CWESTIWN 2
Sut Gallwn Ni Ddysgu am Dduw?
“Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a’i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae’n ei ddweud. Dyna sut fyddi di’n llwyddo.”
“Roedden nhw’n darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen.”
Nehemeia 8:8
“Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg wedi ei fendithio’n fawr . . . , yr un sydd wrth ei fodd yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos. . . . Beth bynnag mae’n ei wneud, bydd yn llwyddo.”
Salm 1:1-3
“Felly dyma Philip yn rhedeg at y cerbyd, ac roedd yn clywed y dyn yn darllen o lyfr proffwydoliaeth Eseia. Felly gofynnodd Philip iddo, ‘Wyt ti’n deall beth rwyt ti’n ei ddarllen?’ ‘Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?’ meddai’r dyn.”
“Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi eu creu yn dangos yn glir mai fe ydy’r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!”
“Gwna’r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i’w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti’n dod yn dy flaen.”
“Gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â’n gilydd.”
“Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw.”