Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llyfr Sy’n “Siarad” Ieithoedd Byw

Llyfr Sy’n “Siarad” Ieithoedd Byw

Llyfr Sy’n “Siarad” Ieithoedd Byw

Os yw iaith yr ysgrifennir llyfr ynddi yn marw, i bob pwrpas ymarferol fe fydd y llyfr farw hefyd. Ychydig heddiw fedr ddarllen yr hen ieithoedd yr ysgrifennwyd y Beibl ynddynt. Ac eto mae’n fyw. Mae wedi goroesi am iddo “ddysgu siarad” ieithoedd byw y ddynoliaeth. Ar adegau wynebai’r cyfieithwyr a’i “dysgodd” i siarad ieithoedd eraill rwystrau ymddangosiadol anoresgynnol.

MAE cyfieithu’r Beibl—â’i ragor na 1,100 pennod a 31,000 adnod—yn dasg anferthol. Fodd bynnag, dros y canrifoedd, ymgymerodd cyfieithwyr ymroddedig yn llawen â’r her. ’Roedd llawer ohonynt yn fodlon dioddef caledi a hyd yn oed farw er mwyn eu gwaith. Mae hanes cyfieithu’r Beibl i ieithoedd y ddynoliaeth yn gofnod rhyfeddol o ddyfalbarhad a dyfeisgarwch. Ystyriwch yn syml ran fechan o’r cofnod cymhellol hwn.

Yr Her a Wynebai’r Cyfieithwyr

Sut mae cyfieithu llyfr i iaith nad oes iddi ysgriflythrennau? Wynebai nifer o gyfieithwyr y Beibl yr union her honno. Er enghraifft, aeth Ulfilas ati, yn y bedwaredd ganrif C.C., i gyfieithu’r Beibl i iaith a oedd y pryd hwnnw’n fodern ond nad oedd iddi ysgriflythrennau—Gotheg. Goresgynnodd Ulfilas yr her drwy ddyfeisio’r wyddor Gothig gyda’i 27 arwydd, gan ei seilio’n bennaf ar wyddorau’r Lladin a’r Groeg. Gorffennwyd ei gyfieithiad o’r Beibl cyfan bron i’r Gotheg cyn 381 C.C.

Yn y nawfed ganrif, ’roedd dau frawd a siaradai’r iaith Roeg, Cyril (a enwyd Cystennin yn wreiddiol) a Methodius, y ddau yn ysgolheigion ac ieithyddion rhagorol, yn dymuno cyfieithu’r Beibl ar gyfer pobl a siaradai Slafeg. Ond ’doedd gan y Slafoneg—rhagflaenydd ieithoedd Slafig heddiw—ddim ysgriflythrennau. Felly dyfeisiodd y ddau frawd wyddor er mwyn cynhyrchu cyfieithiad o’r Beibl. Yn y modd hwn gallai’r Beibl ’nawr “siarad” â llawer rhagor o bobl, y rheiny yn y byd Slafig.

Yn yr 16eg ganrif, aeth William Tyndale ati i gyfieithu’r Beibl o’r ieithoedd gwreiddiol i’r Saesneg, ond daeth gwrthwynebiad llym i’w ran gan yr Eglwys a’r Wladwriaeth ill dwy. ’Roedd Tyndale, a addysgwyd yn Rhydychen, yn dymuno cynhyrchu cyfieithiad y gallai hyd yn oed “hogyn gyrru’r wedd” ei ddeall.1 Ond er mwyn cyflawni hyn, bu’n rhaid iddo ffoi i’r Almaen, lle’r argraffwyd ei “Destament Newydd” Saesneg yn 1526. Pan smyglwyd copïau i Loegr, ’roedd yr awdurdodau mor gynddeiriog nes iddynt ddechrau eu llosgi’n gyhoeddus. Yn ddiweddarach bradychwyd Tyndale. Ychydig cyn ei lindagu a llosgi’i gorff, llefarodd y geiriau hyn â llais uchel: “Arglwydd, agor lygaid Brenin Lloegr!”2

Aeth cyfieithu’r Beibl rhagddo; ’doedd dim rhwystro’r cyfieithwyr. Erbyn 1800, ’roedd rhai o leiaf o rannau’r Beibl wedi “dysgu siarad” 68 iaith. Yna, gyda ffurfio Cymdeithasau’r Beibl—yn enwedig Y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor, a sefydlwyd yn 1804—yn fuan “dysgodd” y Beibl hyd yn oed ragor o ieithoedd newydd. Gwirfoddolodd dynion ifainc wrth y cannoedd i fynd i wledydd tramor yn genhadon, llawer ohonynt gyda’r prif amcan o gyfieithu’r Beibl.

Dysgu Ieithoedd Affrica

Ym 1800, dim ond tua dwsin o ieithoedd ysgrifenedig oedd yn Affrica. Bu’n rhaid i gannoedd eraill o ieithoedd llafar aros nes i rywun ddyfeisio dull ysgrifennu. Daeth cenhadon a dysgu’r ieithoedd, heb gymorth gwerslyfrau na geiriaduron. Yna bu iddynt lafurio i ddatblygu ffurf ysgrifennu, ac wedi hynny ddysgu’r bobl sut i ddarllen y sgript. Gwnaethant hyn fel y gallai pobl ryw ddydd ddarllen y Beibl yn eu hiaith eu hunain.3

Un o’r cenhadon hyn oedd Albanwr o’r enw Robert Moffat. Ym 1821, yn 25 oed, sefydlodd Moffat genhadaeth ymhlith y bobl a siaradai Tswana yn neheubarth Affrica. Er mwyn dysgu’u hiaith anysgrifenedig, cymysgodd â’r bobl, gan deithio i’r berfeddwlad ambell waith i fyw yn eu plith nhw. “’Roedd y bobl yn garedig,” ysgrifennodd yn ddiweddarach, “ac fe achosodd fy mwnglera i yn yr iaith lawer pwl o chwerthin. ’Fyddai dim un unigolyn fyth yn cywiro gair neu frawddeg, nes iddo’n gyntaf watwar y gwreiddiol mor effeithiol, fel yr achosai sbri mawr i eraill.”4 Dyfalbarhaodd Moffat gan feistroli’r iaith ymhen amser, a datblygu ffurf ysgrifennu ar ei chyfer.

Ym 1829, wedi gweithio ymhlith y Tswana am wyth mlynedd, gorffennodd Moffat gyfieithu Efengyl Luc. Er mwyn cael ei argraffu, teithiodd tua 600 milltir â men ychen i’r arfordir ac yna mynd ar long i Cape Town. Yno rhoddodd y llywodraethwr ganiatâd iddo ddefnyddio gwasg yn perthyn i’r llywodraeth, ond ’roedd yn rhaid i Moffat gysodi ac argraffu ei hun, gan gyhoeddi’r Efengyl ym 1830. Am y tro cyntaf, gallai’r Tswana ddarllen rhan o’r Beibl yn eu hiaith eu hunain. Ym 1857, gorffennodd Moffat gyfieithiad o’r Beibl cyfan i’r iaith Tswana.

Yn ddiweddarach disgrifiodd Moffat ymateb pobl Tswana pan ddaeth Efengyl Luc ar gael iddynt am y tro cyntaf. Fe ddywedodd: “Mi wn am unigolion a deithiodd gannoedd o filltiroedd i sicrhau copïau o S. Luc. . . . Gwelais nhw’n derbyn rhannau o S. Luc, gan wylo drostynt, a’u gwasgu i’w mynwes, a gollwng dagrau diolch, nes imi ddweud wrth fwy nag un, ‘Byddwch yn difetha’ch llyfrau â’ch dagrau.’”5

Dyna sut y rhoddodd cyfieithwyr ymroddedig fel Moffat i lawer o Affricaniaid y cyfle cyntaf i gyfathrebu mewn ysgrifen—er na fu i rai ohonynt ar y cychwyn weld angen iaith ysgrifenedig o gwbl. Ond, ’roedd y cyfieithwyr yn credu eu bod nhw’n rhoi i bobl Affrica rodd mwy gwerthfawr hyd yn oed—y Beibl yn eu hiaith eu hunain. Heddiw mae’r Beibl, yn gyfan neu’n rhannol, yn “siarad” dros 600 o ieithoedd Affrica.

Dysgu Ieithoedd Asia

Tra ’roedd cyfieithwyr yn Affrica yn ymdrechu i ddatblygu ffurfiau ysgrifennu ar gyfer ieithoedd llafar, ar ochr arall y byd, cyfarfu cyfieithwyr eraill â rhwystr tra gwahanol—cyfieithu i ieithoedd oedd eisoes ag ysgriflythrennau cymhleth. Her o’r fath a wynebai’r rhai a gyfieithodd y Beibl i ieithoedd Asia.

Ar ddechrau’r 19eg ganrif, aeth William Carey a Joshua Marshman i India a meistroli llawer o’i hieithoedd ysgrifenedig. Gyda chymorth William Ward, argraffydd, cynhyrchwyd cyfieithiadau o leiaf o rannau o’r Beibl mewn bron i 40 iaith.6 Ynglŷn â William Carey, fe eglura’r awdur J. Herbert Kane: “Dyfeisiodd arddull sgyrsiol rwydd, hyfryd [ar gyfer yr iaith Bengali] a ddisodlodd yr hen ffurf glasurol, gan ei gwneud felly’n fwy dealladwy a deniadol i ddarllenwyr modern.”7

Teithiodd Adoniram Judson, a aned ac a fagwyd yn yr Unol Daleithiau, i Bwrma, ac ym 1817 dechreuodd gyfieithu’r Beibl i’r Fyrmaneg. Wrth ddisgrifio anhawster meistroli iaith Ddwyreiniol i’r graddau angenrheidiol i gyfieithu’r Beibl, ysgrifennodd: ‘Wrth ddysgu iaith a siaredir gan bobl ar ochr arall y ddaear, sydd â’u patrymau meddwl yn annhebyg iawn i’n rhai ni, ac o’r herwydd y mae eu patrymau mynegi ieithyddol yn ddieithr inni, a’r llythrennau a’r geiriau yn gwbl wahanol ac estron rhagor unrhyw iaith y daethom ar ei thraws erioed; pan nad oes gennym eiriadur na dehonglydd a bod yn rhaid inni ddeall peth ar yr iaith cyn medru manteisio ar gymorth athro sy’n frodor—mae hynny’n golygu gwaith!’8

Yn achos Judson, golygodd rhyw 18 mlynedd o waith dyfal, gofalus. Argraffwyd rhan olaf y Beibl Byrmaneg ym 1835. Ond dioddefodd Judson lawer yn ystod ei arhosiad yn Bwrma. Wrth weithio ar y cyfieithiad, cyhuddwyd ef o fod yn ysbïwr ac o’r herwydd treuliodd bron i ddwy flynedd mewn carchar oedd yn heigio gan fosgitos. Yn fuan wedi’i ryddhau, bu farw ei wraig a’i ferch ifanc o’r dwymyn.

Pan gyrhaeddodd Robert Morrison Tsieina ym 1807 yn 25 mlwydd oed, ymgymerodd â’r dasg hynod anodd o gyfieithu’r Beibl i’r Tsieinëeg, un o’r ieithoedd ysgrifenedig mwyaf astrus. Dim ond gwybodaeth gyfyngedig o’r Tsieinëeg oedd ganddo, wedi iddo ddechrau ei hastudio dim ond dwy flynedd ynghynt. Hefyd ’roedd yn rhaid i Morrison ymryson â chyfraith Tsieineaidd, a geisiai sicrhau arwahanrwydd Tsieina. Gwaherddid pobl Tsieina, ar gosb marwolaeth, rhag dysgu’r iaith i estroniaid. Golygai dramgwydd dihenydd i estron gyfieithu’r Beibl i’r Tsieinëeg.

Yn ddiofn ond yn wyliadwrus, parhaodd Morrison i astudio’r iaith, gan ei dysgu’n gyflym. O fewn dwy flynedd sicrhaodd swydd cyfieithydd gyda Chwmni Dwyrain yr India. Yn ystod y dydd, gweithiai i’r cwmni, ond yn gyfrinachol a than fygythiad cyson cael ei ddal, gweithiodd i gyfieithu’r Beibl. Ym 1814, saith mlynedd wedi iddo gyrraedd Tsieina, ’roedd yr Ysgrythurau Groeg Cristionogol yn barod ganddo i’w hargraffu.9 Bum mlynedd yn ddiweddarach, gyda chymorth William Milne, cwblhaodd yr Ysgrythurau Hebraeg.

’Roedd yn orchest aruthrol—medrai’r Beibl ’nawr “siarad” yr iaith a ddefnyddir gan fwy o bobl nag unrhyw iaith arall yn y byd. Yna, diolch i gyfieithwyr medrus, bu cyfieithu i rai o ieithoedd eraill Asia. Heddiw, mae rhannau o’r Beibl ar gael mewn rhagor na 500 o ieithoedd Asia.

Pam llafuriodd gwŷr megis Tyndale, Moffat, Judson, a Morrison am flynyddoedd—rhai hyd yn oed yn mentro’u bywydau—er mwyn cyfieithu llyfr ar gyfer pobl nad oeddent yn eu ’nabod ac, yn rhai achosion, ar gyfer pobl nad oedd ganddynt iaith ysgrifenedig? Yn sicr nid er mwyn gogoniant nac elw ariannol. Credent mai Gair Duw yw’r Beibl ac y dylai “siarad” â phobl—yr holl bobl—yn eu hiaith eu hunain.

Pa un a deimlwch mai Gair Duw yw’r Beibl ai peidio, efallai y cytunech chi fod y math o ysbryd hunan-aberthol a ddangoswyd gan y cyfieithwyr ymroddedig hynny yn rhywbeth hynod brin ym myd heddiw. Onid ydi llyfr sy’n ysbrydoli’r fath anhunanoldeb yn teilyngu ei archwilio?

[Siart ar dudalen 12]

(Ewch i’r cyhoeddiad i weld fformat testun cyflawn)

Nifer ieithoedd yr argraffwyd rhannau o’r Beibl ynddynt oddi ar 1800

68 107 171 269 367 522 729 971 1,199 1,762 2,123

1800 1900 1995

[Llun ar dudalen 10]

Tyndale yn cyfieithu’r Beibl

[Llun ar dudalen 11]

Robert Moffat

[Llun ar dudalen 12]

Adoniram Judson

[Llun ar dudalen 13]

Robert Morrison