Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Ystyr Hyn?

Beth Yw Ystyr Hyn?

Beth Yw Ystyr Hyn?

DYWEDODD Iesu Grist mai nodwedd cyfnod “gorpheniad yr oes” fyddai rhyfel, adegau newyn, plâu, a daeargrynfâu.—Mathew 24:1-8 [Y Beibl Cyssegr-Lan, 1908, troednodyn]; Luc 21:10, 11.

Ers 1914 mae ansawdd bywyd wedi dirywio yn sgil rhyfeloedd rhwng cenhedloedd a rhwng grwpiau ethnig, yn aml o ganlyniad i glerigwyr yn ymyrryd mewn gwleidyddiaeth, ond yn fwy diweddar o ganlyniad i ymosodiadau brawychwyr ar raddfa eang.

Er gwaethaf datblygiadau gwyddonol, mae cannoedd o filiynau o bobl yn fyd-eang yn brin o fwyd. Mae newyn yn lladd miliynau bob blwyddyn.

Yn ogystal, mae plâu neu epidemigau afiechydon heintus, yn rhan o’r arwydd roddodd Iesu. Yn dilyn Rhyfel Byd I, lladdodd epidemig ffliw 21,000,000 a rhagor o bobl. Tra roedd plâu’r gorffennol yn gymharol leol, ymledodd y ffliw hwn dros holl wledydd ac ynysoedd y byd. Heddiw mae AIDS yn cerdded y ddaear, a phlâu megis TB, malaria, dallineb afon (river blindness), ac afiechyd Chagas yn dal i boeni’r gwledydd datblygol.

Yn ôl pob sôn, mae degau o filoedd o ddaeargrynfâu, sy’n amrywio o ran eu cryfder, yn taro bob blwyddyn. Waeth beth fo’r offer sydd ar gael na’r dulliau gwell o gofnodi’r digwyddiadau, mae trychinebau mewn mannau poblog o ganlyniad i ddaeargrynfâu yn cael sylw amlwg yn y newyddion.

Yn ogystal, fe ragfynegodd y Beibl: “Rhaid iti ddeall hyn, fod amserau enbyd i ddod yn y dyddiau diwethaf. Bydd pobl yn hunangar ac yn ariangar, yn ymffrostgar a balch a sarhaus, yn anufudd i’w rhieni, yn anniolchgar ac yn ddigrefydd. Byddant yn ddi-serch a digymod, yn enllibus a dilywodraeth ac anwar, heb ddim cariad at ddaioni. Bradwyr fyddant, yn ddi-hid, yn llawn balchder, yn caru pleser yn hytrach na charu Duw, yn cadw ffurf allanol crefydd ond yn gwadu ei grym hi. Cadw draw oddi wrth y rhain.”—2 Timotheus 3:1-5.

Oni fyddech chi’n cytuno ein bod ni’n byw mewn “amserau enbyd”?

Ydych chi wedi sylwi fel mae pobl yn eithafol o hunanol, yn ariangar, ac yn llawn balchder?

Onid ydi pobl heddiw yn mynnu popeth iddynt eu hunain, yn anniolchgar, yn anheddychol, ac yn annheyrngar?

Ydych chi’n sylwi fel mae anufudd-dod i rieni ynghyd ag anghyfeillgarwch ar gynnydd, nid yma ac acw ond ar hyd a lled y ddaear?

Mae’n amlwg ein bod ni’n byw mewn byd sy’n feddw ar bleser ac yn brin o weithredoedd daionus. Dyna sut y disgrifia’r Beibl agwedd pobl yn ystod “y dyddiau diwethaf.”

Oes angen rhagor o brawf i nabod y cyfnod rydym yn byw ynddo? Ynglŷn â’r union gyfnod hwnnw fe ragfynegodd Iesu y byddai newydd da Teyrnas Dduw yn cael ei bregethu i bobl y byd. (Mathew 24:14) Ydi hynny’n digwydd?

Mae The Watchtower, cylchgrawn sy’n seiliedig ar y Beibl ac sydd â’r amcan o gyhoeddi newydd da Teyrnas Jehofah, yn cael ei argraffu’n gyson mewn rhagor o ieithoedd nag unrhyw gyfnodolyn arall.

Bob blwyddyn, mae Tystion Jehofah yn treulio dros biliwn o oriau yn tystiolaethu’n bersonol i eraill am Deyrnas Dduw.

Ar hyn o bryd cyhoeddir llenyddiaeth Feiblaidd ganddynt mewn tua 400 iaith, gan gynnwys ieithoedd sy’n cael eu darllen gan boblogaethau pellennig a bychain. Drwy gyfrwng gwaith Tystion Jehofah, mae’r newydd da wedi cyrraedd pob cenedl, gan gynnwys ynysoedd a thiriogaethau sy’n rhy fychan i haeddu arwyddocâd gwleidyddol. Yn y rhan fwyaf o’r gwledydd hyn maen’ nhw’n cynnal rhaglen addysg Feiblaidd reolaidd.

Yn wir, mae newydd da Teyrnas Dduw yn cael ei bregethu i bobl y ddaear, nid er mwyn achub y byd, ond er tystiolaeth. Mae pawb ym mhobman yn cael cyfle i ddangos eu hagwedd at yr Un a greodd y nefoedd a’r ddaear, ac i ddangos pa mor barod maen’ nhw i barchu’i ddeddfau ac i ymddwyn yn gariadus at eu cyd-ddyn.—Luc 10:25-27; Datguddiad 4:11.

Cyn bo hir, mi fydd Teyrnas Dduw yn sicrhau glendid ar y ddaear a’i throi’n baradwys fyd-eang yn rhydd oddi wrth ddylanwad y drygionus.—Luc 23:43.

[Blwch ar dudalen 6]

Dyddiau Diwethaf Beth?

Nid dyddiau diwethaf y ddynoliaeth. Mae’r Beibl yn cynnig sail gobaith byw am byth i’r rhai sy’n gwneud ewyllys Duw.—Ioan 3:16, 36; 1 Ioan 2:17.

Nid dyddiau diwethaf y ddaear chwaith. Mae Gair Duw yn addo y bydd y ddaear yn breswylfa i’w thrigolion am byth.—Salm 37:29; 104:5; Eseia 45:18.

Yn hytrach, yr hyn sydd dan sylw ydi dyddiau diwethaf y drefn bresennol dreisgar, ddigariad a’r rhai sy’n glynu wrth ei ffyrdd hi.—Diarhebion 2:21, 22.

[Blwch/llun ar dudalen 7]

Ai Gair Duw yn Wir Yw’r Beibl?

Dro ar ôl tro, ysgrifennodd proffwydi’r Beibl: “Dyma’r hyn a ddywed yr ARGLWYDD.” [“Iafe (Yahweh)”, xxix ] (Eseia 43:14; Jeremeia 2:2) Mi bwysleisiodd Iesu Grist, Mab Duw, ‘nad ohono’i hun yr oedd yn llefaru.’ (Ioan 14:10) Fe ddywed y Beibl yn gwbl amlwg fod “pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw.”—2 Timotheus 3:16.

Does dim un llyfr arall yn cael ei gyhoeddi mewn cymaint o ieithoedd—dros 2,200, yn ôl yr United Bible Societies. Does gan dim un llyfr arall gylchrediad mor eang—dros bedwar biliwn copi a rhagor. Onid dyna fyddech chi’n ei ddisgwyl gan neges oddi wrth Dduw i’r holl ddynolryw?

Os hoffech drafodaeth lawnach am y dystiolaeth mai Duw ysbrydolodd y Beibl, gweler y llyfr The Bible—God’s Word or Man’s?, a gyhoeddir gan Dystion Jehofah.

Os derbyniwch yn werthfawrogol mai Gair Duw yw’r Beibl, fe gewch chi fudd mawr o’i ddarllen.

[Blwch/lluniau ar dudalen 8]

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Llywodraeth nefol ydyw sy’n fynegiant o frenhiniaeth y gwir Dduw, Jehofah, Creawdwr nefoedd a daear.—Jeremeia 10:10, 12.

Yn ôl y Beibl, Iesu Grist yw’r un sy’n derbyn gan Dduw yr awdurdod i lywodraethu. (Datguddiad 11:15) Pan oedd Iesu ar y ddaear, roedd yn amlwg ei fod eisoes wedi derbyn awdurdod aruthrol gan Dduw—awdurdod i reoli’r elfennau naturiol, i wella pob math o afiechydon, a hyd yn oed awdurdod i godi’r meirw. (Mathew 9:2-8; Marc 4:37-41; Ioan 11:11-44) Mynegwyd trwy broffwydoliaeth ysbrydoledig y Beibl y byddai Duw hefyd yn rhoi iddo: “arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth, i’r holl bobloedd o bob cenedl ac iaith ei wasanaethu.” (Daniel 7:13, 14) Teyrnas nefoedd yw enw’r llywodraeth honno; o’r nef mae Iesu nawr yn gweithredu ei frenhiniaeth.

[Lluniau ar dudalen 7]

Pregethu’r newydd da yn fyd-eang