Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llyfr A Gamddarlunir

Llyfr A Gamddarlunir

Llyfr A Gamddarlunir

“Mae dysgeidiaeth mudiant dwbl y ddaear o gylch ei hechel ac o gylch yr haul yn un gau ac yn gwbl groes i’r Ysgrythur Sanctaidd.” Dyna ddatganodd Cynulleidfa’r Indecs yr Eglwys Rufeinig Babyddol mewn dyfarniad yn 1616.1 ’Ydi’r Beibl yn wir yn anghytuno â ffeithiau gwyddonol? Neu a gafodd ei gamddarlunio?

YNG ngaeaf 1609/10, cyfeiriodd Galileo Galilei ei delesgop yr oedd newydd ei ddatblygu tua’r nefoedd a darganfu bedair lleuad yn troi o gylch y blaned Iau. Chwalodd yr hyn a welodd y syniad cyfredol fod yn rhaid i’r holl gyrff nefol gylchdroi’r ddaear. Ynghynt, yn 1543, damcaniaethasai’r seryddwr o wlad Pwyl Nicolaus Copernicus fod y planedau yn cylchdroelli’r haul. Cadarnhaodd Galileo mai gwirionedd gwyddonol oedd hyn.

I ddiwinyddion Pabyddol, fodd bynnag, heresi oedd hyn. Credasai’r eglwys ers amser maith mai’r ddaear oedd canolbwynt y bydysawd.2 Seiliwyd y farn hon ar ddehongli’n llythrennol ysgrythurau oedd yn darlunio’r ddaear wedi’i gosod “ar ei sylfeini, yn ansigladwy yn oes oesoedd.” (Salmau 104:5, The Jerusalem Bible) Wedi’i wysio i Rufain, ymddangosodd Galileo o flaen y Chwil-lys. Dan bwysau ei groesholi’n ddidostur, gorfodwyd ef i dynnu’i eiriau yn ôl, a threulio gweddill ei oes wedi’i gyfyngu i’w gartref.

Yn 1992, tua 350 mlynedd wedi marw Galileo, o’r diwedd cydnabu’r Eglwys Babyddol ei fod yn iawn wedi’r cyfan.3 Ond os oedd Galileo yn gywir, yna a oedd y Beibl yn anghywir?

Canfod Gwir Ystyr Adrannau Beiblaidd

Credai Galileo fod y Beibl yn wir. Pan wrthddywedai ei ddarganfyddiadau gwyddonol ddehongliad o adnodau arbennig yn y Beibl oedd yn gyffredin yn y cyfnod, rhesymodd fod diwinyddion yn camddeall yr adrannau hynny. Wedi’r cyfan, “ni all dau wirionedd fyth eu gwrthddweud ei gilydd,” ysgrifennodd.4 Awgrymodd nad yw termau manwl gwyddoniaeth yn gwrthddweud geiriau pob dydd y Beibl. Ond nid oedd darbwyllo ar y diwinyddion. Mynnent fod pob datganiad Beiblaidd am y ddaear i’w gymryd yn llythrennol. O ganlyniad, nid yn unig bu iddynt wrthod darganfyddiadau Galileo ond hefyd golli gwir ystyr ymadroddion Ysgrythurol o’r fath.

Yn wir, dylai synnwyr cyffredin ddweud wrthym pan fo’r Beibl yn cyfeirio at “bedair congl y ddaear,” nad ydi hynny ddim yn golygu fod ysgrifenwyr y Beibl yn ystyried y ddaear yn llythrennol sgwâr. (Datguddiad 7:1) Ysgrifennwyd y Beibl yn iaith pobl gyffredin, gan ddefnyddio ffigurau ymadrodd byw yn aml. Felly, pan yw’n sôn fod i’r ddaear, “bedair congl,” “sylfeini” a “chonglfaen,” nid cynnig disgrifiad gwyddonol o’r ddaear a wna’r Beibl; mae’n amlwg mai siarad yn drosiadol y mae, fel y gwnawn ni yn aml yn ein sgwrsio pob dydd. *Eseia 51:13; Job 38:6.

Yn ei lyfr Galileo Galilei, sylwodd y cofiannydd L. Geymonat: “Ni wnâi diwinyddion culfarn oedd am gyfyngu gwyddoniaeth ar sail rhesymu beiblaidd ddim arall ond difrïo’r Beibl ei hun.”5 Dyna’n union ’wnaethant. Y ffaith amdani yw, mai dehongliad diwinyddion o’r Beibl—nid y Beibl ei hun—’roddodd gyfyngiadau afresymol ar wyddoniaeth.

Yn yr un modd, mae ffwndamentalwyr crefyddol heddiw yn ystumio’r Beibl wrth fynnu i’r ddaear gael ei chreu mewn chwe dydd o 24 awr. (Genesis 1:3-31) ’Dyw golygwedd o’r fath ddim yn cytuno â gwyddoniaeth nag â’r Beibl. Yn y Beibl, fel mewn sgwrs pob dydd, mae’r gair “dydd” yn ymadrodd hyblyg, yn cyfleu unedau o amser amrywiol eu hyd. Yn Genesis 2:4, cyfeirir at chwe dydd y creu fel un “dydd” hollgynhwysol. Gall y gair Hebraeg a gyfieithir “dydd” yn y Beibl olygu’n syml “amser hir.”6 Felly, ’does dim rheswm Beiblaidd dros fynnu mai 24 awr oedd hyd pob un o ddyddiau’r creu. Drwy ddysgu fel arall, mae ffwndamentalwyr yn camddarlunio’r Beibl.—Gweler hefyd 2 Pedr 3:8.

Drwy gydol hanes, mae diwinyddion yn aml wedi ystumio’r Beibl. Ystyriwch rai ffyrdd eraill y camddarluniwyd yr hyn a ddywed y Beibl gan grefyddau Gwledydd Cred.

Ei Gamddarlunio gan Grefydd

Mae gweithredoedd y rheiny sy’n honni dilyn y Beibl yn aml yn pardduo enw da’r llyfr yr honnant ei anrhydeddu. Mae Cristionogion honedig wedi tywallt gwaed y naill a’r llall yn enw Duw. Ac eto, mae’r Beibl yn annog canlynwyr Crist, “carwch eich gilydd.”—Ioan 13:34, 35; Mathew 26:52.

Mae rhai clerigwyr yn blingo’u preiddiau, ac â gweniaith yn eu progio am arian eu henillion prin—mor wahanol i’r cyfarwyddyd Ysgrythurol: “Derbyniasoch heb dâl, rhowch heb dâl.”—Mathew 10:8; 1 Pedr 5:2, 3.

Mae’n amlwg na ellir barnu’r Beibl yn ôl geiriau a gweithredoedd y rheiny sydd dim ond yn ei ddyfynnu neu’n honni byw mewn harmoni ag ef. Felly mae’n bosib’ y bydd person eangfrydig yn dymuno darganfod drosto’i hun yr hyn mae’r Beibl yn sôn amdano a pham mae’n llyfr mor nodedig.

[Troednodyn]

^ Par. 8 Er enghraifft, bydd hyd yn oed y seryddwyr mwyaf llythrennol eu meddylfryd heddiw yn sôn am “godi” a “machlud” yr haul, y sêr, a’r cytserau—er nad yw’r rhain, mewn gwirionedd, ddim ond yn ymddangos fel pe baent yn symud oherwydd cylchdro’r ddaear.

[Llun ar dudalen 4]

Dau o delesgopau Galileo

[Llun ar dudalen 5]

Galileo o flaen y Chwil-lys