I Ble Mae’r Byd ’Ma’n Mynd?
I Ble Mae’r Byd ’Ma’n Mynd?
Mae problemau difrifol a digwyddiadau brawychus bellach yn rhan o newyddion y dydd ym mhob rhan o’r byd! Oes ystyr i hyn?
DIOGELWCH PERSONOL: Bomiau’n ffrwydro mewn marchnadoedd. Saethu athrawon a phlant. Herwgipio babanod dim ond i’r rhieni droi eu cefn. Mygio gwragedd a dynion oedrannus gefn dydd golau.
CREFYDD HEDDIW: Eglwysi ac enwadau yn ochri â charfannau adeg rhyfel. Cyhuddo clerigwyr o hil-laddiad. Offeiriaid yn manteisio’n rhywiol ar bobl ifanc; yr eglwys yn celu’r peth. Llai a llai yn mynychu lle addoliad; gwerthu eglwysi a chapeli.
YR AMGYLCHEDD: Mentrau masnachol yn dinoethi fforestydd i wneud arian. Coedlannau’n diflannu wrth i dlodion chwilio am danwydd i gadw’n gynnes. Llygru dŵr codi; perygl o’i yfed. Gwastraff diwydiant a rhai dulliau modern yn difetha pysgota. Llygru’r awyr yn ddigon i’ch mygu.
ENNILL BYWOLIAETH: Dywedir fod incwm y pen yn Affrica is-Sahara tua $480 (U.D.A.) y flwyddyn. Barusrwydd masnach yn arwain at gwymp cwmnïau busnes gan adael miloedd yn ddi-waith. Twyll yn achosi colledion mawr i fuddsoddwyr.
PRINDER BWYD: Bob dydd, tua 800,000,000 o bobl y byd yn dioddef o ddiffyg bwyd.
RHYFEL: Yn yr 20fed ganrif, dros 100,000,000 o bobl wedi colli eu bywydau o ganlyniad i ryfel. Digon o arfau niwclear ar gael i ddifa dynoliaeth lawer gwaith drosodd. Rhyfeloedd cartref. Brawychiaeth yn ymledu i bob rhan o’r glôb.
PLÂU AC AFIECHYDON ERAILL: Gan gychwyn ym 1918, collodd 21,000,000 eu bywydau o ganlyniad i’r ffliw Sbaenaidd. Erbyn hyn AIDS yw’r “pandemig mwyaf difaol yn hanes dyn.” Cancr a chlefyd y galon yn achosi galar byd-eang.
Edrychwch y tu hwnt i eitemau unigol y newyddion a gofyn ai digwyddiadau digyswllt ydyn nhw? Neu a ydyn nhw’n rhan o batrwm byd-eang hynod o arwyddocaol?
[Blwch/Llun ar dudalen 5]
Ydi Duw yn Gwir Ofidio?
Yn eu consýrn oherwydd digwyddiadau erchyll neu golled bersonol ddwys, mae llawer yn synnu nad yw Duw yn ymyrryd i atal y fath bethau.
Mae Duw yn gwir ofidio. Mae e’n cynnig arweiniad da a chymorth dilys nawr. (Mathew 11:28-30; 2 Timotheus 3:16, 17) Mae e eisoes wedi gosod sail rhoi diwedd am byth i drais, salwch, a marwolaeth. Mae ei ddarpariaethau’n dangos fod ei ofal yn ymestyn nid dros bobl un genedl yn unig ond dros bobl pob cenedl, llwyth ac iaith.—Actau 10:34, 35.
I ba raddau rydym ni’n dangos consýrn? Wyddoch chi pwy yw Creawdwr y nefoedd a’r ddaear? Beth yw ei enw? Beth yw ei fwriad? Mae e’n ateb y cwestiynau hyn yn y Beibl. Yno cawn wybod yr hyn mae’n ei wneud i roi diwedd ar drais, afiechyd a marwolaeth. Os ydym i gael budd o hyn, beth mae’n ofynnol inni ei wneud? Mae angen inni ddysgu amdano ef a’i fwriad. Sut gallwn ni brofi lles ei ddarpariaethau heb inni yn gyntaf roi ffydd ynddo? (Ioan 3:16; Hebreaid 11:6) Yn ogystal, mae gofyn inni ufuddhau i’w gyfarwyddyd. (1 Ioan 5:3) Ydy’ch consýrn chi yn eich annog chi i wneud hynny?
Er mwyn inni ddeall pam mae Duw yn caniatáu’r sefyllfa bresennol, mae angen inni ddod i wybod am bwnc dadl sylfaenol iawn. Mae’r Beibl yn ei egluro. Ar dudalen 15 y llyfryn hwn, medrwn weld beth ydi’r pwnc dadl.