Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Ellir Ymddiried Yn Y llyfr hwn?

A Ellir Ymddiried Yn Y llyfr hwn?

A Ellir Ymddiried Yn Y llyfr hwn?

“Gwelaf ragor o olion sicr dilysrwydd yn y Beibl nag yn unrhyw hanes seciwlar.” —Syr Isaac Newton, gwyddonydd Saesneg o fri.1

A ELLIR ymddiried yn y llyfr hwn—y Beibl? ’Ydi e’n cyfeirio at bobl go iawn, lleoedd oedd yn bodoli, a digwyddiadau a fu mewn gwirionedd? Os felly, dylai fod ’na dystiolaeth iddo gael ei ysgrifennu gan ysgrifenwyr gofalus, gonest. Mae ’na dystiolaeth. Canfuwyd llawer ohono wedi’i gladdu yn y ddaear, ac mae rhagor hyd yn oed oddi mewn i’r llyfr ei hun.

Cloddio am Dystiolaeth

Mae darganfod arteffactau hen wedi’u claddu yng ngwledydd y Beibl wedi cefnogi cywirdeb hanesyddol a daearyddol y Beibl. Ystyriwch beth o’r dystiolaeth a gloddiodd archeolegwyr.

Mae Dafydd, y bugail ifanc dewr a ddaeth yn frenin Israel, yn adnabyddus iawn i ddarllenwyr y Beibl. Ymddengys ei enw 1,138 o weithiau yn y Beibl, ac mae’r ymadrodd “Tŷ Dafydd”—yn aml yn cyfeirio at ei linach—yn digwydd 25 gwaith. (1 Samuel 16:13; 20:16, Y Beibl Cysegr-Lân) Ond, hyd yn ddiweddar, ’doedd dim tystiolaeth eglur y tu allan i’r Beibl i fodolaeth Dafydd. Ai cymeriad y dychymyg yn unig oedd Dafydd?

Ym 1993 gwnaeth tîm o archeolegwyr, dan arweiniad yr Athro Avraham Biran, ddarganfyddiad syfrdanol, yr adroddwyd amdano yn Israel Exploration Journal. Ar safle hen dwmpath a elwir Tel Dan, yn rhan ogleddol Israel, fe ddadorchuddiasant garreg fasalt. Wedi’u cerfio ar y garreg mae’r geiriau “Tŷ Dafydd” a “Brenin Israel.”2 Dywedir am yr arysgrif, sy’n dyddio o’r nawfed ganrif C.C.C., mai rhan o gofgolofn buddugoliaeth ydyw wedi’i chodi gan Arameaid— gelynion i Israel oedd yn byw tua’r dwyrain. Pam mae’r arysgrif hen hon mor arwyddocaol?

Dywedodd erthygl a seiliwyd ar adroddiad gan yr Athro Biran a’i gydweithiwr, yr Athro Joseph Naveh, yn Biblical Archaeology Review: “Dyma’r tro cyntaf i’r enw Dafydd gael ei ganfod yn unrhyw arysgrif hen y tu allan i’r Beibl.”3 * Mae rhywbeth arall yn arbennig ynglŷn â’r arysgrif. Ysgrifennir yr ymadrodd “Tŷ Dafydd” yn un gair. Eglura’r arbenigwr ar ieithoedd Yr Athro Anson Rainey: “Yn aml . . . hepgorir gwahannydd geiriau, yn enwedig os yw’r cyfuniad yn enw priod sefydledig. Yn sicr ’roedd ‘Tŷ Dafydd’ yn enw priod gwleidyddol a daearyddol o’r fath yng nghanol y nawfed ganrif C.C.C.”5 Mae’n amlwg felly fod y Brenin Dafydd a’i linach yn adnabyddus yn yr hen fyd.

A fodolodd Ninefe—dinas fawr Asyria a grybwyllir yn y Beibl—mewn gwirionedd? Mor ddiweddar â rhan gyntaf y 19eg ganrif, gwrthodai rhai beirniaid y Beibl gredu hynny. Ond ym 1849, datgladdodd Syr Austen Henry Layard adfeilion palas y Brenin Senacherib yn Kuyunjik, safle y profwyd iddo fod yn rhan o Ninefe hen. Felly tawelwyd y beirniaid ar gownt hynny. Ond ’roedd gan yr adfeilion hyn ragor i’w ddweud. Ar furiau un siambr oedd wedi cadw’n dda ’roedd arddangosfa a ddarluniai gipio dinas gaead, â charcharorion yn cael eu martsio o flaen y brenin oedd yn ymosod. Uwchben y brenin mae’r arysgrif hon: “Senacherib, brenin y byd, brenin Asyria, yn eistedd ar orsedd -nîmedu ac yn archwilio’r ysbail (a gymerwyd) o Lachis (La-ki-su).”6

Mae’r arddangosfa a’r arysgrif y gellir eu gweld nhw yn yr Amgueddfa Brydeinig, yn cytuno â chofnod y Beibl yn 2 Brenhinoedd 18:13, 14, am gipio Lachis, dinas yn Jwda, gan Senacherib. Ysgrifennodd Layard ei sylwadau ar arwyddocâd y canfyddiad: “Pwy fyddai’n credu y byddai’n debygol neu’n bosib’, cyn gwneud y darganfyddiadau hyn, y canfyddid o dan y pentwr o bridd ac ysbwriel a nodai safle Ninefe, hanes rhyfeloedd rhwng Heseceia [brenin Jwda] a Senacherib, wedi’u hysgrifennu union adeg eu digwydd gan Senacherib ei hun, gan gadarnhau’r cofnod Beiblaidd i’r manylyn lleiaf?”7

Mae archeolegwyr wedi datgladdu llawer arteffact arall—crochenwaith, adfeilion adeiladau, llechi clai, arian bath, dogfennau, cofgolofnau, ac arysgrifau—sy’n cadarnhau cywirdeb y Beibl. Dadorchuddiodd cloddwyr ddinas Ur yng Nghaldea, y ganolfan fasnachol a chrefyddol lle bu Abraham yn byw.8 (Genesis 11:27-31) Disgrifia Cronicl Nabonidus, a ddatgladdwyd yn y 19eg ganrif, gwymp Babilon i Cyrus Fawr ym 539 C.C.C., digwyddiad yr adroddir amdano yn Daniel pennod 5.9 Mae arysgrif (y cedwir darnau ohoni yn yr Amgueddfa Brydeinig) a ganfuwyd ar borth bwaog yn Thesalonica hen yn cynnwys enwau llywodraethwyr y ddinas a ddisgrifir wrth yr enw “politarchiaid,” gair anadnabyddus mewn llenyddiaeth Groeg glasurol ond a ddefnyddir gan Luc, un o ysgrifenwyr y Beibl.10 (Actau 17:6, New World Translation of the Holy Scriptures—With References troednodyn) Cyfiawnhawyd cywirdeb Luc yn hyn o beth—fel y gwnaethid eisoes mewn manylion eraill.—Cymharer Luc 1:3.

Fodd bynnag, ’dyw archeolegwyr ddim bob amser yn cytuno â’i gilydd, heb sôn am gytuno â’r Beibl. Er hynny, fe gynnwys y Beibl o’i fewn dystiolaeth gref ei fod yn llyfr y gellir ymddiried ynddo.

Ei Gyflwyno â Gonestrwydd

Byddai haneswyr gonest yn cofnodi nid buddugoliaethau yn unig (fel yr arysgrif yn sôn am Senacherib yn cipio Lachis) ond methiannau hefyd, nid dim ond llwyddiant ond aflwyddiant hefyd, nid cryfderau’n unig ond gwendidau hefyd. Ychydig hanesion seciwlar sy’n adlewyrchu’r fath onestrwydd.

Ynglŷn â haneswyr Asyria, fe eglura Daniel D. Luckenbill: “Mae’n amlwg yn aml yr hawliai balchder brenhinol bod yn anghyfrifol o ran cywirdeb hanesyddol.”11 I ddangos “balchder brenhinol” o’r fath, mae blwyddnodau Ashurnasirpal, Brenin Asyria, yn ymffrostio: “’Rydw i’n frenhinol, ’rydw i’n bendefigaidd, ’rydw i’n ddyrchafedig, ’rydw i’n nerthol, ’rydw i’n anrhydeddus, ’rydw i’n ogoneddus, ’rydw i’n ddigyffelyb, ’rydw i’n rymus, ’rydw i’n eofn, ’rydw i fel llew o ddewr, ac mi ’rydw i’n arwrol!”12 ’Fyddech chi’n derbyn popeth a ddarllenwch yn y fath flwyddnodau yn hanes cywir?

Yn cyferbynnu â hyn, dangosodd ysgrifenwyr y Beibl onestrwydd amheuthun. Adroddodd Moses, arweinydd Israel, yn blwmp ac yn blaen am ddiffygion ei frawd, Aaron, ei chwaer Miriam, ei neiaint Nadab ac Abihu, a’i bobl, yn ogystal â’i gamgymeriadau ei hun. (Exodus 14:11, 12; 32:1-6; Lefiticus 10:1, 2; Numeri 12:1-3; 20:9-12; 27:12-14) Ni chelwyd camgymeriadau difrifol y Brenin Dafydd ond eu cofnodi—a hynny tra ’roedd Dafydd yn parhau i deyrnasu’n frenin. (2 Samuel, penodau 11 a 24) Dywed Mathew, ysgrifennwr y llyfr y mae ei enw arno, am ymryson yr apostolion (ac ’roedd e’n un ohonyn’ nhw) ynglŷn â’u pwysigrwydd personol ac fel y gadawsant Iesu noson ei arestio. (Mathew 20:20-24; 26:56) ’Roedd ysgrifenwyr llythyrau’r Ysgrythurau Cristionogol Groeg yn agored gydnabod problemau, gan gynnwys anfoesoldeb rhywiol a chynhennau, yn rhai o’r cynulleidfaoedd Cristionogol cynnar. Ac ’roedden’ nhw’n ddi-flewyn-ar-dafod yn dod i’r afael â’r problemau hynny.—1 Corinthiaid 1:10-13; 5:1-13.

Dengys cofnodi gonest, agored o’r fath, ofal diffuant am wirionedd. Gan fod ysgrifenwyr y Beibl yn fodlon cofnodi gwybodaeth anffafriol am eu hanwyliaid, eu pobl, ac amdanynt eu hunain hyd yn oed, onid oes rheswm digonol dros ymddiried yn yr hyn a ysgrifenasant?

Cywir yn y Manylion

Mewn llys barn gellir penderfynu ar hygrededd tystiolaeth tyst yn aml ar sail ffeithiau bychain. Gall cytundeb ar fanylion bychain roddi stamp cywir a gonest ar y dystiolaeth, tra gall anghysonderau difrifol amlygu mai ffug yw. Ar y llaw arall, gall adroddiad sy’n or-gymen—lle mae pob manylyn olaf wedi’i drefnu’n dwt—hefyd fradychu tystiolaeth gau.

Sut mae “tystiolaeth” ysgrifenwyr y Beibl yn cymharu yn hyn o beth? Amlygodd ceinysgrifenwyr y Beibl gysondeb rhyfeddol. Mae cytundeb agos ynglŷn â’r manylion lleiaf hyd yn oed. Fodd bynnag, nid harmoni wedi’i drefnu’n ofalus mohono, a fyddai’n codi amheuon cydgynllwynio. Mae diffyg cynllun amlwg yn y cyd-ddigwyddiadau, a’r ysgrifenwyr yn cytuno’n aml yn anfwriadol. Ystyriwch rai enghreifftiau.

Fe ysgrifennodd Mathew, un o ysgrifenwyr y Beibl: “Pan ddaeth i dŷ Pedr, gwelodd Iesu ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yn wael dan dwymyn.” (Mathew 8:14) Cawn yma gan Mathew fanylyn diddorol ond diangen: ’roedd Pedr yn briod. Cadarnheir y manylyn bychan hwn gan Paul, a ysgrifennodd: “Onid oes gennyf hawl i fynd â gwraig o Gristion o gwmpas gyda mi, fel gweddill yr apostolion a . . . Ceffas?” * (1 Corinthiaid 9:5, The New English Bible) Dengys y cyd-destun mai ei amddiffyn ei hun rhag beirniadaeth di-alw-amdano yr oedd Paul. (1 Corinthiaid 9:1-4) Mae’n amlwg na chyflwynir y ffaith fechan hon—bod Pedr yn briod—gan Paul i gadarnhau cofnod Mathew ond y’i cyflwynir wrth fynd heibio.

Mae’r pedwar ysgrifennwr yr Efengylau—Mathew, Marc, Luc, ac Ioan—oll yn cofnodi, noson arestio Iesu, i un o’i ddisgyblion dynnu’i gleddyf a tharo gwas yr archoffeiriad, gan dorri clust y dyn i ffwrdd. Dim ond Efengyl Ioan sy’n cofnodi manylyn ymddangosiadol diangen: “Enw’r gwas oedd Malchus.” (Ioan 18:10, 26) Pam mai Ioan yn unig sy’n rhoi enw’r dyn? Ychydig adnodau’n ddiweddarach mae’r hanes yn rhoi ffaith fechan nas mynegir yn unlle arall: yr oedd Ioan “yn adnabyddus i’r archoffeiriad.” ’Roedd e hefyd yn adnabyddus i dylwyth yr archoffeiriad; ’roedd y gweision yn gyfarwydd ag ef, ac yntau â hwythau. (Ioan 18:15, 16) Naturiol, felly, oedd i Ioan grybwyll enw’r dyn anafus, tra na wna ysgrifenwyr eraill yr Efengylau, yr oedd y dyn yn ddieithr iddyn’ nhw, hynny.

Ar adegau, hepgorir esboniadau manwl o un hanes, ond fe’u ceir rywle arall mewn gosodiadau wrth-fynd-heibio. Er enghraifft, dywed adroddiad Mathew o brawf Iesu gerbron y Sanhedrin Iddewig, “trawodd rhai ef a dweud, ‘Proffwyda i ni, Feseia! Pwy a’th drawodd?’” (Mathew 26:67, 68) Pam dylen’ nhw ofyn i Iesu ‘broffwydo’ pwy a’i trawodd, a’r trawydd yn sefyll yno o’i flaen? ’Dyw Mathew ddim yn egluro. Ond mae dau arall o ysgrifenwyr yr Efengylau yn darparu’r manylyn coll: bu i erlidwyr Iesu orchuddio ei wyneb cyn ei daro. (Marc 14:65; Luc 22:64) Mae Mathew yn cyflwyno’i ddefnydd heb boeni am ddarparu pob manylyn.

Dywed Efengyl Ioan am achlysur pan gasglodd tyrfa fawr i wrando ar Iesu yn dysgu. Yn ôl y cofnod, wedi i Iesu weld y dyrfa, “meddai wrth Philip, ‘Ble y gallwn brynu bara i’r rhain gael bwyta?’” (Ioan 6:5) O blith yr holl ddisgyblion oedd yn bresennol, pam gofynnodd Iesu i Philip ble gallent brynu bara? ’Dyw’r ysgrifennwr ddim yn dweud. Ond yn yr hanes cyfochrog, mae Luc yn adrodd i hyn ddigwydd ger Bethsaida, dinas ar lannau gogleddol Môr Galilea, ac ynghynt yn Efengyl Ioan dywedir mai “Gŵr o Bethsaida . . . oedd Philip.” (Ioan 1:44; Luc 9:10) Felly yn rhesymegol fe ofynnodd Iesu i un yr oedd ei dref enedigol gerllaw. Mae cytundeb y manylion yn rhyfeddol, ond yn amlwg ddiarwybod.

Yn rhai achosion ychwanegu at hygrededd yr ysgrifennwr Beiblaidd wna hepgor manylion arbennig. Er enghraifft, dywed ysgrifennwr 1 Brenhinoedd am sychder enbyd yn Israel. ’Roedd mor enbyd fel na fedrai’r brenin ganfod digon o ddŵr a glaswellt i gadw’i geffylau a’i fulod yn fyw. (1 Brenhinoedd 17:7; 18:5) Ac eto, fe ddywed yr un hanes i’r proffwyd Elias orchymyn cludo digon o ddŵr iddo ar Fynydd Carmel (i’w ddefnyddio ynglŷn ag aberth) i lenwi ffos yn amgylchu arwynebedd o tua 10,000 troedfedd sgwâr. (1 Brenhinoedd 18:33-35) Yng nghanol y sychder, o ble daeth yr holl ddŵr? Ni wnaeth ysgrifennwr 1 Brenhinoedd drafferthu i egluro. Fodd bynnag, fe wyddai unrhyw un oedd yn byw yn Israel fod Carmel ar arfordir Môr y Canoldir, fel y dengys sylw gyda-llaw yn ddiweddarach yn y naratif. (1 Brenhinoedd 18:43) Fel hyn, byddai dŵr môr ar gael yn rhwydd. Petai’r llyfr hwn sydd fel arall mor fanwl yn ddim ond ffuglen yn ymhonni’n ffaith, pam y byddai ei ysgrifennwr, a fyddai yn yr achos hynny yn ffugiwr clyfar, wedi gadael y fath anghysondeb amlwg yn y testun?

Felly a ellir ymddiried yn y Beibl? Cloddiodd archeolegwyr ddigon o arteffactau i gadarnhau fod y Beibl yn cyfeirio at bobl go iawn, lleoedd go iawn, a digwyddiadau go iawn. Ond mwy cadarn fyth, fodd bynnag, yw’r dystiolaeth a ganfyddir oddi mewn i’r Beibl ei hun. Nid arbedodd ysgrifenwyr gonest neb—nid hyd yn oed eu hunain—wrth gofnodi’r ffeithiau moel. Mae cysondeb mewnol yr hyn a ysgrifennwyd, gan gynnwys cyd-ddigwyddiadau anfwriadol, yn rhoi stamp y gwirionedd i’r “dystiolaeth.” Â’r fath “olion sicr dilysrwydd,” mae’r Beibl, yn wir, yn llyfr y medrwch ymddiried ynddo.

[Troednodiadau]

^ Par. 8 Wedi’r darganfyddiad hwnnw, adroddodd yr Athro André Lemaire fod ail-luniad newydd llinell a ddifrodwyd ar y Mesha stela (a adwaenir hefyd wrth yr enw Maen Moab), a ddarganfuwyd ym 1868, yn dangos ei bod hithau’n cyfeirio at “Tŷ Dafydd.”4

^ Par. 21 Ffurf gydradd Semitaidd yw “Ceffas” am “Pedr.”—Ioan 1:42.

[Llun ar dudalen 15]

Y darn Tel Dan

[Llun ar dudalen 16, 17]

Cerfwedd mur o Asyria yn darlunio gwarchae Lachis, a grybwyllir yn 2 Brenhinoedd 18:13, 14