Gwers 4
Gwers 4
Dywedodd Hanna yn ei thŷ:
“Mae’r glaw yn rhwystro fy hwyl a sbri!”
Pan dywynnodd yr haul
doedd hi ddim yn drist.
Gwenodd Hanna o glust i glust.
Beth welodd Hanna ar ôl y glaw gan Dduw?
Rhywbeth prydferth rhywbeth byw.
Aeth Hanna yn nes gan estyn ei llaw:
“Tyfodd y blodau oherwydd y glaw!”
GWEITHGAREDDAU
Darllenwch i’ch plentyn:
Gofynnwch lle mae:
Y ffenestr Yr aderyn Hanna
Y goeden Y blodau
Lle mae’r pethau cudd?
Y fuwch goch gota Yr awyren
Gofynnwch i’ch plentyn:
Pam greodd Jehofah y glaw?
[Llun ar dudalen 10]
[Llun ar dudalen 10]
[Llun ar dudalen 11]