Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Daeth Yr Awr Iddo Farnu”

“Daeth Yr Awr Iddo Farnu”

“Daeth Yr Awr Iddo Farnu”

MAE Llyfr y Datguddiad, llyfr ola’r Beibl, yn tynnu’n sylw ni at angel sy’n hedfan yng nghanol y nef a chanddo “efengyl dragwyddol i’w chyhoeddi.” Fe ddywed â llais uchel, “Ofnwch Dduw, a rhowch iddo ogoniant, oherwydd daeth yr awr iddo farnu.” (Datguddiad 14:6, 7) Mae’r ‘awr barnu’ honno’n golygu cyhoeddi’r farn ddwyfol a’i gweithredu. Cyfnod cymharol fyr ydi “awr.” Gweithredu barn fydd uchafbwynt “y dyddiau diwethaf,” y cyfnod rydym yn byw ynddo nawr.—2 Timotheus 3:1.

Mae’r ‘awr barnu’ yn newydd da i’r rhai sy’n caru cyfiawnder. Dyma pryd y bydd Duw yn dod â rhyddhad i’w weision sydd wedi dioddef cymaint gan y drefn bresennol dreisgar, ddigariad hon.

Cyn i’r ‘awr barnu’ derfynu gyda difa’r drefn bresennol ddrygionus sydd ohoni, daw’r anogaeth: “Ofnwch Dduw, a rhowch iddo ogoniant.” Ydych chi’n gwneud hynny? Mae’n golygu llawer mwy na dim ond dweud, “Rydw i’n credu yn Nuw.” (Mathew 7:21-23; Iago 2:19, 20) Mae gwir ofn Duw yn ymylu ar arswyd. Mi ddylai achosi inni droi oddi wrth ddrygioni. (Diarhebion 8:13) Dylai ein helpu ni i garu’r hyn sydd dda a chasáu’r hyn sydd ddrwg. (Amos 5:14, 15) Os ydym yn anrhydeddu Duw, mi fyddwn yn gwrando gyda pharch mawr ar yr hyn sydd ganddo i’w ddweud. Mi fyddwn yn sicrhau amser i ddarllen ei Air, y Beibl yn rheolaidd. Byddwn yn ymddiried ynddo bob amser o’r galon. (Salm 62:8; Diarhebion 3:5, 6) Mae’r rhai sy’n ei wir anrhydeddu yn cydnabod mai ef yw Creawdwr nefoedd a daear a Phenarglwydd y Bydysawd, ac maent yn ymostwng yn gariadus iddo, Penarglwydd eu bywydau. Os tybiwn fod y materion hyn yn haeddu mwy o’n sylw ni, boed inni wneud hynny’n ddiymdroi.

Enw arall ar y cyfnod gweithredu barn y soniodd yr angel amdano ydi “dydd yr ARGLWYDD.” Daeth “dydd” o’r fath i ran Jerwsalem gynt yn 607 C.C.C. am i’r bobl yno anwybyddu rhybuddion Jehofah drwy gyfrwng ei broffwydi. Wrth iddyn’ nhw ohirio dydd Jehofah yn eu calon, cynyddodd y perygl i’w heinioes. Rhybudd Jehofah iddynt oedd, “Y mae . . . yn agos ac yn dod yn gyflym.” (Seffaneia 1:14) Fe brofodd Babilon hen “ddydd yr ARGLWYDD” yn 539 C.C.C. (Eseia 13:1, 6) Gan lwyr ymddiried yn eu ceyrydd a’u duwiau, anwybyddodd y Babiloniaid rybuddion proffwydi Jehofah. Fodd bynnag, mewn un noson syrthiodd Babilon gadarn i feddiant y Mediaid a’r Persiaid.

Beth sy’n ein hwynebu ni heddiw? “Dydd yr ARGLWYDD” llawer ehangach ei ddylanwad. (2 Pedr 3:11-14) Fe gyhoeddwyd barn ddwyfol ar “Babilon fawr.” Yn ôl Datguddiad 14:8, mae angel yn cyhoeddi: “Syrthiodd Babilon fawr.” Mae hynny eisoes wedi digwydd. Chaiff hi ddim cyfyngu ar addolwyr Jehofah mwyach. Mae ei llygredd hi a’i hymwneud â rhyfel yn hysbys i bawb. Nawr mae ei dinistr terfynol hi yn nesáu. Dyna pam mae’r Beibl yn annog pawb ym mhobman: “Dewch allan ohoni [Babilon fawr] . . . rhag i chwi gyfranogi o’i phechodau, ac o’i phlâu dderbyn rhan; oherwydd pentyrrwyd ei phechodau hyd y nef, a chadwodd Duw ei hanghyfiawnderau hi ar gof.”—Datguddiad 18:4, 5.

Beth yw Babilon Fawr? Dyma’r gyfundrefn grefyddol fyd-eang sydd mor debyg i Babilon hen. (Datguddiad, penodau 17, 18) Mae nodweddion tebyg ganddyn’ nhw megis:

• Roedd offeiriaid Babilon hen yn ymwneud llawer â materion gwleidyddol y genedl. Mae hyn yn gyffredinol wir am grefydd heddiw.

• Yn debyg i offeiriaid Babilon hen yn hyrwyddo milwriaeth y genedl, gwelir rhan amlwg crefydd heddiw yn bendithio milwyr pan â’r cenhedloedd i ryfel.

• Cyfeiriwyd y genedl i weithredu’n hynod anfoesol gan athrawiaethau ac arferion Babilon hen. O weld arweinwyr crefyddol heddiw yn anwybyddu safonau moesol y Beibl, dyw hi ddim yn syndod bod anfoesoldeb yn rhemp ymhlith clerigwyr yn ogystal â lleygwyr. A hithau’n puteinio’i heiddo gyda’r byd a’i gyfundrefn wleidyddol, hynod o beth yw gweld Llyfr y Datguddiad yn cyfeirio at Babilon fawr fel gwraig anfoesol.

• Fe ddywed y Beibl hefyd fod Babilon fawr yn byw yn ddigywilydd foethus. Roedd cyfundrefn y deml ym Mabilon hen yn berchen ar diroedd eang, a’i hoffeiriaid yn amlwg ym myd masnach. Heddiw, ynghyd â’r lleoedd addoliad sy’n eiddo iddi, mae Babilon fawr yn berchen ar fusnesau ac eiddo di-ben-draw. Daw elw mawr iddi hi ac eraill ym myd masnach yn sgil ei hathrawiaethau a’i gwyliau.

• Roedd delwau, dewiniaeth, a swyngyfaredd yn bethau cyffredin ym Mabilon hen, ac felly mae hi mewn llawer lle heddiw. Edrychid ar farwolaeth megis taith i fath arall o fywyd. Roedd Babilon yn llawn temlau a chapeli yn anrhydeddu’i duwiau hi, ac eto roedd y Babiloniaid yn gwrthwynebu addolwyr Jehofah. Mae’r un credoau ac arferion yn nodweddu Babilon fawr.

Yn yr amser gynt, fe ddefnyddiodd Jehofah genhedloedd gwleidyddol, militaraidd rymus i gosbi’r rheini oedd yn gyson ei anwybyddu ef a’i ewyllys. Dyna pam dinistriwyd Samaria gan yr Asyriaid yn 740 C.C.C. Distrywiwyd Jerwsalem gan y Babiloniaid yn 607 C.C.C. a chan y Rhufeiniaid yn 70 C.C. Yn ei thro, difawyd Babilon gan y Mediaid a’r Persiaid yn 539 C.C.C. Â’n dydd ni mewn golwg mae’r Beibl yn rhagweld y bydd llywodraethau gwleidyddol, megis bwystfil rheibus, yn troi ar “y butain” a’i dinoethi hi gan ddatgelu ei gwir gymeriad hi. Mi fyddan’ nhw’n ei llwyr ddinistrio hi.—Datguddiad 17:16.

A fydd llywodraethau’r byd yn gwir wneud y fath beth? Fe ddywed y Beibl ‘y bydd Duw yn rhoi yn eu calonnau gyflawni ei fwriad ef.’ (Datguddiad 17:17) Fe ddaw yn annisgwyl ac yn frawychus o sydyn, yn anrhagweladwy, nid yn raddol.

Beth ddylech chi ei wneud? Holwch eich hun: ‘Ydw i’n dal i lynu wrth gyfundrefn grefyddol sydd wedi’i llygru gan athrawiaethau a gweithredoedd nodweddiadol o Babilon fawr?’ Hyd yn oed os nad ydych yn aelod, gallech ofyn i chi’ch hun: ‘Ydw i dan ddylanwad ei hysbryd?’ Pa fath o ysbryd? Ysbryd sy’n caniatáu ymddygiad anfoesol, chwantu meddiannau a phleserau yn hytrach na charu Duw, ysbryd sy’n bwriadol ddiystyru Gair Jehofah (hyd yn oed mewn pethau ymddangosiadol ddibwys). Meddyliwch yn ofalus cyn ichi ateb.

Os ydym i dderbyn cymeradwyaeth Jehofah, mae’n rhaid i’n gweithredoedd ni, yn ogystal â dymuniadau’n calon, dystio nad ydym yn rhan o Fabilon fawr. Does dim amser i oedi. Gan bwysleisio mai yn sydyn y daw’r diwedd, fe ddywed y Beibl: “Mor ffyrnig yr hyrddir i’r ddaear Fabilon, y ddinas fawr, ac nis ceir byth mwy.”—Datguddiad 18:21.

Ond mae rhagor. Mae agwedd bellach i ‘awr y farn’, pan fydd Jehofah Dduw yn galw i gyfrif y drefn wleidyddol fyd-eang, ei rheolwyr hi, a phawb sy’n anwybyddu hawl gyfiawn ei frenhiniaeth drwy gyfrwng ei Deyrnas nefol dan ofal Iesu Grist. (Datguddiad 13:1, 2; 19:19-21) Mae gweledigaeth broffwydol Daniel 2:20-45 yn darlunio rheolaeth wleidyddol o amser Babilon hen i’r presennol fel cawr o ddelw aur, arian, copr, haearn, a chlai. Gan gyfeirio at ein cyfnod ni, fe ragfynegodd y broffwydoliaeth: “Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth.” Wrth ddisgrifio’r hyn y bydd y Deyrnas honno’n ei gyflawni yn ystod ‘awr barn’ Jehofah, mae’r Beibl yn dweud: “Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill [o waith dyn], ond bydd hi ei hun yn para am byth.”—Daniel 2:44.

Mae’r Beibl yn rhybuddio gwir addolwyr i beidio â charu’r “pethau sydd yn y byd”—sef dull o fyw mae’r byd hwn sy’n elyniaethus i’r gwir Dduw, yn ei hybu. (1 Ioan 2:15-17) Ydi’ch penderfyniadau chi a’ch gweithredoedd chi yn dangos eich bod yn ddigyfaddawd o blaid Teyrnas Dduw? Ydi’r Deyrnas yn wirioneddol yn cael y lle blaenaf yn eich bywyd chi?—Mathew 6:33; Ioan 17:16, 17.

[Blwch ar dudalen 14]

Pryd Daw’r Diwedd?

“Pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.”—Mathew 24:44.

“Byddwch wyliadwrus . . . oherwydd ni wyddoch na’r dydd na’r awr.”—Mathew 25:13.

“Nid oeda.”—Habacuc 2:3.

[Blwch ar dudalen 14]

Fyddai Hi’n Gwneud Gwahaniaeth petaech Chi’n Gwybod?

Fyddai’r ffordd rydych yn byw nawr yn newid pe baech chi’n gwybod i sicrwydd na ddigwyddai gweithredu’r farn ddwyfol sydd ar ddod am rai blynyddoedd eto? Os yw diwedd y drefn bresennol eisoes yn hwyrach nag roeddech yn ei ddisgwyl, ydi hynny wedi achosi i chi lacio ychydig yn eich gwasanaeth i Jehofah?—Hebreaid 10:36-38.

Mae peidio â gwybod yr union amser yn rhoi cyfle inni ddangos mai cymhellion da sy’n ysgogi’n gwasanaeth i Dduw. Mae’r rheini sy’n nabod Jehofah yn gwybod na fydd dangos sêl munud ola yn creu argraff ar y Duw sy’n chwilio’r galon.—Jeremeia 17:10; Hebreaid 4:13.

Jehofah sy’n cael blaenoriaeth gan bawb sy’n ei wir garu. Fel pawb arall, mae gan wir Gristnogion eu gwaith seciwlar, er hynny, nid ymgyfoethogi’n faterol yw eu nod ond sicrhau ychydig eiddo a rhywbeth i’w rannu ag eraill. (Effesiaid 4:28; 1 Timotheus 6:7-12) Eu bwriad wrth fwynhau adloniant iachus yw cael eu hadnewyddu, nid bod yn debyg i bawb arall. (Marc 6:31; Rhufeiniaid 12:2) Fel Iesu Grist, maen nhw’n ymhyfrydu gwneud ewyllys Duw.—Salm 37:4; 40:8.

Dymuniad gwir Gristnogion ydi byw am byth i wasanaethu Jehofah. Dyw’r gobaith hwnnw ddim yn pylu o ganlyniad i orfod disgwyl yn hirach am fendithion.

[Blwch/llun ar dudalen 15]

Pwnc Dadl Penarglwyddiaeth

Bydd ystyried pwnc dadl penarglwyddiaeth yn help inni ddeall pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint mawr. Beth ydi penarglwyddiaeth? Goruchafiaeth awdurdod ydyw.

Ac yntau’n Greawdwr, mae gan Jehofah yr hawl i deyrnasu dros y ddaear a phawb sy’n preswylio arni. Fodd bynnag, mae’r Beibl yn adrodd am herio penarglwyddiaeth Jehofah yn gynnar yn hanes dyn. Roedd Satan y Diafol yn honni fod Jehofah yn cyfyngu gormod, ac Iddo ddweud celwydd wrth ein rhieni cyntaf am yr hyn ddigwyddai pe baen’ nhw’n anwybyddu deddf Duw a mynd eu ffordd eu hunain, ac mai gwell fyddai iddyn’ nhw eu rheoli eu hunain yn annibynnol ar Dduw.—Genesis, penodau 2,3.

Petai Duw wedi difa’r gwrthryfelwyr ar unwaith, byddai wedi amlygu ei nerth, ond fyddai hynny ddim wedi ateb y cwestiynau a godwyd. Yn hytrach na difa’r gwrthwynebwyr yn y fan a’r lle, mae Jehofah wedi caniatáu i’w greadigaeth ddeallus weld canlyniad y gwrthryfela. Er bod hyn wedi golygu dioddefaint, mae hefyd wedi rhoi’r cyfle i ni gael ein geni.

Yn ogystal, mewn modd a gostiodd yn ddrud iddo, darparodd Jehofah ffordd ar gyfer rhyddhau oddi wrth bechod a’i ganlyniadau, y bodau dynol hynny fyddai’n ufudd iddo ac a fyddai’n gweithredu ffydd yn aberth bridwerthol ei Fab, fel y caent fyw ym Mharadwys. Petai angen, gallai hyn olygu atgyfodi’r meirw.

Oherwydd caniatáu amser i drin y materion a gododd, mae gweision Duw yn gwneud yn fawr o’r cyfle i ddangos fod ganddynt y gallu i ymateb i gariad Duw a phrofi eu huniondeb i Jehofah beth bynnag fo’r amgylchiadau. Mae datrys pwnc dadl penarglwyddiaeth dwyfol, ynghyd â phwnc dadl uniondeb dynol yn hanfodol bwysig ar gyfer sefydlu cyfraith a threfn yn y bydysawd. Heb hynny, fyddai gwir heddwch byth yn bosib’. *

[Troednodyn]

^ Par. 36 Fe drafodir y pynciau hyn a’u harwyddocâd yn fanylach yn y llyfr Draw Close to Jehovah, a gyhoeddir gan Dystion Jehofah.

[Llun]

Daw diwedd ar gyfundrefn fyd-eang rheoli gwleidyddol