Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Back Cover

Back Cover

Back Cover

PA LYFR ARALL

• sydd wedi dylanwadu ar gymaint o gelfyddyd, llenyddiaeth, a cherddoriaeth fwyaf y byd, a gwneud argraff ddwys ar y gyfraith?

• sydd wedi goroesi miloedd o flynyddoedd o’i ailgopïo â llaw ddynol ac eto wedi dod i lawr i ni yn ei hanfod fel y’i ysgrifennwyd e?

• sydd wedi ysbrydoli’r fath anhunanoldeb fel bod rhai wedi bod yn fodlon dioddef ­caledi a hyd yn oed fentro’u bywydau er mwyn ei gyfieithu?

• sydd wedi cael ei gyfieithu i ragor na 2,100 o ieithoedd, gan ei roi o fewn cyrraedd dros 90 y cant o’r teulu dynol?

• sy’n crybwyll gwirioneddau gwyddonol na chawsant eu darganfod nes i lawer canrif fynd heibio?

• sy’n cynnwys egwyddorion digyfnewid a fedr helpu pobl o bob cefndir hiliol, ethnig, a chenedlaethol i wella’u rhan?

• sy’n cynnwys daroganau diamwys a ddaeth yn wir, fel mae ffeithiau hanesyddol yn profi?

Oni fyddai’n werth archwilio llyfr o’r fath?