Neidio i'r cynnwys

Bywyd mewn Byd Newydd o Heddwch

Bywyd mewn Byd Newydd o Heddwch

Bywyd mewn Byd Newydd o Heddwch

Pan edrychwch chi ar yr olygfa ar y daflen hon, sut deimladau sy’ gennych? On’d ydi’ch calon chi’n hiraethu am yr heddwch, yr hapusrwydd, a’r ffyniant sy’ ’na? Mae’n siwr ei bod hi. Ond ai dim ond breuddwyd, neu ffantasi, ydi credu y daw’r amodau hyn fyth i fod ar y ddaear?

Mae’n debyg mai felly mae’r mwyafrif o bobl yn meddwl. Ffeithiau noeth heddiw ydi rhyfel, trosedd, newyn, afiechyd, heneiddio—i sôn am ond ychydig. Eto mae ’na le i obeithio. Gyda’r dyfodol mewn golwg, fe ddywed y Beibl, “disgwyl yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef [Duw], am nefoedd newydd a daear newydd, lle bydd cyfiawnder yn cartrefu.”—2 Pedr 3:13; Eseia 65:17.

Yn ôl y Beibl, nid nefoedd newydd materol neu ddaear newydd llythrennol ydi’r “nefoedd newydd” a’r “ddaear newydd.” Fe gafodd y ddaear a’r nefoedd ffisegol eu gwneud yn berffaith, ac mae’r Beibl yn dangos y byddan’ nhw’n para am byth. (Salm 89:36,37; 104:5) Cymdeithas gyfiawn o bobl yn byw ar y ddaear fydd y “ddaear newydd,” a theyrnas nefol berffaith, neu lywodraeth, yn teyrnasu dros y gymdeithas ddaearol hon o bobl fydd y “nefoedd newydd.” Ond ydi hi’n realistig credu bod “daear newydd,” neu fyd newydd gogoneddus, yn bosib’?

Wel ’te’, ystyriwch y ffaith fod y fath amodau delfrydol yn rhan o fwriad gwreiddiol Duw ar gyfer y ddaear hon. Fe osododd y pâr dynol cynta’ ym Mharadwys ddaearol Eden a rhoi aseiniad rhyfeddol iddyn’ nhw: “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi.” (Genesis 1:28) Ie, bwriad Duw oedd iddyn’ nhw gael plant ac yn y pen draw ymestyn eu Paradwys dros yr holl ddaear. Er iddyn’ nhw yn ddiweddarach ddewis anufuddhau i Dduw, felly’n profi eu bod nhw’n anaddas i fyw am byth, ni newidiodd pwrpas gwreiddiol Duw. A bydd yn rhaid iddo gael ei gyflawni mewn byd newydd!—Eseia 55:11.

Mewn gwirionedd, pan ’rydych yn gweddïo Gweddi’r Arglwydd, neu “Ein Tad,” yn gofyn am i Deyrnas Dduw ddod, ’rydych yn gweddïo am i’w lywodraeth nefol gael gwared o ddrygioni oddi ar y ddaear a theyrnasu dros y byd newydd hwn. (Mathew 6:9,10) Ac fe allwn ni fod yn hyderus y bydd Duw yn ateb y weddi honno, gan fod ei Air yn addo: “Y mae’r cyfiawn yn etifeddu’r tir [“ddaear,” Y Beibl Cysegr-Lân, Argraffiad 1974], ac yn cartrefu ynddo am byth.”—Salm 37:29.

Bywyd ym Myd Newydd Duw

Fe fydd Teyrnas Dduw yn dod â bendithion daearol fydd y tu hwnt i unrhyw gymharu, gan sicrhau popeth da yr oedd Duw wedi’i fwriadu’n wreiddiol i’w bobl ei fwynhau ar y ddaear. Fe fydd casineb a rhagfarn yn peidio â bod, ac yn y pen draw fe fydd pawb ar y ddaear yn ffrind cywir i bawb arall. Yn y Beibl, mae Duw yn addo y “gwna i ryfeloedd beidio trwy’r holl ddaear.” “Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.”—Salm 46:9; Eseia 2:4.

Fe fydd yr holl ddaear yn y pen draw yn cael ei throi’n baradwys tebyg i ardd. Mae’r Beibl yn dweud: “Llawenyched yr anial a’r sychdir, gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo. ... Tyr dyfroedd allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch; bydd y crastir yn llyn, a’r tir sych yn ffynhonnau byw.”—Eseia 35:1, 6,7.

Fe fydd pob rheswm dros fod yn hapus ar y ddaear Baradwys. ’Fydd pobl byth eto’n newynu oherwydd diffyg bwyd. “Rhoes y ddaear ei chnwd [“Y ddaear a rydd ei ffrwyth,” BCL],” mae’r Beibl yn ei ddweud. (Salm 67:6; 72:16) Fe fydd pawb yn mwynhau ffrwyth ei lafur ei hun, fel mae’n Creawdwr yn addo: “Byddant ... yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth; ni fydd neb yn ... plannu ac arall yn bwyta.”—Eseia 65:21,22.

Ym myd newydd Duw, ’fydd pobl ddim yn cael eu gwasgu i flociau anferth o fflatiau neu hen slymiau blêr mwyach, oherwydd mae Duw wedi bwriadu: “Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt, ... ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu.” Mae’r Beibl hefyd yn addo: “Ni fyddant yn llafurio’n ofer.” (Eseia 65:21-23) Felly fe fydd gan bobl waith cynhyrchiol, fydd yn rhoi bodlonrwydd. ’Fydd bywyd ddim yn ddiflas.

Mewn amser, fe fydd Teyrnas Dduw hyd yn oed yn adfer y berthynas heddychlon a fu yng ngardd Eden ymhlith yr anifeiliaid, a rhwng anifeiliaid a bodau dynol. Mae’r Beibl yn dweud: “A’r blaidd a drig gyda’r oen, a’r llewpard a orwedd gyda’r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a’r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a’u harwain.”—Eseia 11:6-9, BCL; Hosea 2:18.

Dychmygwch, yn y ddaear Baradwys fe fydd pob afiechyd a gwendid corfforol yn cael eu hiacháu hefyd! Mae Gair Duw yn ein sicrhau ni: “Ni ddywed neb o’r preswylwyr, ‘’Rwy’n glaf.’” (Eseia 33:24) “Fe sych [Duw] bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”—Datguddiad 21:4.

Sut Mae Hyn yn Bosib’ i Chi

Mae’n siwr bod eich calon chi’n cael ei chyffroi gan addewidion Duw ynglŷn â bywyd yn ei fyd newydd o gyfiawnder. A thra bod rhai yn ystyried mai gormod ydi disgwyl gwireddu’r fath fendithion daionus, ’dydyn’ nhw ddim yn rhy ddaionus i ddod o law ein Creawdwr cariadus.—Salm 145:16; Micha 4:4.

Wrth gwrs, mae ’na ofynion i’w cyflawni os ydyn ni i fyw am byth yn y Baradwys sy’n dod ar y ddaear. Fe ddangosodd Iesu un pwysig, gan ddweud wrth weddïo ar Dduw: “A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di [“cymryd i mewn wybodaeth amdanat,” New World Translation of the Holy Scriptures], yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.”—Ioan 17:3.

Felly os ydyn ni’n wirioneddol eisiau byw ym myd newydd Duw, mae’n rhaid i ni’n gynta’ ddysgu ewyllys Duw ac yna ei gweithredu. Oherwydd y ffaith amdani ydi: “Y mae’r byd a’i drachwant yn mynd heibio, ond y mae’r hwn sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth,” i fwynhau’n dragwyddol y bendithion fydd yn cael eu harllwys oddi uchod gan ein Creawdwr cariadus.—1 Ioan 2:17.

Oni nodir yn wahanol, o Y Beibl Cymraeg Newydd y daw’r dyfyniadau.