Llyfr Proffwydoliaeth
Llyfr Proffwydoliaeth
Mae gan bobl ddiddordeb yn y dyfodol. Maen’ nhw’n chwilio am ddaroganau dibynadwy ynglŷn â llawer o bynciau, o ragolygon y tywydd i arwyddion economaidd. Pan weithredan’ nhw yn ôl rhagolygon o’r fath, fodd bynnag, yn aml fe gânt eu siomi. Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o ddaroganau, neu broffwydoliaethau. Pa mor gywir yw proffwydo o’r fath? Ai ysgrifennu hanes cyn iddo ddigwydd ydyw? Neu ai hanes ydyw yn ymhonni’n broffwydoliaeth?
DYWEDIR i’r gwladweinydd Rhufeinig Cato (234-149 C.C.C.) ddweud: “’Rwy’n synnu nad yw daroganwr yn chwerthin pan wêl ddaroganwr arall.”1 Yn wir, hyd heddiw, mae llawer o bobl yn amheus o rai sy’n dweud ffortiwn, sêr-ddewiniaid, a daroganwyr eraill. Yn aml mynegir eu daroganau nhw mewn ymadroddion amhendant y gellir eu dehongli mewn amrywiol ffyrdd.
Ond, beth am broffwydoliaethau’r Beibl? Oes ’na reswm dros fod yn sgeptig ynglŷn â nhw? Neu a oes sail dros fod yn hyderus?
Nid Dim Ond Dyfalu Synhwyrol
Gall pobl wybodus geisio bwrw amcan cywir ynglŷn â’r dyfodol ar sail tueddiadau gweladwy, ond ’dydyn’ nhw ddim yn iawn bob amser. Sylwa’r llyfr Future Shock: “Mae pob cymdeithas yn wynebu nid dim ond cyfres o ddyfodolion tebygol, ond rhengoedd o ddyfodolion posibl, a gwrthdaro dros beth fyddai’n ddyfodolion mwy dymunol.” Mae’n ychwanegu: “Wrth gwrs, fedr neb ‘wybod’ y dyfodol mewn unrhyw ystyr absoliwt. ’Fedrwn ni ddim ond cyfundrefnu a dyfnhau’n tybiaethau a cheisio pennu tebygolrwydd eu digwydd.”2
Ond nid yn syml “pennu tebygolrwydd” ynglŷn â’u “tybiaethau” am y dyfodol a wnaeth ysgrifenwyr y Beibl. Ni ellir chwaith wrthod eu daroganau fel gosodiadau aneglur y gellir eu dehongli nhw mewn amrywiol ffyrdd. I’r gwrthwyneb, llefarwyd llawer o’u proffwydoliaethau mewn dull hynod eglur ac ’roeddent yn anarferol o benodol, gan ddarogan yn aml yn union i’r gwrthwyneb o’r hyn y gellid ei ddisgwyl. Cymerwch fel enghraifft yr hyn ddywedodd y Beibl ymlaen llaw am ddinas Babilon hen.
Ei ‘Hysgubo Hi Ag Ysgubell Distryw’
Ystyriwyd Babilon hen fel “gem teyrnasoedd.” (Eseia 13:19, The New American Bible) Lleolwyd y ddinas wasgarog hon yn strategol ar y llwybr masnach rhwng Ceufor Persia a Môr y Canoldir, yn gwasanaethu’n storfan fasnachol ar gyfer masnach tir a môr rhwng Dwyrain a Gorllewin.
Erbyn y seithfed ganrif C.C.C., Babilon oedd prifddinas ymddangosiadol anorchfygol Ymerodraeth Babilon. Meddiannai’r ddinas ddwy lan Afon Ewffrates, a defnyddid dyfroedd yr afon i greu ffos lydan, ddofn a rhwydwaith o gamlesi. Yn ogystal, amddiffynnid y ddinas gan drefn anferth o waliau dwbl, wedi’u bwtresu gan nifer o dyrau amddiffyn. Nid rhyfedd i’w thrigolion deimlo’n ddiogel.
Er hynny, yn yr wythfed ganrif C.C.C., cyn i Fabilon ymddyrchafu i binacl ei gogoniant, rhagfynegodd y proffwyd Eseia y byddai Babilon yn cael ei ‘hysgubo ag ysgubell distryw.’ (Eseia 13:19; 14:22, 23) Hefyd fe ddisgrifiodd Eseia union ddull cwymp Babilon. Byddai’r ymosodwyr yn ‘sychu’ ei hafonydd—ffynhonnell ei hamddiffyn ffosaidd—gan wneud y ddinas yn agored i’r gelyn. Rhoddodd Eseia hyd yn oed enw’r gorchfygwr—“Cyrus,” brenin enwog Persia, yr “agorir pyrth o’i flaen, ac ni chaeir drysau rhagddo.”—Eseia 44:27–45:2, The New English Bible.
’Roedd y rhain yn ddaroganau beiddgar. Ond a ddaethant yn wir? Fe rydd hanes yr ateb.
‘Heb Frwydr’
Ddwy ganrif wedi i Eseia gofnodi’i broffwydoliaeth, noson Hydref 5, 539 C.C.C., gwersyllai byddinoedd Medo-Persia o dan arweiniad Cyrus Fawr ger Babilon. Ond ’roedd y Babiloniaid yn hyderus. Yn ôl yr hanesydd o wlad Groeg Herodotus (y bumed ganrif C.C.C.) ’roedd digon o ddarpariaethau ganddyn’ nhw i bara am flynyddoedd.3 Hefyd ’roedd Afon Ewffrates a muriau cedyrn Babilon ganddynt i’w hamddiffyn. Er hynny, yr union noson honno, yn ôl Cronicl Nabonidus, “aeth byddin Cyrus i mewn i Fabilon heb frwydr.”4 Sut ’roedd hynny’n bosib’?
Fe esbonia Herodotus fod y bobl y tu mewn i’r ddinas “yn dawnsio ac yn ymddifyrru mewn gŵyl.”5 Y tu allan, fodd bynnag, ’roedd Cyrus wedi ailgyfeirio dyfroedd Ewffrates. Wrth i lefel y dŵr ostwng, slochiodd ei fyddin ar hyd gwely’r afon, a’r dŵr at eu cluniau. Gorymdeithiasant heibio i’r muriau aruthrol a mynd i mewn drwy’r hyn a eilw Herodotus yn “byrth a agorai ar yr afon,” pyrth a adawyd yn agored yn ddiofal.6 (Cymharer Daniel 5:1-4; Jeremeia 50:24; 51:31, 32.) Mae haneswyr eraill, gan gynnwys Xenophon (tua 431–tua 352 C.C.C.), yn ogystal â llechi llythrennau cynffurf, a ganfuwyd gan archeolegwyr, yn ategu cwymp annisgwyl Babilon o flaen Cyrus.7
Felly fe gyflawnwyd proffwydoliaeth Eseia ynglŷn â Babilon. Ond ai felly y bu? ’Ydi hi’n bosib’ nad darogan oedd hyn ond iddo’n wir gael ei ysgrifennu wedi’r digwyddiad? Mewn gwirionedd, gellid gofyn yr un peth am broffwydoliaethau eraill yn y Beibl.
Hanes yn Ymhonni’n Broffwydoliaeth?
Petai proffwydi’r Beibl—gan gynnwys Eseia—wedi gwneud dim ond ailysgrifennu hanes i ymddangos fel proffwydo, yna ’doedd y dynion hyn yn ddim amgenach na ffugwyr clyfar. Ond beth fyddai’n cymell dichell o’r fath ganddynt? Hysbysai gwir broffwydi’n amlwg ddigon na ellid eu llwgr-wobrwyo nhw. (1 Samuel 12:3; Daniel 5:17) Ac ’rydym eisoes wedi ystyried tystiolaeth gadarn fod ysgrifenwyr y Beibl (llawer ohonynt yn broffwydi) yn ddynion y gellid ymddiried ynddyn’ nhw ac a oedd yn barod i ddatgelu hyd yn oed eu gwallau digon annifyr eu hunain. Prin y byddai ar ddynion o’r fath awydd ffugio’n gymhleth, gan gyflwyno hanes fel proffwydoliaeth.
Mae rhywbeth arall i’w ystyried. ’Roedd llawer o broffwydoliaethau’r Beibl yn cynnwys condemniadau deifiol ar bobl y proffwyd ei hun, gan gynnwys yr offeiriaid a’r llywodraethwyr. Er enghraifft, beirniadodd Eseia gyflwr moesol gresynus Israeliaid ei ddydd—yn arweinwyr a phobl. (Eseia 1:2-10) Yn rymus amlygodd proffwydi eraill bechodau’r offeiriaid. (Seffaneia 3:4; Malachi 2:1-9) Mae’n anodd meddwl pam y byddent yn dyfeisio proffwydoliaethau yn cynnwys y cerydd miniocaf dichonadwy ar eu pobl eu hun gyda’r offeiriaid yn cydweithredu mewn dichell o’r fath.
Yn ychwanegol at hyn, sut gallai’r proffwydi—os mai dim ond twyllwyr oeddynt—fod wedi llwyddo i gyflawni’r fath ffugiad? Cymeradwyid llythrennedd yn Israel. Yn ifanc iawn, fe ddysgid plant i ddarllen ac ysgrifennu. (Deuteronomium 6:6-9) Anogid darllen yr Ysgrythurau yn breifat. (Salmau 1:2) Câi’r Ysgrythurau eu darllen yn gyhoeddus yn y synagogau ar y Saboth wythnosol. (Actau 15:21) Ymddengys yn annhebygol y gellid camarwain cenedl gyfan, lythrennog, hyddysg yn yr Ysgrythurau, gan gast o’r fath.
Ar ben hynny, mae rhagor ym mhroffwydoliaeth Eseia am gwymp Babilon. Mae hi’n cynnwys manylyn na fedrid fyth fod wedi’i ysgrifennu wedi’r cyflawniad.
“Ni Chyfanheddir Hi O Gwbl”
Beth ddeuai o Babilon wedi’i chwymp? Rhagfynegodd Eseia: “Ni chyfanheddir hi o gwbl, na phreswylio ynddi dros genedlaethau; ni phabella’r Arab o’i mewn, ac ni chorlanna’r bugail ynddi.” (Eseia 13:20) Gallai darogan y byddai dinas mor ffodus ei safle yn dod yn barhaol anghyfannedd fod wedi ymddangos yn rhyfedd, a dweud y lleiaf. A allai geiriau Eseia fod wedi’u hysgrifennu wedi iddo sylwi ar Fabilon ddiffaith?
Yn dilyn ei meddiannu gan Cyrus, parhaodd Babilon gyfannedd—un fwy salw mae’n wir—am ganrifoedd. Cofiwch fod Sgroliau’r Môr Marw yn cynnwys copi cyflawn o lyfr Eseia a ddyddir i’r ail ganrif C.C.C. Tua’r cyfnod yr oedd y sgrôl honno yn cael ei chopïo, cipiodd y Parthiaid reolaeth dros Babilon. Yn y ganrif gyntaf C.C., ’roedd Iddewon wedi ymsefydlu ym Mabilon, ac ymwelodd Pedr, un o ysgrifenwyr y Beibl, â’r lle. (1 Pedr 5:13) Erbyn yr adeg honno, ’roedd Sgrôl Eseia’r Môr Marw wedi bodoli ers yn agos i ddwy ganrif. Felly, ar ddechrau’r ganrif gyntaf C.C., ’doedd Babilon ddim yn llwyr anghyfannedd, ac eto, ’roedd llyfr Eseia wedi’i hen orffen cyn hynny. *
Fel y rhagfynegwyd, ymhen hir a hwyr daeth Babilon yn ddim ond “carneddau.” (Jeremeia 51:37) Yn ôl yr ysgolhaig Hebraeg Jerôm (y bedwaredd ganrif C.C.), ’roedd Babilon erbyn ei gyfnod e yn faes hela lle crwydrai “bwystfilod o bob math.”9 Erys Babilon yn ddiffaith hyd heddiw.
Ni fu Eseia fyw i weld Babilon yn dod yn anghyfannedd. Ond mae adfeilion y ddinas honno a fu unwaith mor rymus, tua 50 milltir i’r de o Baghdad, yn Irac fodern, yn tystiolaethu’n fud i’w eiriau: “Ni chyfanheddir hi o gwbl,” gael eu cyflawni. Gallai y byddai unrhyw adfer ar Babilon yn denu twristiaid, ond mae ‘mab ac ŵyr’ Babilon wedi mynd am byth.—Eseia 13:20; 14:22, 23.
Felly nid darogan yn niwlog bethau y gellid gwneud iddyn’ nhw ffitio unrhyw ddigwyddiad yn y dyfodol a wnaeth y proffwyd Eseia. Nid ailysgrifennu hanes wnaeth e chwaith a’i gael i edrych fel proffwydoliaeth. Meddyliwch am y peth: Pam dylai twyllwr fentro “proffwydo” rhywbeth nad oedd ganddo ddim rheolaeth o unrhyw fath drosto—na byddai neb yn cyfanheddu Babilon rymus fyth eto?
Dim ond un esiampl o’r Beibl yw’r broffwydoliaeth hon am ddinistr Babilon. * Mae llawer o bobl yn gweld yng nghyflawniad ei broffwydoliaethau arwydd fod yn rhaid bod y Beibl yn deillio o ffynhonnell uwch na dyn. Efallai y cytunech, o leiaf, fod y llyfr proffwydoliaeth hwn yn werth ei archwilio. Mae un peth yn sicr: Mae byd o wahaniaeth rhwng daroganau amwys neu syfrdanol daroganwyr yr oes fodern a phroffwydoliaethau eglur, pwyllog, a phenodol y Beibl.
[Troednodiadau]
^ Par. 24 Mae tystiolaeth gadarn i lyfrau’r Ysgrythurau Hebraeg—gan gynnwys Eseia—gael eu hysgrifennu ymhell cyn y ganrif gyntaf C.C. Dangosodd yr hanesydd Josephus (y ganrif gyntaf C.C.) i ganon yr Ysgrythurau Hebraeg gael ei sefydlu ymhell cyn ei gyfnod e.8 Yn ychwanegol, dechreuwyd ar y Septuagint Groeg, cyfieithiad o’r Ysgrythurau Hebraeg i’r Groeg, yn y drydedd ganrif C.C.C. a’i gwblhau erbyn yr ail ganrif C.C.C.
^ Par. 28 Am drafodaeth bellach ar broffwydoliaethau’r Beibl a’r ffeithiau hanesyddol sy’n cofnodi’u cyflawni, os gwelwch yn dda gweler y llyfr The Bible—God’s Word or Man’s?, a gyhoeddir gan the Watchtower Bible and Tract Society of New York, Inc., tudalennau 117-33.
[Broliant ar dudalen 28]
Ai proffwydi trachywir neu ffugwyr clyfar oedd ysgrifenwyr y Beibl?
[Llun ar dudalen 29]
Adfeilion Babilon hen