Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 11

Beth Sy’n Digwydd pan Fydd Rhywun yn Marw?

Beth Sy’n Digwydd pan Fydd Rhywun yn Marw?

“Mae’r anadl yn mynd allan ohono, ac mae’n mynd yn ôl i’r pridd; a’r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!”

Salm 146:4

“Mae’r byw yn gwybod eu bod nhw’n mynd i farw, ond dydy’r meirw’n gwybod dim byd! . . . Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti’n ei wneud. Fydd dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw lle rwyt ti’n mynd.”

Pregethwr 9:5, 10

‘Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i’n mynd yno i’w ddeffro.” Ond marwolaeth oedd Iesu’n ei olygu wrth “gwsg.” Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn sôn am orffwys naturiol. Felly dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw’n blaen, “Mae Lasarus wedi marw.”’

Ioan 11:11, 13, 14