Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Nodyn i Rieni

Nodyn i Rieni

Nodyn i Rieni

Beth yw’r anrheg orau allwch ei rhoi i’ch plant? Mae anghenion plant yn eang gan gynnwys cariad, arweiniad, a gofal. Yr anrheg fwyaf gwerthfawr gallwch roi i’ch plant yw eu helpu nhw i ddod i adnabod Jehofah trwy ei Air, y Beibl. (Ioan 17:3) Gall yr wybodaeth hon helpu’ch plant ddod i garu Jehofah a’i wasanaethu gyda’u holl galon, hyd yn oed pan maen nhw’n ifanc iawn.—Mathew 21:16.

Mae llawer o rieni wedi gweld fod eu plant ifanc yn ymateb yn well i wersi a gweithgareddau byr. Rydyn ni wrth ein boddau felly, i gyhoeddi’r llyfryn hwn, Gwersi Bach o’r Beibl. Pwrpas pob gwers yw dysgu mewn ffordd syml. Mae’r lluniau a’r ysgrifen wedi eu paratoi’n arbennig ar gyfer plant hyd at dair blwydd oed. Mae’r llyfryn yn cynnwys awgrymiadau am weithgareddau. Nid tegan i blant chwarae gydag ef yw Gwersi Bach o’r Beibl. Pwrpas y llyfryn hwn yw i chi ei ddarllen gyda’ch plant er mwyn cyfathrebu yn well gyda’ch gilydd.

Heb os, rydyn ni’n teimlo byddai’r cyhoeddiad hwn yn eich helpu chi i ddysgu’ch plant bach y gwir o’r Beibl.—2 Timotheus 3:14, 15.

Eich brodyr,

Corff Llywodraethol Tystion Jehofah

[Llun ar dudalen 3]