Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llyfr I’w Ddarllen

Llyfr I’w Ddarllen

Llyfr I’w Ddarllen

“’Dyw’r Beibl ddim i’w gymryd o ddifri’.” Dyna ddywedodd athro prifysgol wrth wraig ifanc a siaradai’n blaen.

“Ydych chi erioed wedi darllen y Beibl?” gofynnodd hithau.

Wedi’i synnu, rhaid oedd i’r athro gyfaddef nad oedd.

“Sut medrwch chi leisio argyhoeddiad cadarn am lyfr nad ydych erioed wedi’i ddarllen?”

’Roedd ganddi bwynt dilys. Penderfynodd ef ddarllen y Beibl ac yna ffurfio barn amdano.

DISGRIFIWYD y Beibl, sy’n cynnwys 66 o weithiau ysgrifenedig, fel “y casgliad llyfrau mwyaf dylanwadol yn hanes y ddynoliaeth yn ôl pob tebyg.”1 Yn wir, dylanwadodd ar beth o gelfyddyd, llenyddiaeth, a cherddoriaeth mwyaf y byd. Gwnaeth argraff arwyddocaol ar y gyfraith. Clodforwyd ef am ei arddull lenyddol ac edmygwyd ef â pharch mawr gan lawer o unigolion addysgedig. Bu ei ddylanwad ar fywydau pobl yn holl haenau cymdeithas yn arbennig o ddwys. Mae wedi ysbrydoli teyrngarwch rhyfeddol yn llawer o’i ddarllenwyr. Mentrodd rhai eu bywydau hyd yn oed dim ond er mwyn cael ei ddarllen.

Yr un pryd, mae sgeptigiaeth ynglŷn â’r Beibl. Mae ’na bobl â chanddynt farn bendant amdano er nad ydynt yn bersonol erioed wedi ei ddarllen. Efallai y cydnabyddant ei werth llenyddol neu hanesyddol, ond meddyliant: Sut mae’n bosib’ i lyfr a ysgrifennwyd filoedd o flynyddoedd yn ôl fod yn berthnasol yn y byd modern hwn? ’Rydym yn byw yn yr “oes wybodaeth.” Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am bynciau’r dydd a thechnoleg ar flaenau’n bysedd. Mae cyngor “arbenigol” ar holl broblemau heriol bywyd modern bron ar gael yn hwylus. A fedr y Beibl o ddifrif gynnwys gwybodaeth sy’n ymarferol heddiw?

Mae’r llyfryn hwn yn ceisio ateb cwestiynau o’r fath. ’Chynlluniwyd mohono i wthio syniadau neu gredoau crefyddol arnoch chi, ond fe’i bwriedir i ddangos fod y llyfr hanesyddol ddylanwadol hwn, y Beibl, yn haeddu’ch sylw. Nododd adroddiad a gyhoeddwyd yn 1994 fod rhai addysgwyr yn teimlo’n gryf fod y Beibl yn gymaint rhan o ddiwylliant y Gorllewin fel byddai “unrhyw un, boed grediniwr neu anghrediniwr, nad yw’n gyfarwydd ag athrawiaethau a hanesion y Beibl yn ddiwylliannol anllythrennog.”2

Efallai, wedi i chi ddarllen yr hyn a gyhoeddir yn y llyfryn hwn, y cytunwch—boed person yn grefyddol ai peidio—fod y Beibl, o leiaf, yn llyfr y dylid ei ddarllen.

[Blwch/Llun ar dudalen 3]

“Yn gryno, ’rwy’n ddyledus am fy ngoleuedigaeth i ddarllen llyfr.—Llyfr? Ie, a llyfr hen, syml ydyw, gwylaidd fel natur ei hun ac mor naturiol . . . Ac enw’r llyfr hwn yn syml yw’r llyfr, y Beibl.”—Heinrich Heine, llenor o’r Almaen o’r 19eg ganrif.3