Byd Newydd Yn Ôl Addewid Duw
Byd Newydd Yn Ôl Addewid Duw
MAE’R Beibl, Gair ysgrifenedig Duw, yn ein llenwi â gobaith pan ddywed: “Disgwyl yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, am nefoedd newydd a daear newydd, lle bydd cyfiawnder yn cartrefu.”—2 Pedr 3:13.
Beth yw’r “nefoedd newydd”? Mae’r Beibl yn cysylltu nefoedd â brenhiniaeth. (Actau 7:49) Llywodraeth newydd fydd yn teyrnasu dros y ddaear yw’r “nefoedd newydd”. Y mae’n newydd yn yr ystyr y bydd yn disodli’r gyfundrefn reoli bresennol; yn ogystal mae’n ddatblygiad newydd yn nhrefn arfaeth Duw. Dyma’r Deyrnas yr anogodd Iesu inni weddïo amdani. (Mathew 6:10) Fe’i gelwir yn “deyrnas nefoedd” oherwydd mai Duw yw ei Ffynhonnell, ac am mai’r nefoedd yw ei breswylfa.—Mathew 7:21.
Beth yw’r “ddaear newydd”? Nid glôb newydd ydi hi, gan fod y Beibl yn egluro y bydd y ddaear yn breswylfa dragwyddol. Cymdeithas newydd o fodau dynol yw’r “ddaear newydd.” Mi fydd hi’n newydd yn yr ystyr na fydd pobl ddrwg yn cael byw arni. (Diarhebion 2:21, 22) Bydd bodau dynol sy’n fyw y pryd hwnnw yn anrhydeddu’r Creawdwr, byddant yn ufudd iddo, ac yn byw mewn harmoni â’i ofynion. (Salm 22:27) Mae gwahoddiad i bobl y cenhedloedd ddysgu am y gofynion hynny ac addasu eu bywyd fel bo’r gofyn. Ai dyna ’rydych chi’n ei wneud?
Yn y byd newydd, bydd pawb yn parchu brenhiniaeth Duw. Ydych chi’n caru Duw yn ddigon i chi fedru ufuddhau iddo? (1 Ioan 5:3) Ydi hynny’n amlwg yn eich cartref? yn y gweithle neu yn yr ysgol? yn y ffordd rydych yn defnyddio’ch bywyd?
Yn y byd newydd hwnnw, bydd cymdeithas yn unfryd yn addoli’r gwir Dduw. Ydych chi’n addoli Creawdwr nefoedd a daear? Ydi’ch addoliad chi yn eich gwir uno â chyd-addolwyr o bob cenedl, pob hil a phob iaith?—Salm 86:9, 10; Eseia 2:2-4; Seffaneia 3:9.
[Blwch ar dudalen 17]
Y Duw Sy’n Addo’r Pethau Hyn
Ef yw Gwneuthurwr holl greadigaethau’r ffurfafen a phlaned Daear. Ef yw’r un y cyfeiriodd Iesu Grist ato yn y geiriau “yr unig wir Dduw.”—Ioan 17:3.
Anrhydeddu duwiau o waith llaw dyn mae’r rhelyw o’r ddynoliaeth. Mae miliynau’n ymgrymu o flaen delwau difywyd. Gwelir eraill yn gogoneddu sefydliadau dynol, athroniaethau materol, neu chwantau personol. Nid yw pawb o’r mwyafrif sy’n honni defnyddio’r Beibl yn anrhydeddu enw’r un mae’r Beibl yn cyfeirio ato fel “y gwir Dduw.”—Jeremeia 10:10.
Gwelwn y Creawdwr yn cyfeirio ato’i hun yn y geiriau, “Myfi yw’r ARGLWYDD, [“Iafe, (Yahweh)”, xxix], dyna fy enw.” (Eseia 42:5, 8) Yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl ymddengys yr enw hwn oddeutu 7,000 o weithiau. Fe ddysgodd Iesu Grist i’w ganlynwyr weddïo: “Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw.”—Mathew 6:9.
Sut un ydi’r gwir Dduw? Fe gyfeiria ato’i hun fel un sy’n “drugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb”, er nad yw’n atal cosb rhag y rhai sy’n fwriadol droseddu yn erbyn ei orchmynion. (Exodus 34:6, 7) Mae hanes ei ymwneud â dyn yn cadarnhau gwirionedd y geiriau hyn.
Mae gofyn inni barchu’r enw, yn ogystal â’r person mae’r enw yn ei gynrychioli, a’u trin yn sanctaidd. Ac yntau’n Greawdwr ac yn Benarglwydd y Bydysawd, mae ganddo’r hawl i’n hufudd-dod ni ac i’n holl addoliad. Fyddwch chi’n bersonol yn rhoi hynny iddo?
[Blwch/Llun ar dudalen 18]
Pa Newidiadau Ddaw yn Sgil “Nefoedd Newydd a Daear Newydd”?
Trawsffurfio’r ddaear yn Baradwys Luc 23:43
Cymdeithas fyd-eang lle bydd pobl Ioan 13:35;
o bob cenedl, hil, ac iaith wedi’u Datguddiad 7:9, 10
huno mewn cariad
Heddwch byd-eang, Salm 37:10, 11;
gwir ddiogelwch i bawb Micha 4:3, 4
Gwaith sy’n rhoi boddhad, Eseia 25:6; 65:17, 21-23
digonedd o fwyd
Dileu afiechyd, tristwch, marwolaeth Eseia 25:8;
Byd yn unfryd addoli’r gwir Dduw Datguddiad 15:3, 4
[Blwch/Lluniau ar dudalen 19]
Gewch Chi Fudd?
Ni all Duw ddweud celwydd!—Titus 1:2.
Dywed Jehofah: “Fy ngair . . . ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna’r hyn a ddymunaf, a llwyddo â’m neges.”—Eseia 55:11.
Mae Jehofah eisoes yn creu “nefoedd newydd a daear newydd.” Mae’r llywodraeth nefol eisoes yn gweithredu. Mae sail y “ddaear newydd” eisoes wedi’i gosod.
Yn dilyn y wybodaeth am y pethau rhyfeddol ddaw i ran y ddynoliaeth yn sgil y “nef newydd a daear newydd”, mae Llyfr y Datguddiad yn dyfynnu Penarglwydd y Bydysawd, Duw ei hun, yn dweud: “Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd.” Ac yna, mae’n ychwanegu: “Ysgrifenna, oherwydd dyma eiriau ffyddlon a gwir.”—Datguddiad 21:1, 5.
Dyma’r cwestiwn mawr, Ydi’r ffordd rydym ni’n ymateb i’r gofynion yn dangos mai ein nod ydi cael ein cyfri’n deilwng o fod yn rhan o’r “ddaear newydd” honno dan awdurdod y “nefoedd newydd”?