Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Fel “Nad Ewch Chi Ddim I Demtasiwn”

Fel “Nad Ewch Chi Ddim I Demtasiwn”

Fel “Nad Ewch Chi Ddim I Demtasiwn”

“Gwyliwch a gweddïwch nad ewch chi ddim i demtasiwn.”—MATHEW 26:41. (Y Ffordd Newydd, Y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor, 1969)

ROEDD Iesu Grist, Mab Duw, yn nesáu at ddiwedd ei yrfa ar y ddaear. Mewn cyfyng gyngor dwysach na dim roedd wedi’i brofi cyn hynny, gwyddai y byddai ymhen ychydig amser yn cael ei arestio, ei ddedfrydu i farw, a’i hoelio ar bren artaith. Roedd yn ymwybodol y byddai pob penderfyniad o’i eiddo a phob gweithred ar ei ran yn adlewyrchu ar enw ei Dad. Fe wyddai Iesu hefyd fod sail gobeithion dynoliaeth ynglŷn â’r dyfodol yn y fantol. Ac yntau dan y fath bwysau, beth wnaeth ef?

2 Gyda’i ddisgyblion, aeth Iesu i ardd Gethsemane, man roedd Iesu’n hoff iawn ohono. Ymneilltuodd Iesu ychydig oddi wrth ei ddisgyblion i fod ar ei ben ei hun. Yna, gydag angerdd, trodd at ei Dad nefol am nerth, gan arllwys ei galon mewn gweddi iddo—a hynny dair gwaith. Er ei fod yn berffaith, ni theimlai Iesu y gallai wynebu’r fath bwysau ei hun.—Mathew 26:36-44.

3 Heddiw, rydym ninnau o dan bwysau. Yn gynt yn y llyfryn hwn, buom yn trafod tystiolaeth ein bod yn byw yn nyddiau terfynol y drefn ddrwg sydd ohoni. Dwysáu mae temtasiynau a phwysau byd Satan. Mae penderfyniadau a gweithredoedd unrhyw un ohonom sy’n honni gwasanaethu’r gwir Dduw yn adlewyrchu ar ei enw gan ddylanwadu’n fawr ar sail ein gobeithion unigol ni am fywyd yn ei fyd newydd. Rydym yn caru Jehofah. Ein dymuniad ydi “dyfalbarhau i’r diwedd”—boed ddiwedd ein dyddiau ni neu ddiwedd y drefn sydd ohoni, p’run bynnag ddaw gynta’. (Mathew 24:13) Ond sut medrwn gynnal yr ymdeimlad o frys a chadw’n wyliadwrus?

4 Gan wybod y byddai ei ddisgyblion—y pryd hwnnw ac yn ein cyfnod ni—hefyd dan bwysau, anogaeth Iesu oedd: “Gwyliwch a gweddïwch nad ewch chi ddim i demtasiwn,” (“na ddewch i gael eich profi.”) (Mathew 26:41) Beth ydi arwyddocâd y geiriau hyn i ni heddiw? Pa demtasiwn neu brawf rydych chi’n ei wynebu? Sut medrwch ‘fod yn wyliadwrus’?

Ein Temtio i Wneud Beth?

5 Mae pawb ohonom ni, bob dydd, yn wynebu’r demtasiwn i ildio i “fagl y diafol.” (2 Timotheus 2:26) Mae’r Beibl yn ein rhybuddio fod Satan yn targedu addolwyr Jehofah yn arbennig. (1 Pedr 5:8; Datguddiad 12:12, 17) Pam? Nid i’n lladd ni, o anghenrhaid. Châi Satan ddim buddugoliaeth petaem ni’n marw’n ffyddlon i Dduw. Mae Satan yn gwybod y daw amser yn nhrefn Jehofah pan fydd E’n dirymu angau drwy gyfrwng yr atgyfodiad.—Luc 20:37, 38.

6 Mae Satan â’i fryd ar ddifetha rhywbeth mwy gwerthfawr hyd yn oed na’n bywyd presennol ni—sef ein huniondeb ni i Dduw. Mi wnaiff Satan unrhyw beth i brofi y gall ein perswadio ni i gefnu ar Jehofah. Felly, byddai unrhyw anffyddlondeb ar ein rhan—megis rhoi’r gorau i bregethu’r newydd da neu esgeuluso safonau Cristnogol—yn fuddugoliaeth i Satan! (Effesiaid 6:11-13) Dyma sut mae’r ‘Temtiwr’ yn gosod temtasiynau o’n blaen ni.—Mathew 4:3.

7 Mae amrywiaeth o “gynllwynion twyllodrus” gan Satan. (Effesiaid 6:11, Jewish New Testament; “dichellion,” troednodyn, BCL, 1908) Gall ddefnyddio materoliaeth, ofn, amheuaeth, neu ymblesera, i’n temtio. Fodd bynnag, tric llwyddiannus ganddo yw gwneud inni deimlo’n ddigalon. Ac yntau’n un cyfrwys, fe ŵyr fel gall iselder ein gwanhau ni’n ysbrydol, a’n gwneud ni’n agored i niwed. (Diarhebion 24:10) Felly, gan fachu ar bob cyfle, yn arbennig pan fyddwn wedi’n “llethu’n llwyr” yn emosiynol, mae’n pwyso arnom i anobeithio.—Salm 38:8.

8 Wrth i’r dyddiau diwethaf ddwysáu, mae’n ymddangos fod y pethau sy’n achosi digalondid ar gynnydd, ac nid yw’n dilyn y medrwn ni eu hosgoi nhw. (Gweler y blwch “Rhai Pethau Sy’n Achosi Inni Deimlo’n Isel.”) Beth bynnag fo’r achos, mae digalondid yn medru’n gwanhau ni. Mae ‘dal ar ein cyfle’ i gyflawni’n ymrwymiadau ysbrydol—sy’n cynnwys astudio’r Beibl, mynychu cyfarfodydd Cristnogol, a chael rhan yn y weinidogaeth—yn gallu bod yn her i berson sy’n flinedig yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. (Effesiaid 5:15, 16) Cofiwch fod y Temtiwr am i chi roi’r gorau iddi. Ond nid dyma’r amser i arafu nac i golli’ch ymwybyddiaeth brys ynglŷn â’r amser rydym yn byw ynddo! (Luc 21:34-36) Sut mae ymwrthod â themtasiwn a chadw’n effro? Dyma bedwar awgrym all fod o help inni.

‘Gweddïwch yn Ddi-baid’

9 Gadewch i Jehofah eich cynnal chi trwy weddi. Meddyliwch am esiampl Iesu yng ngardd Gethsemane. Ac yntau dan bwys emosiwn ingol, beth wnaeth e? Troi at Jehofah am help, a gweddïo mor daer nes bod “ei chwys fel dafnau o waed yn diferu ar y ddaear.” (Luc 22:44) Meddyliwch am hyn am funud. Roedd Iesu yn nabod Satan yn dda. O’r nefoedd roedd Iesu wedi gweld holl demtasiynau Satan i geisio baglu gweision Duw. Ac eto, doedd Iesu ddim yn teimlo y byddai trin beth bynnag y gallai’r Temtiwr ei osod o’i flaen, yn rhywbeth hawdd iddo. Os oedd Mab perffaith Duw yn teimlo’r angen i weddïo am help a nerth dwyfol, onid yw’n hangen ni gymaint yn fwy!—1 Pedr 2:21.

10 Cofiwch hefyd, i Iesu, wedi iddo annog ei ddisgyblion i weddïo, ddweud: “Y mae’r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” (Mathew 26:41) Cnawd pwy oedd gan Iesu mewn golwg? Nid ei gnawd ei hun, yn sicr; doedd dim un gwendid yn ei gnawd dynol perffaith. (1 Pedr 2:22) Ond nid oedd hyn yn wir am ei ddisgyblion. Oherwydd etifeddu amherffeithrwydd a thueddiadau pechadurus, byddai angen cymorth arbennig arnyn’ nhw i ymwrthod â themtasiwn. (Rhufeiniaid 7:21-24) Dyna pam cawsant hwy—a phob gwir Gristion oddi ar hynny—eu hannog ganddo i weddïo am help wrth wynebu temtasiwn. (Mathew 6:13) Mae Jehofah yn ateb gweddïau felly. (Salm 65:2) Sut? Mewn o leiaf ddwy ffordd.

11 I gychwyn, mae Duw yn ein helpu ni i nabod temtasiynau. Mae temtasiynau Satan yn debyg i faglau sydd wedi’u gwasgaru ar draws llwybr tywyll. Heb ichi eu gweld nhw, mae perygl y cewch eich dal. Drwy gyfrwng y Beibl a llenyddiaeth seiliedig ar y Beibl, mae Jehofah yn ein helpu ni i nabod maglau Satan, ac osgoi ildio i demtasiwn. Mae llenyddiaeth brintiedig a rhaglenni cynulliadau rhanbarth a chylchdaith dros y blynyddoedd wedi’n rhybuddio ni droeon am beryglon megis ofn dyn, anfoesoldeb rhywiol, materoliaeth, a themtasiynau satanaidd tebyg. (Diarhebion 29:25; 1 Corinthiaid 10:8-11; 1 Timotheus 6:9, 10) Onid ydych chi’n diolch i Jehofah am ein deffro ni i nabod cynllwynion Satan? (2 Corinthiaid 2:11) Trwy gyfrwng rhybuddion fel hyn fe gewch ateb i’ch gweddïau am help i ymwrthod â themtasiwn.

12 Yn ail, mae Jehofah yn ateb ein gweddïau drwy roi’r nerth inni i oddef temtasiwn. Dywed ei Air: “Ni fydd ef [Duw] yn gadael ichwi gael eich profi y tu hwnt i’ch gallu; yn wir, gyda’r prawf, fe rydd ef ddihangfa hefyd.” (1 Corinthiaid 10:13) Dim ond inni barhau i ymddiried ynddo, wnaiff Duw byth adael i demtasiwn ein llethu i’r graddau na fyddai’r nerth ysbrydol gennym i ymwrthod. Sut mae e’n ‘rhoi dihangfa’ inni? Fe ‘rydd yr Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn ganddo.’ (Luc 11:13) Fe all yr ysbryd hwnnw ein helpu i gofio egwyddorion Beiblaidd fydd yn atgyfnerthu’n penderfyniad i wneud yr hyn sy’n iawn ac i weithredu’n ddoeth. (Ioan 14:26; Iago 1:5, 6) Fe all ein helpu ni i feithrin yr union nodweddion hynny sydd eu hangen arnom er mwyn gorchfygu tueddiadau drwg. (Galatiaid 5:22, 23) Gall ysbryd Duw hyd yn oed ysgogi cyd-gredinwyr i fod yn “gysur mawr” inni. (Colosiaid 4:11) Onid ydych chi’n diolch fod Jehofah yn ymateb mewn ffyrdd mor gariadus i’ch gweddïau am help?

Byddwch yn Rhesymol o ran Eich Disgwyliadau

13 Er mwyn cadw’n wyliadwrus, mae’n rhaid inni fod yn rhesymol o ran ein disgwyliadau. Mae pawb ohonom ni’n teimlo’n flinedig o dro i dro oherwydd pwysau bywyd. Er hynny, mae’n rhaid inni gofio nad addawodd Duw fywyd di-broblem yn yr hen drefn sydd ohoni. Roedd hyd yn oed gweision Duw, yn amser y Beibl, yn wynebu trallodion, megis erlid, tlodi, iselder, a salwch.—Actau 8:1; 2 Corinthiaid 8:1, 2; 1 Thesaloniaid 5:14; 1 Timotheus 5:23.

14 Mae gennym ni, yn ein cyfnod ninnau, ein problemau hefyd. Efallai ein bod yn dioddef erledigaeth, yn wynebu pryder ariannol, yn ymgodymu ag iselder, yn sâl, neu’n dioddef mewn ffyrdd eraill. Petai Jehofah yn wyrthiol ein hamddiffyn ni rhag pob niwed, oni fyddai hynny’n rhoi sail i Satan wawdio Jehofah? (Diarhebion 27:11) Mae Jehofah yn caniatáu i’w weision gael eu temtio a’u profi, weithiau hyd at farw cynamserol drwy law gwrthwynebwyr.—Ioan 16:2.

15 Beth, felly, mae Jehofah wedi’i addo? Fel y gwelsom ni, mae e wedi addo rhoi inni’r gallu i ymwrthod ag unrhyw demtasiwn all ddod i’n rhan, ar yr amod ein bod yn llwyr ymddiried ynddo. (Diarhebion 3:5, 6) Drwy gyfrwng ei Air, ei ysbryd, a’i gyfundrefn, mae e’n ein hamddiffyn ni’n ysbrydol, ac yn ein helpu i ddiogelu’n perthynas ag ef. Â’r berthynas honno heb ei chyfaddawdu, hyd yn oed os byddwn yn marw, rydym yn fuddugol. Ni all hyd yn oed angau rwystro Duw rhag gwobrwyo’i weision ffyddlon. (Hebreaid 11:6) Ac yn y drefn newydd sydd gerllaw, bydd Jehofah yn sicr o gyflawni holl weddill ei addewidion rhyfeddol i fendithio’r rhai sy’n ei garu.—Salm 145:16.

Cofiwch y Pynciau Dadl

16 I ddyfalbarhau i’r diwedd peidiwn ag anghofio’r pynciau dadl sy’n ymwneud â Duw yn caniatáu drygioni. Os ydi’n problemau yn ein gorlethu ni ar adegau a ninnau’n teimlo’n ddiobaith, da o beth fyddai inni gofio fod Satan wedi herio dilysrwydd penarglwyddiaeth Jehofah. Mae’r Twyllwr hefyd wedi bwrw amheuaeth ar ddefosiwn ac uniondeb addolwyr Jehofah. (Job 1:8-11; 2:3, 4) Mae’r pynciau dadl hynny ynghyd â’r ffordd mae Jehofah wedi dewis eu hateb yn llawer pwysicach nag yw unrhyw un ohonom ni yn unigol. Sut felly?

17 Wrth ganiatáu caledi dros dro mae Duw wedi rhoi amser i eraill goleddu’r gwirionedd. Ystyriwch hyn: dioddefodd Iesu er mwyn i ni gael bywyd. (Ioan 3:16) Onid ydym ni’n ddiolchgar am hynny? Fodd bynnag, a ydym ni’n fodlon goddef caledi am gyfnod bach ychwaneg er mwyn rhoi cyfle i eraill eto ennill bywyd? Gall cydnabod fod doethineb Jehofah yn llawer uwch na’n doethineb ni ei gwneud yn haws inni ddyfalbarhau hyd y diwedd. (Eseia 55:9) Fe rydd derfyn ar ddrygioni ar yr adeg orau i ddatrys y pynciau dadl am byth ac er ein lles tragwyddol ni. Yn wir, pa ffordd well sydd? Nid yw Duw yn anghyfiawn!—Rhufeiniaid 9:14-24.

“Nesewch at Dduw”

18 Er mwyn sicrhau ein synnwyr brys, rhaid inni gadw’n agos at Jehofah. Peidiwn byth ag anghofio fod Satan yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddinistrio’r berthynas dda sydd gennym â Jehofah. Mae Satan am inni gredu na ddaw’r diwedd byth ac nad oes dim pwrpas pregethu’r newydd da na byw yn ôl safonau’r Beibl. Ond “un celwyddog yw ef, a thad pob celwydd.” (Ioan 8:44) Mae’n rhaid inni fod yn benderfynol o ‘wrthsefyll y diafol.’ Peidiwn byth â chymryd ein perthynas â Jehofah yn ganiataol. Cawn ein hannog yn gariadus yn y Beibl: “Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi.” (Iago 4:7, 8) Sut mae dod yn nes at Jehofah?

19 Mae myfyrio’n weddigar yn hanfodol. Pan fo pwysau bywyd yn ormod i chi, agorwch eich calon i Jehofah. Os cadwch eich gweddïau’n syml bydd yn haws i chi weld ei ateb i’ch cais. Efallai nad yn union yr hyn oedd gennych mewn golwg fydd yr ateb, ond os dymunwch ei anrhydeddu a chadw uniondeb, fe rydd ef yr help sydd ei angen arnoch fel y medrwch ddyfalbarhau a llwyddo. (1 Ioan 5:14) O weld ei ddylanwad yn cyfeirio eich bywyd, byddwch yn teimlo’n nes ato. Mae darllen am nodweddion Jehofah a’i ffyrdd, fel mae’r Beibl yn eu cyflwyno, a myfyrio arnyn’ nhw, hefyd yn hanfodol. Dyma sut dowch i’w nabod yn well; bydd eich calon yn cael ei chyffroi a’ch cariad ato yn dyfnhau. (Salm 19:14) Yn fwyaf oll, bydd y cariad hwnnw’n help i chi ymwrthod â themtasiwn a’ch galluogi i barhau’n wyliadwrus.—1 Ioan 5:3.

20 Er mwyn cadw’n agos at Jehofah, mae hi’r un mor bwysig cadw’n glòs at ein cyd-gredinwyr. Byddwn yn trafod hyn yn rhan olaf y llyfryn hwn.

CWESTIYNAU

• Tua diwedd ei fywyd daearol pan oedd dan bwysau mawr iawn, beth wnaeth Iesu, a beth anogodd Iesu i’w ddisgyblion ei wneud? (Paragraffau 1-4)

• Pam mae Satan wedi targedu addolwyr Jehofah, ac ym mha ffyrdd mae e’n ein temtio ni? (Paragraffau 5-8)

• Er mwyn ymwrthod â themtasiwn, pam mae gofyn inni weddïo’n gyson (Paragraffau 9-12), fod yn rhesymol o ran ein disgwyliadau (Paragraffau 13-15), gofio beth ydi’r pynciau dadl (Paragraffau 16-17), a ‘nesáu at Dduw’ (Paragraffau 18-20)?

[Blwch ar dudalen 25]

Rhai Pethau Sy’n Achosi Inni Deimlo’n Isel

Iechyd/oedran. Efallai ein bod yn digalonni am na fedrwn ni wneud rhagor yng ngwasanaeth Duw oherwydd salwch cronig neu ein cyfyngu gan henaint.—Hebreaid 6:10.

Cael ein siomi. Gall ymateb llugoer i’n hymdrechion ni wrth bregethu Gair Duw ein gwneud ni’n ddigalon.—Diarhebion 13:12.

Teimlo’n ddiwerth. Oherwydd ei gamdrin dros y blynyddoedd, gall unigolyn dristáu a theimlo nad oes neb, hyd yn oed Jehofah, yn ei garu.—1 Ioan 3:19, 20.

Teimladau dolurus. Fe all cyd-grediniwr ein tramgwyddo i’r fath raddau fel na fydd dim awydd arnom i fynd i’r cyfarfodydd Cristnogol na chymryd rhan yn y weinidogaeth.—Luc 17:1.

Erledigaeth. Gall eraill sydd heb fod o’r un ffydd â chi eich gwrthwynebu, neu eich erlid chi neu eich gwawdio.—2 Timotheus 3:12; 2 Pedr 3:3, 4.

[Llun ar dudalen 26]

Anogodd Iesu ni i weddïo’n ddi-baid am help i ymladd temtasiwn