CWESTIWN 1
Pwy Yw Duw?
“Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.”
Salm 83:18, Y Beibl Cysegr-lân
“Cyffeswch mai’r ARGLWYDD sydd Dduw; fe ydy’r un a’n gwnaeth ni, a ni ydy ei bobl e.”
Salm 100:3
“Fi ydy’r ARGLWYDD, dyna fy enw i. Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall, na rhoi’r clod dw i’n ei haeddu i ddelwau.”
Eseia 42:8
“Bydd pwy bynnag sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub.”
“Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy’n bod ydy Duw!”
“Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy’n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy’n galw pob un wrth ei enw? Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol—does dim un ohonyn nhw ar goll.”
Eseia 40:26