Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 18

Sut Gallwn Ni Nesáu at Dduw?

Sut Gallwn Ni Nesáu at Dduw?

“Ti sy’n gwrando gweddïau, boed i bob person byw ddod atat ti.”

Salm 65:2

“Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.”

Diarhebion 3:5, 6

“Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi ei anfon.”

Ioan 17:3

“Dydy [Duw] ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd.”

Actau 17:27

“Yr hyn dw i’n ei weddïo drosoch chi ydy y bydd eich cariad chi’n mynd o nerth i nerth, ac y byddwch chi’n tyfu yn eich dealltwriaeth o’r gwirionedd a’ch gallu i benderfynu beth sy’n iawn.”

Philipiaid 1:9

“Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw.”

Iago 1:5

“Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr.”

Iago 4:8

“Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd.”

1 Ioan 5:3