Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

2

Yr Enw Dwyfol yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol

Yr Enw Dwyfol yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol

Mae ysgolheigion Beiblaidd yn cydnabod bod enw personol Duw, a gynrychiolir gan y Tetragramaton (יהוה), yn ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg gwreiddiol. Ond mae llawer yn credu nad oedd yr enw dwyfol yn ymddangos yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Oherwydd hynny, nid yw’r rhan fwyaf o gyfieithiadau cyfoes yn cynnwys yr enw Jehofa yn y rhan o’r Beibl a elwir yn gyffredinol y Testament Newydd. Hyd yn oed wrth gyfieithu dyfyniadau o’r Ysgrythurau Hebraeg sy’n cynnwys y Tetragramaton, mae’r rhan fwyaf o gyfieithwyr yn defnyddio “Arglwydd” yn hytrach nag enw personol Duw.

Nid yw Tystion Jehofa yn dilyn yr ymarfer hwn wrth gyfieithu’r Beibl i wahanol ieithoedd. Mae Tystion Jehofa yn defnyddio’r enw Jehofa 237 o weithiau yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Wrth benderfynu ar hyn, roedd y cyfieithwyr yn ystyried dwy ffactor bwysig: (1) Nid y rhai gwreiddiol yw’r llawysgrifau Groeg sydd gennyn ni heddiw. O’r miloedd o gopïau sydd ar gael heddiw, cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu llunio o leiaf ddwy ganrif ar ôl i’r rhai gwreiddiol gael eu hysgrifennu. (2) Erbyn hynny, roedd y rhai a oedd yn copïo’r llawysgrifau naill ai wedi disodli’r Tetragramaton gyda Curios, y gair Groeg am “Arglwydd,” neu roedden nhw’n copïo o lawysgrifau lle roedd hyn eisoes wedi ei wneud.

Mae Tystion Jehofa yn credu bod y Tetragramaton wedi ei gynnwys yn y llawysgrifau gwreiddiol o’r Ysgrythurau Groeg a bod tystiolaeth argyhoeddiadol i gefnogi hyn. Er enghraifft:

  • Roedd copïau o’r Ysgrythurau Hebraeg a ddefnyddid yn nyddiau Iesu a’i apostolion yn cynnwys y Tetragramaton trwy gydol y testun. Yn y gorffennol, roedd bron pawb yn derbyn hyn. Gan fod copïau o’r Ysgrythurau Hebraeg sy’n perthyn i’r ganrif gyntaf wedi eu darganfod yn Qumran, mae’r pwynt wedi ei brofi heb unrhyw amheuaeth.

  • Yn nyddiau Iesu a’i apostolion, roedd y Tetragramaton hefyd yn ymddangos yng nghyfieithiadau Groeg o’r Ysgrythurau Hebraeg. Am ganrifoedd, roedd ysgolheigion yn credu nad oedd y Tetragramaton wedi ei gynnwys yn llawysgrifau’r Septuagint, sef cyfieithiad Groeg o’r Ysgrythurau Hebraeg. Yna, yng nghanol yr 20fed ganrif, daeth hen ddarnau o’r Septuagint Groeg a oedd yn bodoli yn amser Iesu i sylw ysgolheigion. Roedd y darnau hynny yn cynnwys enw personol Duw, wedi ei ysgrifennu mewn llythrennau Hebraeg. Felly, yn nyddiau Iesu, roedd copïau o’r Ysgrythurau yn yr iaith Roeg yn cynnwys yr enw dwyfol. Ond, erbyn y bedwaredd ganrif OG, nid oedd prif lawysgrifau’r Septuagint, megis y Codex Vaticanus a’r Codex Sinaiticus, yn cynnwys yr enw dwyfol o lyfr Genesis i lyfr Malachi (lle roedd yr enw wedi ei gynnwys mewn llawysgrifau cynharach). Felly, nid yw’n syndod nad yw copïau o’r cyfnod hwnnw yn cynnwys yr enw dwyfol yn yr Ysgrythurau Groeg, neu’r Testament Newydd fel y’i gelwir yn gyffredinol.

    Dywedodd Iesu yn blaen: “Yr wyf fi wedi dod yn enw fy Nhad.” Hefyd, pwysleisiodd Iesu ei fod yn gweithredu ‘yn enw ei Dad’

  • Mae’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn dweud bod Iesu yn aml wedi cyfeirio at enw Duw a’i wneud yn amlwg i bawb. (Ioan 17:6, 11, 12, 26) Dywedodd Iesu yn blaen: “Yr wyf fi wedi dod yn enw fy Nhad.” Hefyd, pwysleisiodd Iesu ei fod yn gweithredu ‘yn enw ei Dad.’​—Ioan 5:43; 10:25.

  • Fel yn achos yr Ysgrythurau Hebraeg, mae’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol hefyd wedi eu hysbrydoli gan Dduw ac yn rhan o’i Air. Felly, pe byddai’r enw Jehofa yn fwyaf sydyn yn diflannu o’r testun, ni fyddai hynny yn gwneud synnwyr. Oddeutu canol y ganrif gyntaf, fe ddywedodd y disgybl Iago wrth yr henuriaid yn Jerwsalem: “Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw.” (Actau 15:14) Ni fyddai’n rhesymegol i Iago ddweud rhywbeth o’r fath os nad oedd neb yn gwybod am enw Duw ac yn ei ddefnyddio.

  • Mae ffurf dalfyredig o’r enw dwyfol yn ymddangos yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Yn Datguddiad 19:1, 3, 4, 6, mae’r enw dwyfol yn rhan o’r gair “Halelwia.” Mae hyn yn deillio o’r ymadrodd Hebraeg sy’n golygu “Molwch Jah.” Mae “Jah” yn dalfyriad o’r enw Jehofa. Mae llawer o’r enwau sydd i’w cael yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn deillio o’r enw dwyfol. Yn wir, mae sawl cyfeirlyfr yn egluro bod yr enw Iesu yn golygu “Jehofa yw Iachawdwriaeth.”

  • Mae gweithiau ysgrifenedig Iddewig cynnar yn awgrymu bod Iddewon Cristnogol wedi defnyddio’r enw dwyfol wrth ysgrifennu. Wrth sôn am losgi llawysgrifau Cristnogol ar y Saboth, mae’r Toseffta, sef casgliad ysgrifenedig o gyfreithiau llafar a gafodd ei gwblhau tua 300 OG, yn dweud y canlynol: “Maen nhw’n llosgi llyfrau’r Efengylwyr [Cristnogion a ysgrifennodd am Iesu] a llyfrau’r minim [term efallai am Iddewon a ddaeth yn Gristnogion]. Maen nhw’n cael llosgi’r llyfrau ar ôl dod o hyd iddyn nhw, gan gynnwys unrhyw gyfeiriad at yr Enw Dwyfol.” Mae’r un ffynhonnell yn dyfynnu Rabi Yosé y Galilead, a oedd yn byw ar ddechrau’r ail ganrif OG, wrth iddo sôn am yr hyn a oedd yn digwydd ar ddyddiau eraill yr wythnos: “Mae rhywun yn torri allan y cyfeiriadau at yr Enw Dwyfol sydd ynddyn nhw [mae’n debygol mai cyfeiriad at y llawysgrifau Cristnogol oedd hyn] ac yn eu cadw, ac yn llosgi gweddill y llyfrau.”

  • Mae rhai ysgolheigion yn cydnabod bod yr enw dwyfol, yn ôl pob tebyg, wedi ymddangos yn yr Ysgrythurau Groeg pan oedd yr Ysgrythurau Hebraeg yn cael eu dyfynnu. O dan yr is-bennawd “Tetragrammaton in the New Testament,” dywed y llyfr The Anchor Bible Dictionary: “Mae cryn dipyn o dystiolaeth yn dangos bod y Tetragramaton, yr Enw Dwyfol, Iahwe, wedi ymddangos mewn rhai o’r dyfyniadau o’r Hen Destament neu ym mhob un ohonyn nhw a hynny pan gafodd y Testament Newydd ei ysgrifennu am y tro cyntaf.” Dywed yr ysgolhaig George Howard: “Gan fod y Tetragram yn dal i gael ei ysgrifennu mewn copïau o’r Beibl Groeg [y Septuagint] a ddefnyddid gan yr eglwys gynnar, rhesymol yw credu bod ysgrifenwyr y Testament Newydd, wrth ddyfynnu o’r Ysgrythurau, wedi cadw’r Tetragram yn nhestun y Beibl.”

  • Mae cyfieithwyr y Beibl wedi defnyddio enw Duw yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Fe wnaethpwyd hyn gan rai cyfieithwyr cyn i Dystion Jehofa gyfieithu eu Beibl nhw. Dyma enwau rhai o’r cyfieithwyr a’u llyfrau: A Literal Translation of the New Testament . . . From the Text of the Vatican Manuscript, gan Herman Heinfetter (1863); The Emphatic Diaglott, gan Benjamin Wilson (1864); St. Paul’s Epistle to the Romans, gan W. G. Rutherford (1900); The New Testament Letters, gan J.W.C. Wand, Esgob Llundain (1946). Mae’r Testament Newydd, gan Thomas Briscoe (1894) yn cynnwys yr enw dwyfol dros 50 o weithiau. Hefyd, mewn cyfieithiad Sbaeneg o ran gyntaf yr 20fed ganrif, defnyddiodd Pablo Besson yr enw “Jehová” yn Luc 2:15 a Jwdas 14, ac awgrymodd dros 100 o weithiau yn nhroednodiadau ei gyfieithiad mai’r enw dwyfol yw’r trosiad tebygol. Ymhell cyn cyfnod y cyfieithiadau hynny, roedd cyfieithiadau Hebraeg o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn cynnwys y Tetragramaton mewn sawl man o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Yn yr iaith Almaeneg yn unig, mae o leiaf 11 o gyfieithiadau yn defnyddio’r enw “Jehofa” (neu drawslythreniad o’r gair Hebraeg “Iahwe”) yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, ac mae pedwar cyfieithydd yn rhoi’r enw mewn cromfachau ar ôl y gair “Arglwydd.” Mae mwy na 70 o gyfieithiadau Almaeneg yn defnyddio’r enw dwyfol mewn troednodiadau ac esboniadau.

    Enw Duw yn Actau 2:34 yn yr Emphatic Diaglott, gan Benjamin Wilson (1864)

  • Mae cyfieithiadau o’r Beibl mewn mwy na chant o ieithoedd yn cynnwys yr enw dwyfol yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Mae llawer o ieithoedd Affrica, America, Asia, Ewrop, ac ynysoedd y Môr Tawel yn defnyddio’r enw dwyfol yn hael. (Gweler y rhestr ar dudalennau 12 a 13.) Penderfynodd cyfieithwyr y Beiblau hyn ddefnyddio’r enw dwyfol am resymau tebyg i’r rhai a restrir uchod. Mae’r cyfieithiadau canlynol o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn rhai eithaf diweddar, sef y Beibl Rotwman (1999) sy’n defnyddio “Jihova” 51 o weithiau mewn 48 adnod, a chyfieithiad yr iaith Batac (Toba) a gyhoeddwyd ym 1989 yn Indonesia, ac sy’n defnyddio “Jahowa” 110 o weithiau.

    Enw Duw yn Marc 12:29, 30 yng nghyfieithiad Hawäieg o 1816

Heb os, mae sail bendant i’r enw dwyfol, Jehofa, gael ei roi yn ôl yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Dyna yn union beth y mae Tystion Jehofa wedi ei wneud. Mae nhw’n parchu’r enw dwyfol ac maen nhw’n ofni dileu unrhyw beth a oedd yn ymddangos yn y testun gwreiddiol.—Datguddiad 22:18, 19.