Sut Galla i Ddod yn Ffrind i Dduw?
PENNOD 35
Sut Galla i Ddod yn Ffrind i Dduw?
Ar ôl mynd trwy amser hynod o galed, daeth Jeremy i werthfawrogi ei berthynas agos â Duw. “Pan o’n i’n ddeuddeg oed, gadawodd fy nhad,” meddai. “Un noson, yn y gwely, roeddwn i’n gweddïo ar Jehofa yn ymbil arno i ddod â’n nhad yn ôl.”
Yn torri ei galon, dechreuodd Jeremy ddarllen y Beibl. Cafodd Salm 10:14 effaith fawr arno. Mae’r adnod honno’n dweud am Jehofa: “Ti sy’n helpu plant amddifad.” Dywed Jeremy: “Roeddwn i’n teimlo bod Jehofa yn siarad â mi ac yn gadael imi wybod ei fod yn fy helpu; roedd yn Dad imi. Pa dad gwell y gallwn ei gael?”
P’UN a wyt ti’n wynebu sefyllfa debyg i Jeremy neu beidio, mae’r Beibl yn dangos bod Jehofa eisiau iti fod yn ffrind iddo. Yn wir, mae’r Beibl yn dweud: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.” (Iago 4:8) Meddylia am y geiriau hynny. Er bod Jehofa yn anweladwy ac yn fwy na ni ym mhob ffordd, y mae’n dy wahodd di i fod yn ffrind iddo!
Ond mae cyfeillgarwch â Jehofa yn gofyn am waith. I egluro: Os oes gen ti blanhigyn yn tyfu yn y tŷ, rwyt ti’n gwybod nad yw’n tyfu heb dy fod ti’n edrych ar ei ôl. Mae’n rhaid rhoi dŵr iddo yn rheolaidd a’i gadw mewn amgylchedd addas. Mae bod yn ffrind i Dduw yn gofyn am ymdrech debyg. Sut gelli di feithrin dy gyfeillgarwch â Duw?
Pwysigrwydd Astudio
Mae cyfeillgarwch yn gofyn am gyfathrebu dwyffordd, sef gwrando a siarad. Mae hynny’n wir hefyd yn ein perthynas â Duw. Rydyn ni’n gwrando ar Dduw drwy ddarllen ac astudio’r Beibl.—Salm 1:2, 3.
Efallai nad wyt ti’n mwynhau astudio ryw lawer. Mae’n well gan lawer o bobl ifanc wylio teledu, chwarae gemau, neu dreulio amser gyda ffrindiau. Ond os wyt ti eisiau cael perthynas â Duw, nid wyt ti’n gallu torri corneli. Mae’n bwysig iti wrando arno drwy astudio ei Air.
Ond paid â phoeni. Nid yw astudio’r Beibl yn gorfod bod yn faich. Gelli di ddysgu sut i’w fwynhau—hyd yn oes os nad yw’n dod yn naturiol iti. Y peth cyntaf i’w wneud yw neilltuo amser ar gyfer astudio’r Beibl. “Mae gen i raglen,” meddai merch o’r enw Lais. “Dw i’n darllen pennod o’r Beibl peth cyntaf bob bore.” Mae gan Maria, sy’n 15 oed, raglen wahanol. “Dw i’n darllen darn o’r Beibl bob nos cyn mynd i gysgu,” meddai hi.
I ddechrau dy raglen astudio bersonol, edrycha ar y blwch “Dod i Adnabod dy Feibl.” Yna, noda amser pan fyddi di’n gallu treulio tua 30 munud yn astudio Gair Duw.
․․․․․
Dim ond man cychwyn yw neilltuo amser. Unwaith iti ddechrau astudio, efallai byddi di’n darganfod nad yw’r Beibl bob amser yn hawdd i’w ddarllen. Efallai byddi di’n cytuno â Jezreel, sy’n 11 oed ac yn dweud yn blwmp ac yn blaen: “Mae rhai darnau o’r Beibl yn anodd a braidd yn ddiflas.” Os dyna’r ffordd rwyt ti’n teimlo, paid â rhoi’r gorau iddi. Cofia, bob tro rwyt ti’n astudio’r Beibl, rwyt ti’n treulio amser yn gwrando ar dy ffrind, Jehofa Dduw. Yn y pen draw, po fwyaf o ymdrech rwyt ti’n ei gwneud i astudio’r Beibl, mwyaf yn y byd y byddi di’n ei fwynhau.
Mae Gweddi yn Hanfodol
Rydyn ni’n siarad â Duw drwy weddi. Mae gweddi yn rhodd hynod o werthfawr! Gelli di siarad â Jehofa Dduw unrhyw adeg o’r dydd a’r nos. Mae Duw bob tro yn barod i wrando. Yn fwy na hynny, mae eisiau clywed beth rwyt ti’n ei ddweud. Dyna pam mae’r Beibl yn dweud: “Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.”—Philipiaid 4:6.
Fel mae’r adnod honno’n dangos, gallwn ni siarad â Jehofa am unrhyw beth. Gelli di sôn am dy broblemau a dy bryderon. Gelli di hefyd gynnwys y pethau rwyt ti’n ddiolchgar amdanyn nhw. Wedi’r cwbl, byddi di’n diolch i dy ffrindiau am y pethau da maen nhw’n eu gwneud. Felly, peth da yw diolch i Jehofa, sydd wedi gwneud llawer mwy ar dy gyfer di na neb arall.—Salm 106:1.
Gwna restr o’r pethau rwyt ti yn ddiolchgar i Jehofa amdanyn nhw.
․․․․․
Mae’n debyg bod pryderon yn pwyso’n drwm ar dy feddwl ar adegau. Mae Salm 55:22 yn dweud: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.”
Gwna restr o unrhyw bryderon yr hoffet ti eu cynnwys yn dy weddïau.
․․․․․
Profiad Personol
Mae agwedd arall ar dy berthynas â Duw na ddylet ti ei hanwybyddu. Ysgrifennodd y salmydd Dafydd: “Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy’r ARGLWYDD!” (Salm 34:8) Pan ysgrifennodd y Salm hon, roedd Dafydd newydd gael profiad ofnadwy. Roedd yn ffoi rhag y Brenin Saul a oedd yn ceisio ei ladd. Ond wedyn roedd rhaid iddo guddio yng nghanol ei elynion, y Philistiaid. Roedd Dafydd yn meddwl ei fod yn mynd i farw, ond drwy esgus ei fod wedi colli ei feddwl, fe lwyddodd i ddianc.—1 Samuel 21:10-15.
Nid oedd Dafydd yn meddwl mai ei ddyfeisgarwch ei hun oedd wedi achub ei fywyd. Yn hytrach, fe roddodd y clod i Jehofa. Yn gynharach yn Salm 34, ysgrifennodd: “Ro’n i wedi troi at yr ARGLWYDD am help, ac atebodd fi. Achubodd fi o’m holl ofnau.” (Salm 34:4) Trwy ei brofiad personol, roedd Dafydd yn gallu annog eraill: “Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy’r ARGLWYDD.”
A elli di feddwl am brofiad yn dy fywyd di sy’n dangos bod Jehofa yn gofalu amdanat ti? Os felly, ysgrifenna am dy brofiad isod. Awgrym: Nid oes rhaid i’r profiad fod yn un dramatig. Ceisia feddwl am fendithion syml, rhai efallai y byddai’n hawdd eu cymryd yn ganiataol.
․․․․․
Efallai dy fod ti wedi dysgu am y Beibl gan dy rieni. Os felly, mae hynny’n fendith. Ond mae angen iti ddatblygu perthynas bersonol â Duw. Gelli di ddefnyddio’r wybodaeth yn yr erthygl hon i dy helpu di. Bydd Jehofa yn bendithio dy ymdrechion. Mae’r Beibl yn dweud: “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo.”—Mathew 7:7.
ADNOD ALLWEDDOL
“Mae’r rhai sy’n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi’u bendithio’n fwy!”—Luc 11:28.
AWGRYM
Os darlleni di bedair tudalen o’r Beibl bob dydd, byddi di wedi darllen y cwbl mewn tua blwyddyn.
OEDDET TI’N GWYBOD . . . ?
Mae’r ffaith dy fod ti’n darllen y wybodaeth hon, ac yn dilyn cyngor y Beibl, yn dangos bod gan Jehofa ddiddordeb personol ynot ti.—Ioan 6:44.
FY NGHYNLLUN I
I gael y gorau o fy amser astudio, fe wna i ․․․․․
I weddïo yn fwy rheolaidd, fe wna i ․․․․․
Y cwestiwn hoffwn ei ofyn i fy rhieni am hyn ydy ․․․․․
BETH RWYT TI’N EI FEDDWL?
● Beth gelli di ei wneud i fwynhau astudio’r Beibl?
● Pam mae Jehofa yn hapus i wrando ar weddïau pobl amherffaith?
● Sut gelli di wella dy weddïau?
[Broliant]
Pan o’n i’n iau, roedd fy ngweddïau yn ailadroddus. Nawr dw i’n ceisio gweddïo am y pethau da a’r pethau drwg sydd wedi digwydd yn ystod y dydd. Gan fod pob diwrnod yn wahanol, mae hyn yn fy helpu i beidio â dweud yr un geiriau drosodd a throsodd.’’—Eve
[Blwch/Llun]
Dod i Adnabod dy Feibl
1. Dewisa hanes yn y Beibl yr hoffet ti ei ddarllen. Gweddïa am ddoethineb i’w ddeall.
2. Darllena’r hanes yn ofalus. Cymera dy amser. Defnyddia dy ddychymyg a dy synhwyrau: Ceisia weld y digwyddiadau, clywed lleisiau’r cymeriadau, arogli’r awyr, blasu’r bwyd, ac yn y blaen. Gwna’r hanes yn fyw yn dy feddwl!
3. Meddylia am yr hyn rwyt ti wedi ei ddarllen. Gofynna gwestiynau fel:
● Pam mae Jehofa wedi cynnwys yr hanes hwn yn y Beibl?
● Pa gymeriadau y dylen ni eu hefelychu a pha rai sy’n esiamplau drwg?
● Pa wersi ymarferol y gallaf eu dysgu o’r darlleniad?
● Beth galla’ i ei ddysgu am Jehofa a’i ffyrdd o’r hanes hwn?
4. Gofynna weddi fer i Jehofa. Dywed wrtho beth rwyt ti wedi ei ddysgu a sut rwyt ti’n mynd i’w roi ar waith yn dy fywyd. Cofia ddiolch i Jehofa am roi ei Air, y Beibl i ti!
[Llun]
“Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr.”—Salm 119:105.
[Blwch/Llun]
Gosod Blaenoriaethau
Yn rhy brysur i weddïo? Dim amser i astudio? Yn aml, mae’n dibynnu ar dy flaenoriaethau.
Rho gynnig ar hyn: Dos i nôl bwced a rhoi sawl carreg fawr ynddi. Yna llenwa’r bwced â thywod—yn llawn i’r top. Nawr, mae gen ti fwced yn llawn cerrig a thywod.
Nesaf, gwagia’r bwced, ond cadwa’r un tywod a cherrig. Gwna’r un peth eto, ond y tro yma rho’r tywod i mewn yn gyntaf, ac yna ceisia roi’r cerrig ynddi. A oes digon o le? Nac oes! Mae hynny oherwydd dy fod ti wedi rhoi’r tywod yn y bwced yn gyntaf.
Beth yw’r wers? Mae’r Beibl yn dweud y dylen ni “ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.” (Philipiaid 1:10) Os wyt ti’n rhoi amser hamdden yn gyntaf, ni fydd gen ti byth ddigon o le yn dy fywyd i’r pethau pwysicaf, sef pethau ysbrydol. Ond os wyt ti’n dilyn cyngor y Beibl, bydd gen ti amser ar gyfer pethau ysbrydol ac amser i wneud pethau eraill hefyd. Mae hyn oll yn dibynnu ar beth rwyt ti’n ei roi yn dy fwced yn gyntaf!
[Llun]
Fel planhigyn, mae angen meithrin cyfeillgarwch â Duw er mwyn iddo dyfu