Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 10

Beth Mae’r Beibl yn ei Addo Ynglŷn â’r Dyfodol?

Beth Mae’r Beibl yn ei Addo Ynglŷn â’r Dyfodol?

“Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.”

Salm 37:29

“Mae’r ddaear yn aros am byth.”

Pregethwr 1:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig

“Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb.”

Eseia 25:8

“Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor, a chlustiau pobl fyddar hefyd. Bydd y cloff yn neidio fel hydd, a’r mud yn gweiddi’n llawen! Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch, ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.”

Eseia 35:5, 6

“Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.”

Datguddiad 21:4

“Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo.”

Eseia 65:21, 22