Sylw Dyfal Yn Achub Eu Bywydau
Sylw Dyfal Yn Achub Eu Bywydau
RHODDODD Iesu Grist ddigon o rybudd y byddai’r drefn Iddewig â’i chanolfan yn y deml yn Jerwsalem, yn cael ei difa. Ni roddodd ddyddiad pryd y byddai hyn yn digwydd. Ond fe ddisgrifiodd y fath helyntion fyddai’n rhagflaenu’r dinistr hwnnw. Anogodd ei ddisgyblion i fod yn wyliadwrus ac i gadw draw o ardal y perygl.
Rhagfynegodd Iesu: “Pan welwch Jerwsalem wedi ei hamgylchynu gan fyddinoedd, yna byddwch yn gwybod fod awr ei diffeithio wedi dod yn agos.” Yn ogystal fe ddywedodd: “Pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’ . . . yn sefyll yn y lle sanctaidd . . . yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i’r mynyddoedd.” Anogodd Iesu ei ddisgyblion i beidio â dychwelyd am eu heiddo. Roedd angen ffoi ar frys os oeddent i arbed eu bywydau.—Luc 21:20, 21; Mathew 24:15, 16.
Yn 66 C.C., er mwyn tawelu gwrthryfel hir-barhaol, arweiniodd Cestius Gallus luoedd Rhufain yn erbyn Jerwsalem. Aeth i mewn i’r ddinas a gosod gwarchae ar y deml. Roedd y ddinas yn ferw o gynnwrf. Roedd hi’n amlwg i’r gwyliadwrus fod trychineb ar ddigwydd. Oedd modd ffoi? Yn gwbl annisgwyl, tynnodd Cestius Gallus ei luoedd yn ôl, gyda therfysgwyr Iddewig yn eu hymlid. Dyma oedd yr amser i ffoi o Jerwsalem a Jwdea!
Ymhen blwyddyn, roedd byddin Rhufain yn ôl, dan arweiniad Vespasian a’i fab Titus. Roedd rhyfel ym mhob rhan o’r wlad. Yn gynnar yn 70 C.C., cododd y Rhufeiniaid gylch o stanciau blaenllym o amgylch Jerwsalem. Doedd dim modd ffoi. (Luc 19:43, 44) Dechreuodd carfannau oddi mewn i’r ddinas droi y naill ar y llall a bu lladdfa. Lladdodd y Rhufeiniaid weddill y bobl neu eu caethgludo. Dinistriwyd y ddinas a’i theml yn llwyr. Yn ôl Josephus, hanesydd Iddewig yn y ganrif gyntaf, dioddefodd rhagor na miliwn o Iddewon a marw. Nid ail godwyd y deml honno.
Petai’r Cristnogion wedi aros yn Jerwsalem yn 70 C.C., byddent wedi cael eu lladd
neu eu cymryd yn gaethweision fel pawb arall yno. Fodd bynnag, mae haneswyr y cyfnod yn adrodd i’r Cristnogion wrando ar y rhybudd dwyfol a ffoi o Jerwsalem a Jwdea i gyfeiriad y mynyddoedd oedd ar ochr ddwyreiniol Afon Iorddonen. Ymsefydlodd rhai yn ninas Pella, yn rhanbarth Perea. Mi adawsan’ nhw Jwdea ac ni ddychwelsan’ nhw yno. Roedd gwrando ar rybudd Iesu wedi achub eu bywydau.Ydych Chi’n Ystyried o Ddifri Rhybuddion Dibynadwy eu Ffynhonnell?
Wedi clywed sawl rhybudd na wireddwyd mohonyn’ nhw, mae llawer o bobl yn trin pob rhybudd yn ysgafn. Fodd bynnag, mi all ymateb i rybuddion arbed eich bywyd.
Yn China ym 1975, cafwyd rhybuddion fod daeargryn yn bygwth taro. Gweithredodd swyddogion. Ymatebodd y bobl. Arbedwyd rhai miloedd o fywydau.
Fis Ebrill 1991, yn Ynysoedd y Philipinau, gwelodd pentrefwyr oedd yn byw ar lethrau Mynydd Pinatubo stêm a lludw yn tasgu o’r mynydd. Wedi cadw golwg fanwl ar y sefyllfa am ddeufis, rhybuddiodd Sefydliad Fylcaneg a Seismoleg y Philipinau fod perygl ar ddod. Heb oedi, symudwyd degau o filoedd o bobl o’r ardal. Yn gynnar fore Mehefin 15, mewn ffrwydrad anferth, hyrddiwyd wyth cilomedr ciwbig o ddeunydd chwilfriw faluriedig tua’r entrychion ac yna ddisgyn yn drwch dros yr ardal. Drwy roi sylw arbedwyd miloedd o fywydau.
Mae’r Beibl yn ein rhybuddio am ddiwedd y drefn bresennol. Rydym yn byw yn y dyddiau diwethaf. Wrth i’r diwedd nesáu, ydych chi’n cadw’n wyliadwrus? Ydych chi’n cadw draw yn ddigon pell o ddylanwad y perygl? Ydych chi, fel mater o frys, yn rhybuddio eraill a’u hannog i ffoi?
[Llun ar dudalen 20]
Oherwydd iddynt ymateb i’r rhybudd arbedwyd bywydau llawer pan chwydodd Mynydd Pinatubo ludw folcanig.
[Llun ar dudalen 21]
Arbedwyd bywydau Cristnogion wrandawodd ar rybudd Iesu pan ddinistriwyd Jerwsalem yn 70 C.C.