Y mae’r cyfiawn yn ystyriol o’i anifail (“enaid ei anifail,” NW).” (Diarhebion 12:10) “Mab y Dyn . . . ddaeth . . . i roi ei einioes (“enaid,” NW) yn bridwerth dros lawer.” (Mathew 20:28) “Bu yn ymyl marw . . . pan fentrodd ei fywyd, (“enaid,” NW).” (Philipiaid 2:30) Ym mhob achos, ystyr y gair “enaid” ydi “bywyd.” *

11. Beth gellir ei ddweud am y ffordd mae’r Beibl yn defnyddio’r gair “enaid”?

11 Felly mae’r gair “enaid” fel mae’n cael ei ddefnyddio yn y Beibl yn cyfeirio at ddyn neu anifail neu at y bywyd mae dyn neu anifail yn ei fyw. Mae diffiniad y Beibl o’r gair enaid yn glir, yn gyson, a heb ei lethu gan athroniaethau ac ofergoelion cymhleth dynion. Ond beth sy’n digwydd i’r enaid adeg marw? Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, rhaid inni’n gyntaf ddeall pam ’rydym ni’n marw.

[Troednodyn]

^ Par. 10 Mae Mathew 10:28 hefyd yn defnyddio’r gair “enaid” i olygu “bywyd.”

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Lluniau ar dudalen 20]

Eneidiau ydynt oll