Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Cadwch Eich Cariad . . . Yn Llawn Angerdd”

“Cadwch Eich Cariad . . . Yn Llawn Angerdd”

“Cadwch Eich Cariad . . . Yn Llawn Angerdd”

“Y mae diwedd pob peth ar ein gwarthaf. . . . O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd.”—1 PEDR 4:7, 8.

MOR werthfawr i Iesu oedd yr oriau olaf gafodd yng nghwmni’i ddisgyblion. Gwyddai beth oedd yn eu disgwyl a’r gwaith mawr y byddent yn ei gyflawni yn wyneb casineb ac erledigaeth tebyg i’r hyn a ddioddefodd yntau. (Ioan 15:18-20) Sawl gwaith y noson olaf honno yng nghwmni’i gilydd, yr anogodd Iesu hwy: “carwch eich gilydd.”—Ioan 13:34, 35; 15:12, 13, 17.

2 Un oedd yn bresennol y noson honno oedd yr apostol Pedr, ac roedd ef wedi deall ergyd geiriau Iesu. Flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth ysgrifennu ychydig cyn difa Jerwsalem, pwysleisiodd Pedr mor bwysig yw cariad. Ei gyngor i Gristnogion oedd: “Y mae diwedd pob peth ar ein gwarthaf. . . . O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd.” (1 Pedr 4:7, 8) Mae geiriau Pedr yn llawn arwyddocâd i’r rhai sy’n byw yn “nyddiau diwethaf” y drefn bresennol. (2 Timotheus 3:1) Beth ydi “cariad llawn angerdd”? Pam ei bod hi’n bwysig mai felly y dylem garu eraill? Sut mae dangos hynny?

“Cariad Llawn Angerdd”—Beth Ydyw?

3 Mae llawer yn meddwl bod cariad yn emosiwn sy’n ei amlygu’i hun yn naturiol. Ond nid unrhyw fath o gariad oedd testun trafod Pedr; sôn roedd am gariad ar ei wedd mwyaf aruchel. Cyfieithiad ydi’r gair “cariad” yn 1 Pedr 4:8 o’r gair Groeg a·gaʹpe—gair sy’n cyfeirio at gariad anhunanol dan reolaeth egwyddor. Diffiniad un cyfeirlyfr yw: “Nid emosiwn yw gwraidd cariad agape fel y cyfryw, ond mynegiant yr ewyllys yn ei orchymyn i weithredu.” Am ein bod wedi etifeddu tuedd hunanol, mae angen ein hatgoffa i garu’n gilydd, a hyn yn ôl cyfarwyddyd egwyddorion duwiol.—Genesis 8:21; Rhufeiniaid 5:12.

4 Nid ein bod i garu’n gilydd yn unig o ran dyletswydd. Nid yw a·gaʹpe heb gynhesrwydd a theimlad. Yr hyn ddywedodd Pedr oedd “cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd” [yn llythrennol, “yn ymestynnol.”] * (Kingdom Interlinear) Cymaint mwy felly mae gofyn ymdrech i ddangos y math hwn o gariad. Mae un ysgolhaig yn dweud am y gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu yn “llawn angerdd”: “Mae’n cyfleu’r syniad o gampwr yn tynnu ar yr ychydig nerth sy’n weddill ganddo ar ddiwedd ras”.

5 Onid annheg fyddai cyfyngu’n cariad dim ond i wneud yr hyn sy’n dod yn hawdd inni, neu ei gadw ar gyfer dim ond ychydig o bobl? Mae cariad Cristnogol yn golygu “ymestyn” ein calon, a rhoi cariad ar waith hyd yn oed pan fo hynny’n anodd inni. (2 Corinthiaid 6:11-13) Mae’n amlwg fod y cariad hwn yn rhywbeth i’w feithrin a bod angen gweithio arno, yn debyg i gampwr yn ymdrechu’n galed i wella’i sgiliau. Mae hi’n hanfodol ein bod yn caru’n gilydd yn y modd hwn. Pam? Mae ’na dri rheswm o leiaf.

Pam Dylem Ni Garu’n Gilydd?

6 Yn flaenaf, “oherwydd o Dduw y mae cariad.” (1 Ioan 4:7) Fe garodd  Jehofah ni yn gyntaf, ac ef ydi Ffynhonnell y rhinwedd annwyl hwn. Mae’r apostol Ioan yn dweud: “Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i’r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef.” (1 Ioan 4:9) Cafodd Mab Duw ei “anfon” yn yr ystyr iddo ddod i’r byd yn fod dynol, cyflawni ei weinidogaeth, a marw ar bren artaith—y cyfan “er mwyn i ni gael byw.” Sut dylem ni ymateb i fynegiant mor eithriadol o gariad Duw? Ateb Ioan ydi: “Os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd.” (1 Ioan 4:11) Sylwch mai’r hyn ysgrifennodd Ioan ydi, “Os yw Duw wedi ein caru ni”—nid dim ond ti ond ni. Mae’n amlwg felly, os ydi Duw yn caru ein cyd-addolwyr, yna fe ddylem ni hefyd eu caru hwy.

7 Yn ail, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn caru’n gilydd yn gynyddol nawr er mwyn inni fedru helpu’n brodyr sydd mewn angen, gan fod “diwedd pob peth ar ein gwarthaf.”(1 Pedr 4:7) Rydym yn byw mewn “amserau enbyd.” (2 Timotheus 3:1) Mae cyflwr y byd, trychinebau naturiol, a gwrthwynebiad yn achosi caledi inni. Dan y fath amgylchiadau annifyr, mor bwysig ydi inni glosio fwyfwy at ein gilydd. Mi fydd cariad llawn angerdd yn dod â ni’n agosach a’n hannog i ofalu’n dyner am ein gilydd.—1 Corinthiaid 12:25, 26.

8 Yn drydydd, mae angen inni garu’n gilydd er mwyn osgoi “rhoi cyfle i’r diafol” fanteisio arnom. (Effesiaid 4:27) Mae Satan yn barod iawn i gymryd mantais ar amherffeithrwydd cyd-gredinwyr—eu gwendidau, eu beiau, a’u gwallau—a’u troi’n faglau. A fydd gair difeddwl neu weithred angharedig yn achosi inni gadw draw o’r gynulleidfa? (Diarhebion 12:18) Na fydd, os yw’n cariad at ein gilydd yn llawn angerdd! Dyna’r fath o gariad sy’n ein helpu i gadw’r heddwch a gwasanaethu Duw yn “unfryd.”—Seffaneia 3:9.

Rhoi Eich Cariad at Eraill ar Waith.

9 Rhaid rhoi cariad ar waith yn y cartref yn gyntaf. Dywedodd Iesu y gellid nabod ei wir ganlynwyr o weld eu cariad at ei gilydd. (Ioan 13:34, 35) Mae’n rhaid i gariad gael ei amlygu nid yn unig yn y gynulleidfa ond ymhlith y teulu hefyd—rhwng cymheiriaid priodas a rhwng rhieni a phlant. Nid yw teimlo cariad at aelodau’r teulu’n ddigonol; rhaid rhoi mynegiant iddo mewn ffyrdd adeiladol.

10 Sut mae gŵr a gwraig i roi mynegiant i’w cariad? Mae gŵr sy’n gwir garu’i wraig yn dangos mewn gair a gweithred—yn gyhoeddus ac yn breifat—ei fod yn ei choleddu. Fe fydd yn parchu ei hurddas personol ac yn rhoi ystyriaeth i’w syniadau hi, ei barn, a’i theimladau. (1 Pedr 3:7) Ei buddiannau hi sy’n bwysig iddo, ac mae’n gwneud popeth a fedr i ofalu am ei hanghenion materol, ysbrydol ac emosiynol hi. (Effesiaid 5:25, 28) Mae gwraig sy’n gwir garu’i gŵr yn ei “barchu,” hyd yn oed os nad ydi e ar adegau yn cwrdd â’i disgwyliadau hi. (Effesiaid 5:22, 33) Mae’n cefnogi’i gŵr ac yn ddarostyngedig iddo, heb fynnu’r afresymol, ond cydweithredu ag ef i roi blaenoriaeth i bethau ysbrydol.—Genesis 2:18; Mathew 6:33.

11 Rieni, sut medrwch chi ddangos cariad at eich plant? Prawf o’ch cariad ydi’ch parodrwydd chi i weithio’n galed i’w cynnal nhw. (1 Timotheus 5:8) Ond mae angen rhagor ar blant na bwyd, dillad a chysgod. Os ydyn nhw i dyfu i fyny i garu a gwasanaethu’r gwir Dduw, mae angen hyfforddiant ysbrydol arnyn’ nhw. (Diarhebion 22:6) Mae hynny’n golygu rhoi amser o’r neilltu i astudio’r Beibl fel teulu, amser i gael rhan yn y weinidogaeth, a mynychu cyfarfodydd Cristnogol. (Deuteronomium 6:4-7) Mae gwneud hyn yn gyson yn golygu cryn aberth, yn enwedig yn yr amserau enbyd sydd ohoni. Mae eich consýrn chi a’ch ymdrechion i ofalu am anghenion ysbrydol eich plant, yn fynegiant o’ch cariad atyn’ nhw ac yn dangos fod eu lles tragwyddol nhw yn agos at eich calon.—Ioan 17:3.

12 Hefyd, mae’n hanfodol fod rhieni’n dangos cariad drwy ofalu am anghenion emosiynol eu plant. Mae plant yn agored i niwed; mae angen sicrwydd o’ch cariad ar eu calonnau tyner. Dywedwch wrthyn’ nhw eich bod chi’n eu caru nhw, a byddwch yn gariadus a serchus atyn’ nhw, i ddangos iddyn’ nhw eu bod yn annwyl a gwerthfawr yn eich golwg. O glywed eich geiriau caredig a derbyn eich canmoliaeth hael a diffuant fe ddônt i ddeall eich bod yn sylwi ar eu hymdrechion ac yn eu gwerthfawrogi. I ddangos fod consýrn gennych ynglŷn â’r fath o berson fyddan’ nhw, disgyblwch yn gariadus. (Effesiaid 6:4) Bydd mynegi’ch cariad mewn dull iachus fel hyn yn helpu sicrhau teulu clós, hapus fydd yn medru gwrthsefyll pwysau’r dyddiau diwethaf hyn.

13 Yn gariadus anwybyddwn ffaeleddau pobl eraill. Wrth gymell ei ddarllenwyr i ‘gadw eu cariad at ei gilydd yn llawn angerdd,’ cynigiodd Pedr reswm pam mae hyn mor bwysig: “oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau.” (1 Pedr 4:8) Nid anwybyddu pechodau difrifol ydi ystyr ‘dileu pechodau.’ Y drefn gyda materion felly ydi rhoi gwybod amdanyn’ nhw i rai cyfrifol yn y gynulleidfa er mwyn iddyn’ nhw weithredu. (Lefiticus 5:1; Diarhebion 29:24) Anghariadus iawn—ac anysgrythurol—fyddai caniatáu i bechaduriaid aflan barhau i beri loes i rai diniwed a’u gormesu.—1 Corinthiaid 5:9-13.

14 Dibwys, gan amlaf, ydi natur gwallau a gwendidau cyd-gredinwyr. Rydym oll yn peri tramgwydd o dro i dro drwy air neu weithred, gan siomi’n gilydd neu beri loes. (Iago 3:2) Ddylem ni fanteisio ar gyfle i roi cyhoeddusrwydd i wendidau pobl eraill? Creu drwgdeimlad yn y gynulleidfa wnâi hynny. (Effesiaid 4:1-3) Os cariad sy’n ein harwain, wnawn ni ddim “tystio yn erbyn” cyd-grediniwr. (Salm 50:20) Fel mae plastr a phaent yn gorchuddio diffygion wal, felly mae cariad yn gorchuddio diffygion pobl eraill.—Diarhebion 17:9.

15 Yn gariadus helpwn eraill sydd mewn gwir angen. Â’r amgylchiadau’n parhau i waethygu yn y dyddiau diwethaf, efallai y daw adegau pan fydd angen help materol neu gorfforol ar ein cyd-gredinwyr. (1 Ioan 3:17, 18) Er enghraifft, oes ’na aelod o’r gynulleidfa mewn anawsterau ariannol enbyd neu wedi colli’i waith? Gadewch inni gynnig help materol, yn ôl ein hamgylchiadau. (Diarhebion 3:27, 28; Iago 2:14-17) Oes angen trwsio cartre gweddw oedrannus? Efallai y medrwn fod yn addas flaengar i helpu gyda pheth o’r gwaith.—Iago 1:27.

16 Nid dim ond i’r rhai sy’n byw yn ein cymdogaeth y mae dangos cariad. Bob hyn a hyn mi glywn am hanes gweision Duw mewn gwledydd lle mae stormydd enbyd, daeargrynfâu, neu anniddigrwydd sifil wedi dod i’w rhan nhw. Efallai fod gwir angen bwyd, dillad, a phethau eraill arnyn’ nhw. Does dim gwahaniaeth os ydyn’ nhw’n perthyn i hil neu grŵp ethnig gwahanol. Rydym yn ‘caru’r frawdoliaeth.’ (1 Pedr 2:17, BCN) Felly, yn debyg i gynulleidfaoedd y ganrif gyntaf, rydym yn barod i gefnogi cymorth a drefnwyd. (Actau 11:27-30; Rhufeiniaid 15:26) Wrth roi mynegiant i’n cariad yn yr holl ddulliau hyn, byddwn yn cryfhau’r rhwymyn sy’n ein clymu yn y dyddiau diwethaf.—Colosiaid 3:14.

17 Mae cariad yn ein cymell ni i rannu newydd da Teyrnas Dduw ag eraill. Ystyriwn esiampl Iesu. Pam, tybed, roedd e’n pregethu a dysgu? Gan sylwi ar gyflwr gwan ysbrydol y tyrfaoedd, “tosturiodd wrthynt.” (Marc 6:34) Yn hytrach na chael eu porthi gan wirioneddau ysbrydol, a’u llenwi â gobaith, roedd y bugeiliaid crefyddol gau wedi anwybyddu’r bobl a’u camarwain. Felly, â chalon llawn cariad a thosturi, cysurodd Iesu nhw gyda’r “newydd da am deyrnas Dduw.”—Luc 4:16-21, 43.

18 Mae llawer o bobl heddiw yn amddifad o sylw ysbrydol, wedi eu camarwain ac yn ddi-obaith. Os, fel Iesu, gwnawn ymdrech i fod yn fwy sensitif i anghenion ysbrydol y rhai sydd heb eto ddod i nabod y gwir Dduw, yna bydd cariad a thosturi yn ein cymell ni i rannu newyddion da Teyrnas Dduw gyda nhw. (Mathew 6:9, 10; 24:14) O gofio mai byr yw’r amser sydd ar ôl, mae’n fater brys mwy nag erioed i bregethu’r neges achubol hon.—1 Timotheus 4:16.

“Y Mae Diwedd Pob Peth ar Ein Gwarthaf”

19 Pwysig ydi cofio i Pedr ragflaenu ei gyngor inni garu’n gilydd â’r geiriau: “Y mae diwedd pob peth ar ein gwarthaf.” (1 Pedr 4:7) Cyn bo hir bydd byd newydd cyfiawn Duw yn disodli’r byd drygionus hwn. (2 Pedr 3:13) Felly, nid nawr ydi’r amser i fod yn hunanfodlon. Rhybuddiodd Iesu ni: “Cymerwch ofal, rhag i’ch meddyliau gael eu pylu gan ddiota a meddwi a gofalon bydol, ac i’r dydd hwnnw ddod arnoch yn ddisymwth fel magl.”—Luc 21:34, 35.

20 Ar bob cyfrif, felly, byddwn yn “wyliadwrus”, a chofio lle’r ydym yn llif amser. (Mathew 24:42) Gwyliwn rhag i demtasiynau Satan beri inni golli’n ffocws. Peidiwn byth â chaniatáu i’r byd anghynnes, digariad hwn ein rhwystro rhag dangos ein cariad at eraill. Yn fwy na dim, boed inni ddod yn agosach fyth at y gwir Dduw, Jehofah, y bydd ei Deyrnas Feseianaidd yn fuan yn cyflawni’i fwriad gogoneddus ynglŷn â’r ddaear hon.—Datguddiad 21:4, 5.

[Troednodyn]

^ Par. 4 Yn ôl cyfieithiadau eraill o’r Beibl gall 1 Pedr 4:8 olygu “byddwch wresog yn eich cariad at eich gilydd,” neu “bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd.”

CWESTIYNAU

• Beth oedd cyngor olaf Iesu i’w ddisgyblion, a beth sy’n dangos i Pedr ddeall yr ergyd? (Paragraffau 1-2)

• Beth yw “cariad llawn angerdd”? (Paragraffau 3-5)

• Pam dylem ni garu’n gilydd? (Paragraffau 6-8)

• Sut medrwch chi brofi i eraill eich bod yn eu caru? (Paragraffau 9-18)

• Pam nad nawr ydi’r amser i fod yn hunanfodlon, a beth ddylem ni fod yn benderfynol o’i wneud? (Paragraffau 19-20)

[Llun ar dudalen 29]

Mae’n haws i deulu clòs wrthsefyll pwysau’r dyddiau diwethaf hyn

[Llun ar dudalen 30]

Cariad sy’n ein cymell i gynorthwyo’r gwir anghenus

[Llun ar dudalen 31]

Gweithred cariad yw rhannu newyddion da Teyrnas Dduw ag eraill