Pa Gyfeiriad Sydd I’ch Bywyd Chi?
Pa Gyfeiriad Sydd I’ch Bywyd Chi?
• Mae llawer o bobl wedi ymgolli yn eu byw bob dydd fel nad oes ganddyn’ nhw’r amser i feddwl am gyfeiriad eu bywyd.
• Mae’r Beibl yn dangos fod digwyddiadau rhyfeddol i ddod. Mae hefyd yn ein rhybuddio ni y bydd cynnwrf mawr ymhlith sefydliadau dynol yn fyd-eang. Os ydym i osgoi trychineb, mi fydd er ein lles i weithredu’n gadarnhaol ar frys.
• Mae ’na rai pobl sy’n gyfarwydd â’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud ac yn dymuno ymateb iddo, ond yn ildio pan ddaw pryderon bywyd i’w cam-gyfeirio.
• Ydych chi’n hapus gyda chyfeiriad eich bywyd chi? Wrth drefnu gweithgareddau, fyddwch chi’n ystyried sut gallent effeithio ar nod tymor hir eich bywyd?
[Blwch/lluniau ar dudalen 9]
Beth Sydd Fwyaf Pwysig i Chi?
Pa werth fyddech chi’n ei roi ar y canlynol? Rhowch rif i bob un.
Mae lle i lawer ohonyn’ nhw mewn bywyd, ond pan fo’n rhaid dewis, be’ sy’n cael y lle blaenaf? yr ail le? ac yn y blaen.
․․․ Difyrrwch/adloniant
․․․ Fy ngwaith neu fy ngyrfa
․․․ Fy iechyd
․․․ Hapusrwydd personol
․․․ Fy nghymar
․․․ Fy rhieni
․․․ Fy mhlant
․․․ Cartre’ braf/dillad crand
․․․ Bod yn orau yn beth bynnag rwy’n ei wneud
․․․ Addoli Duw
[Blwch ar dudalen 10, 11]
Ydi’ch Dewisiadau yn Help Ichi Gyrraedd eich Nod?
YSTYRIWCH Y CWESTIYNAU HYN
DIFYRRWCH/ADLONIANT: Ydi’r adloniant rwy’n ei ddewis yn fy adnewyddu i? Allai’r ias mae’n ei gynnig beryglu fy iechyd neu fy ngwneud yn gripil am weddill fy oes? Ai math o “hwyl” ydi e sy’n golygu cyffro am ychydig oriau ond gofid calon hir-barhaol yn ei sgil? Er yn iachusol, ydi difyrrwch yn mynnu amser y dylwn ei roi i bethau pwysicach?
FY NGWAITH NEU FY NGYRFA: Ai fy nghynnal y mae, neu a ydw i’n was i’r gwaith? Ydi’r gofynion yn difetha fy iechyd? Fyddai hi’n well gennyf weithio goramser yn hytrach na bod gyda’m cymar neu fy mhlant? Petai fy nghyflogwr yn gyson fynnu gwaith gennyf sy’n groes i’m cydwybod neu sy’n dwyn amser oddi ar fuddion ysbrydol, fyddwn i’n gwneud y gwaith hwnnw er mwyn cadw fy swydd?
FY IECHYD: Ydw i’n cymryd fy iechyd yn ganiataol neu ydw i’n gyson ynglŷn â’i ddiogelu? Ai dyma holl destun fy sgwrs? Ydi’r ffordd rwy’n gofalu amdano yn dangos consýrn dros fy nheulu?
HAPUSRWYDD PERSONOL: Ai dyma rwy’n ei ystyried yn flaenaf? Ydi e’n cael lle amlycach na hapusrwydd fy nghymar neu hapusrwydd fy nheulu? Ydi’r modd rwy’n ceisio’i sicrhau i mi fy hun yn addas i un sy’n addoli’r gwir Dduw?
FY NGHYMAR: Ydw i’n ystyried fy nghymar yn gyfaill imi dim ond pan fo hynny’n gyfleus? Ydw i’n trin fy nghymar ag anrhydedd, fel un sydd â hawl i urddas bersonol? Ydi f’agwedd at fy nghymar yn addas i un sy’n credu yn Nuw?
FY RHIENI: Os mai plentyn dan oed ydw i, ydw i’n ufudd i fy rhieni—yn eu hateb gyda pharch, yn gwneud tasgau maen’ nhw’n eu gosod imi, yn dod adre yr amser maen’ nhw wedi’i bennu, yn osgoi y math o gymdeithasu a gweithgareddau maen’ nhw’n fy rhybuddio rhagddynt? Os oedolyn wyf, ydw i’n gwrando’n barchus ar fy rhieni, gan roi’r help addas iddyn’ nhw pan fo angen? Ydi fy ymwneud i â nhw yn adlewyrchu cyngor Gair Duw neu ydi e’n dibynnu ar yr hyn sy’n gyfleus i mi?
FY MHLANT: Ydw i’n sylweddoli mai fy nghyfrifoldeb i ydi dysgu gwerthoedd moesol addas i’m plant, neu ydw i’n disgwyl i’r ysgolion wneud hynny? Ydw i’n treulio amser gyda’m plant, neu ydw i’n disgwyl i deganau, neu’r teledu, neu gyfrifiadur eu cadw nhw’n ddiddig? Ydw i’n gyson yn y ffordd rydw i’n disgyblu fy mhlant pan maen’ nhw’n anwybyddu cyngor Duw, neu ydw i’n eu disgyblu dim ond pan maen’ nhw’n fy ngwylltio?
CARTREF BRAF, DILLAD CRAND: Beth sy’n penderfynu faint o sylw y byddaf yn ei roi i’m trwsiad a’m heiddo—ai gwneud argraff ar fy nghymdogion? lles fy nheulu? y ffaith fy mod yn addoli Duw?
BOD YN ORAU YN BETH BYNNAG RWY’N EI WNEUD: Beth bynnag fo’m gorchwyl, ydi hi’n bwysig i mi ei wneud yn dda? Ydw i’n ymdrechu i fod yn orau? Ydw i’n cynhyrfu os daw rhywun arall a’i wneud yn well?
ADDOLI DUW: Ydi derbyn cymeradwyaeth Duw yn bwysicach i mi na derbyn cymeradwyaeth fy nghymar, fy mhlant, fy rhieni, neu fy nghyflogwr? Ydw i’n ystyried medru cynnal ffordd o fyw gysurus yn bwysicach na gwasanaethu Duw?
YSTYRIWCH GYNGOR Y BEIBL YN OFALUS
Pa le sydd i Dduw yn eich bywyd chi?
Pregethwr 12:13: “Ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un.”
HOLWCH EICH HUN: Ydi hyn yn amlwg yn fy mywyd? Ydi’r modd rwy’n gofalu am fy nghyfrifoldebau gartref, yn y gwaith, neu yn yr ysgol, yn dangos fy mod i’n ufudd i orchmynion Duw? Neu ydi diddordebau neu broblemau bywyd yn dwyn amser oddi ar bethau Duw?
Pa fath o berthynas sydd gennych â Duw?
Diarhebion 3:5, 6: “Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau’n union.”
Mathew 4:10: “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.”
HOLWCH EICH HUN: Ai dyna fel rydw i’n ymateb i Dduw? Ydi fy myw bob dydd i, yn ogystal â’r ffordd rwy’n trin argyfyngau, yn adlewyrchu’r fath ymddiried ac ymroddiad?
Ydych chi’n meddwl fod darllen ac astudio’r Beibl yn bwysig?
Ioan 17:3: “A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.”
HOLWCH EICH HUN: Ydi’r amser rydw i’n ei roi heibio i ddarllen a myfyrio ar Air Duw yn profi fy mod i’n wir gredu hynny?
Pa mor bwysig i chi ydi bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y gynulleidfa Gristnogol?
Hebreaid 10:24, 25: “Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain . . . ac yn fwy felly yn gymaint â’ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.”
Salm 122:1: “Yr oeddwn yn llawen pan ddywedasant wrthyf, ‘Gadewch inni fynd i dŷ’r ARGLWYDD.’”
HOLWCH EICH HUN: Ydi patrwm fy myw i yn dangos fy mod yn gwerthfawrogi’r cyfarwyddyd hwn yng Ngair Duw? Ydi hi’n wir imi fethu unrhyw gyfarfod Cristnogol yn ystod y mis diwethaf oherwydd imi roi blaenoriaeth i bethau eraill?
Oes gennych chi ran selog yn y gwaith o sgwrsio ag eraill am Dduw a’i fwriad?
Mathew 24:14: “Fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth . . . , ac yna y daw’r diwedd.”
Mathew 28:19, 20: “Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, . . . a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi.”
Salm 96:2: “Canwch i’r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw, cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd.”
HOLWCH EICH HUN: Ydw i’n rhoi i’r gwaith hwn y lle dyledus mae’n ei haeddu yn fy mywyd? Ydi fy nghyfraniad yn dangos fy mod yn argyhoeddedig o ddifrifoldeb y cyfnod rydym yn byw ynddo?