Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 6

Beth Ragfynegodd y Beibl am y Meseia?

Beth Ragfynegodd y Beibl am y Meseia?

PROFFWYDOLIAETH

“Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata, . . . Ond ohonot ti y daw un fydd yn teyrnasu yn Israel.”

Micha 5:2

CYFLAWNIAD

“Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem.”

Mathew 2:1

PROFFWYDOLIAETH

“Maen nhw’n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, ac yn gamblo am fy nghrys.”

Salm 22:18

CYFLAWNIAD

“Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw’n cymryd ei ddillad a’u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o’r top i’r gwaelod. Felly dyma nhw’n dweud, ‘Ddylen ni ddim rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.’”

Ioan 19:23, 24

PROFFWYDOLIAETH

“Mae’n amddiffyn eu hesgyrn; fydd dim un yn cael ei dorri!”

Salm 34:20

CYFLAWNIAD

“Ond pan ddaethon nhw at Iesu gwelon nhw ei fod wedi marw’n barod. Yn lle torri ei goesau, dyma un o’r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon.”

Ioan 19:33, 34

PROFFWYDOLIAETH

“Cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela.”

Eseia 53:5

CYFLAWNIAD

“Dyma un o’r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon, a dyma ddŵr a gwaed yn llifo allan.”

Ioan 19:34

PROFFWYDOLIAETH

“Dyma nhw’n talu tri deg darn arian yn gyflog i mi.”

Sechareia 11:12, 13

CYFLAWNIAD

“Aeth Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid a gofyn iddyn nhw, ‘Faint wnewch chi dalu i mi os gwna i ei fradychu e?’ A dyma nhw’n cytuno i roi tri deg darn arian iddo.”

Mathew 26:14, 15; 27:5