Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 7

Beth Mae’r Beibl yn ei Ragfynegi Ynglŷn â’n Hoes Ni?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ragfynegi Ynglŷn â’n Hoes Ni?

“Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd . . . Dim ond y dechrau ydy hyn i gyd!”

Mathew 24:7, 8

“Bydd proffwydi ffug yn codi ac yn twyllo llawer iawn o bobl. Bydd mwy a mwy o ddrygioni a bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri.”

Mathew 24:11, 12

“Bydd rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn agos ac ymhell. Ond peidiwch cynhyrfu—mae pethau felly’n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.”

Marc 13:7

“Bydd daeargrynfeydd mawr, a newyn a heintiau mewn gwahanol leoedd, a digwyddiadau dychrynllyd eraill ac arwyddion o’r nefoedd yn rhybuddio pobl.”

Luc 21:11

“Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. Bydd pobl yn byw i’w plesio nhw eu hunain, ac yn byw er mwyn gwneud arian. Byddan nhw’n hunanbwysig ac yn dirmygu pobl eraill, yn sarhaus, yn anufudd i’w rhieni, yn anniolchgar ac yn annuwiol. Yn ddiserch, yn amharod i faddau, yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd, ac yn casáu daioni. Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw’u hunain. Pobl yn caru pleser yn lle caru Duw. Mae nhw’n gallu ymddangos yn dduwiol, ond maen nhw’n gwrthod y nerth sy’n gwneud pobl yn dduwiol go iawn.”

2 Timotheus 3:1-5