“Ni Wyddent Ddim”
“Ni Wyddent Ddim”
GALL diystyru rhybuddion arwain at drychineb.
Ym 1974 a hwythau yn prysur baratoi at ŵyl, cafodd pobl Darwin, Awstralia rybudd seiren fod seiclon ar ei ffordd. Ond doedd Darwin ddim wedi cael ei difrodi gan seiclon ers tua 30 mlynedd. Pam dylai ddod nawr? Doedd fawr neb o’r trigolion yn ystyried fod perygl difrifol ar ddod nes dechreuodd gwyntoedd ffyrnig rwygo toeau a phlicio waliau tai lle llochesai pobl. Drannoeth doedd dim ond llwyr ddiffeithdra lle bu’r ddinas.
Ffrwydrodd llosgfynydd yn Colombia yn Nhachwedd 1985. Claddwyd rhagor na 20,000 o drigolion tref Armero gan lif llaid eira ac iâ yn dadmer. Onid oedd rhybudd? Buasai’r mynydd yn dirgrynu ers misoedd. Fodd bynnag, a hwythau wedi arfer byw mor agos i losgfynydd, doedd mwyafrif pobl Armero ddim yn hidio rhyw lawer. Er i’r swyddogion dderbyn rhybudd y byddai dinistr buan, ychydig a wnaethant i rybuddio’r bobl. Rhoddwyd cyhoeddiadau dros y radio i geisio tawelu ofnau’r bobl. Defnyddiwyd uchel-seinydd yr eglwys i’w hannog i beidio â chynhyrfu. Gyda’r nos bu dau ffrwydrad aruthrol. Fyddech chi wedi gadael eich eiddo a ffoi? Ychydig iawn o ymdrech i ffoi a wnaed gan neb nes iddi fynd yn rhy hwyr.
Mae daearegwyr yn aml yn medru rhagfynegi yn weddol gywir ble bydd daeargrynfâu. Ond anaml y maen nhw’n medru rhagfynegi yn union pryd y bydd hynny. Ym 1999, yn fyd-eang, bu daeargrynfâu yn gyfrifol am ladd tua 20,000 o bobl. Agwedd llawer o’r rhai fu farw bryd hynny oedd na fyddai’r fath beth yn digwydd iddyn’ nhw.
Sut Rydych Chi’n Ymateb i Rybuddion Sy’n Dod Gan Dduw Ei Hun?
Ymhell cyn ein cyfnod ni mae’r Beibl, yn fyw iawn, wedi cofnodi’r digwyddiadau fyddai’n nodweddu’r dyddiau diwethaf. Yn y cyswllt hwn, mae’n ein hannog i ystyried “dyddiau Noa.” Roedd pobl “yn y dyddiau cyn y dilyw” yn dilyn eu gorchwylion pob dydd, er eu bod yn naturiol yn poeni am Mathew 24:37-39) Fyddech chi wedi rhoi sylw i’r rhybudd? Ydych chi’n gwneud hynny nawr?
drais nodweddiadol y dyddiau hynny. Ond o ran y rhybudd a roddodd Duw drwy ei was Noa iddyn’ nhw, “ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a’u hysgubo ymaith i gyd.” (Beth petaech chi wedi byw yn Sodom, ger y Môr Marw, yn nyddiau Lot, nai Abraham? Roedd cefn gwlad megis paradwys, y ddinas yn ffynnu, a’r bobl heb ddim yn eu poeni. Yn nyddiau Lot, “yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu.” Roeddent yn byw mewn cymdeithas oedd hefyd yn hynod anfoesol. Fyddai clywed Lot yn codi’i lais yn erbyn anghyfiawnder wedi cyffwrdd eich calon? Fyddech chi wedi gwrando ar ei eiriau’n sôn am fwriad Duw i ddifa dinas Sodom? Neu a fyddech chi wedi cymryd y cyfan yn rhyw fath o jôc, fel gwnaeth darpar feibion-yng-nghyfraith Lot? Fyddech chi efallai wedi cychwyn ffoi ac yna droi yn ôl, fel gwnaeth gwraig Lot? Er na wrandawodd eraill o ddifri ar y rhybudd, “fe lawiodd tân a brwmstan o’r nef a difa pawb” y dydd yr aeth Lot allan o Sodom.—Luc 17:28, 29.
Nid yw mwyafrif pobl heddiw yn cymryd unrhyw sylw. Ond fe gofnodwyd yr enghreifftiau hyn yng Ngair Duw i’n rhybuddio ni, i’n hannog ni i FOD YN WYLIADWRUS!
[Blwch/Llun ar dudalen 22]
Oedd ’Na Ddilyw Byd-eang?
Nag oedd, medd llawer beirniad. Oedd, meddai’r Beibl.
Fe soniodd Iesu Grist ei hun amdano, ac roedd e’n fyw pan ddigwyddodd, ac yn gwylio o’r nefoedd.
[Blwch/Llun ar dudalen 23]
Ydi Hi’n Wir i Sodom a Gomorra Gael Eu Dinistrio?
Mae archaeoleg yn cefnogi hyn.
Mae hanes seciwlar yn sôn amdano.
Fe gadarnhaodd Iesu Grist iddo ddigwydd, ac mae 14 o lyfrau’r Beibl yn cyfeirio at yr hanes.