Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llyfr Ymarferol Ar Gyfer Byw Modern

Llyfr Ymarferol Ar Gyfer Byw Modern

Llyfr Ymarferol Ar Gyfer Byw Modern

Mae llyfrau sy’n cynnig cyngor yn boblogaidd iawn ym myd heddiw. Ond maen’ nhw’n tueddu i fynd ar ôl yr oes ac yn fuan cânt eu hadolygu neu eu disodli. Beth am y Beibl? Gorffennwyd e bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac eto, ni wellwyd erioed ar ei neges wreiddiol na’i diweddaru. ’Ydi hi’n bosib’ i’r fath lyfr gynnwys arweiniad ymarferol ar gyfer ein hoes ni?

NAC ydi medd rhai. “’Fyddai neb yn dadlau dros ddefnyddio gwerslyfr cemeg a argraffwyd ym 1924 mewn dosbarth cemeg modern,” ysgrifennodd y Dr. Eli S. Chesen, gan egluro pam y teimlai fod y Beibl ar ôl yr oes.1 Yn ymddangosiadol, mae synnwyr yn y ddadl hon. Wedi’r cyfan, mae dyn wedi dysgu llawer am iechyd meddwl ac ymddygiad dynol oddi ar ysgrifennu’r Beibl. Felly sut y gallai llyfr mor hen fod yn berthnasol ar gyfer byw modern?

Egwyddorion Digyfnewid

Er ei bod yn wir i’r oes newid, mae anghenion sylfaenol bodau dynol wedi aros yr un. Drwy gydol hanes angen cyson pobl fu cael eu caru a’u hoffi. Maen’ nhw wedi dymuno bod yn hapus a byw bywydau ystyrlon. Eu hangen fu cyngor ar sut i ymdopi â phwysau economaidd, gwneud i briodas lwyddo, a meithrin gwerthoedd moesol a moesegol yn eu plant. Mae’r Beibl yn cynnwys cyngor sy’n rhoi sylw i’r anghenion sylfaenol hynny.—Pregethwr 3:12, 13; Rhufeiniaid 12:10; Colosiaid 3:18-21; 1 Timotheus 6:6-10.

Mae cyfarwyddyd y Beibl yn adlewyrchu ymwybyddiaeth graff o’r natur ddynol. Ystyriwch rai enghreifftiau o’i egwyddorion pendant, digyfnewid, sy’n ymarferol ar gyfer byw modern.

Arweiniad Ymarferol ar gyfer Priodas

Y teulu, medd yr UN Chronicle, “yw uned hynaf a mwyaf sylfaenol y gyfundrefn ddynol; y ddolen gyswllt fwyaf tyngedfennol rhwng cenedlaethau.” Fodd bynnag, mae’r “ddolen gyswllt fwyaf tyngedfennol” hon yn chwalu ar raddfa frawychus. “Ym myd heddiw,” sylwa’r Chronicle, “mae llawer teulu yn wynebu problemau hynod anodd sy’n bygwth eu gallu i weithredu, ac, yn wir, i oroesi.”2 Pa gyngor mae’r Beibl yn ei gynnig i helpu’r uned deuluol i oroesi?

I gychwyn, mae llawer gan y Beibl i’w ddweud am y modd y dylai gwŷr a gwragedd eu trin ei gilydd. Er enghraifft, ynglŷn â gwŷr, mae’n dweud: “Dylai’r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain. Y mae’r gŵr sy’n caru ei wraig yn ei garu ei hun. Ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; yn hytrach y mae’n ei feithrin a’i anwylo.” (Effesiaid 5:28, 29) Cynghorwyd gwraig “i barchu ei gŵr.”—Effesiaid 5:33.

Ystyriwch oblygiadau cymhwyso cyfarwyddyd Beiblaidd o’r fath. ’Dyw gŵr sy’n caru’i wraig ‘fel ei gorff ei hun’ ddim yn gas na chreulon tuag ati. ’Dyw e ddim yn ei tharo’n gorfforol, nac yn ei chamdrin yn llafar nac yn emosiynol. Yn hytrach, mae’n rhoi iddi’r un parch ac ystyriaeth ag a rydd iddo’i hun. (1 Pedr 3:7) Yna bydd ei wraig yn ymwybodol y caiff ei charu ac yn teimlo’n ddiogel yn ei phriodas. O ganlyniad bydd yn darparu esiampl dda i’w blant ynglŷn â sut y dylid trin gwragedd. Ar y llaw arall, ni fydd gwraig sy’n “parchu” ei gŵr yn ei amddifadu o’i urddas drwy ei feirniadu’n gyson neu ei fychanu. Am ei bod hi’n ei barchu, fe deimla e bod ’na ymddiried ynddo, y caiff ei dderbyn, a’i werthfawrogi.

’Ydi cyngor o’r fath yn ymarferol yn y byd modern hwn? Mae’n ddiddorol fod y rhai sy’n arbenigo ar astudio teuluoedd heddiw wedi dod i gasgliadau tebyg. Sylwodd gweinyddwraig rhaglen cynghori teuluoedd: “Y teuluoedd iachaf y gwn i amdanynt yw’r rhai lle mae’r berthynas rhwng y tad a’r fam yn un gadarn, gariadus. . . . Ymddengys fod y berthynas holl bwysig hon yn meithrin ymdeimlad diogelwch yn y plant.”3

Dros y blynyddoedd, profwyd i gyfarwyddyd y Beibl ar briodas fod yn llawer mwy dibynadwy na chyngor nifer fawr o gynghorwyr teulu da-eu-bwriad. Wedi’r cyfan, ’does dim llawer er pan oedd sawl arbenigwr yn argymell ysgariad fel ffordd gyflym a hawdd allan o briodas annifyr. Heddiw, mae llawer ohonyn’ nhw’n annog pobl i wneud i’w priodas bara os yn bosib’. Ond dim ond wedi i lawer o niwed gael ei wneud y daeth y newid hwn.

Gan gyferbynnu â hyn, ceir cyfarwyddyd dibynadwy, cytbwys ar bwnc priodas yn y Beibl. Mae’n cydnabod caniatáu ysgaru dan rhai amodau eithafol. (Mathew 19:9) Yr un pryd, mae’n condemnio ysgariad disylwedd. (Malachi 2:14-16) Mae hefyd yn condemnio anffyddlondeb priodasol. (Hebreaid 13:4) Fe ddywed fod priodas yn golygu ymrwymiad: “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.” *Genesis 2:24; Mathew 19:5, 6.

Mae cyngor y Beibl ar briodas mor berthnasol heddiw ag ydoedd pan ysgrifennwyd y Beibl. Pan fo gŵr a gwraig yn eu trin ei gilydd â chariad a pharch ac yn edrych ar briodas fel perthynas neilltuedig, mae’r briodas yn fwy tebygol o oroesi—a’r teulu hefyd.

Arweiniad Ymarferol i Rieni

Rai degawdau’n ôl credai llawer o rieni—wedi’u hysbarduno gan “syniadau newydd” ar hyfforddi plant—fod “gwahardd ar wahardd.”8 Ofnent y byddai cyfyngu ar eu plant yn achosi trawma a rhwystredigaeth. Mynnai cynghorwyr da-eu-bwriad ar fagu plant i rieni ymgadw rhag unrhyw beth rhagor na’r cywiro ysgafnaf ar eu plant. Ond ’nawr mae llawer o’r fath arbenigwyr yn ailystyried rôl disgyblu, ac mae rhieni pryderus yn chwilio am eglurder ar y pwnc.

O’r cychwyn, fodd bynnag, mae’r Beibl wedi cynnig cyfarwyddyd eglur, rhesymol ar fagu plant. Bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl, fe ddywedodd: “Chwi dadau, peidiwch â chythruddo’ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd.” (Effesiaid 6:4) Mae’r gair Groeg a gyfieithir “disgyblaeth” yn golygu “magwraeth, hyfforddiant, dysgu.”9 Dywed y Beibl mai tystio i gariad rhieni mae disgyblaeth, neu ddysgu o’r fath. (Diarhebion 13:24) Mae plant yn ffynnu pan fo ganddyn’ nhw ganllawiau moesol pendant a synnwyr datblygedig ynglŷn â da a drwg. Mae disgyblaeth yn dweud wrthyn’ nhw fod eu rhieni yn fawr eu gofal amdanyn’ nhw a’r fath o berson ’fyddan’ nhw.

Ond ’ddylai awdurdod rhieni—“gwialen disgyblaeth”—fyth fod yn gamdriniol. * (Diarhebion 22:15; 29:15) Mae’r Beibl yn rhybuddio rhieni: “Peidiwch â gor-gywiro’ch plant, neu fe fyddant yn digalonni’n llwyr.” (Colosiaid 3:21, Phillips) Mae e hefyd yn cydnabod nad cosbi corfforol fel arfer yw’r dull dysgu mwyaf effeithiol. Mae Diarhebion 17:10 yn dweud: “Y mae cerydd yn peri mwy o loes i ddyn deallus na chan cernod i ynfytyn.” Yn ogystal, mae’r Beibl yn cymeradwyo disgyblaeth ataliol. Yn Deuteronomium 11:19 anogir rhieni i fanteisio ar adegau o hamdden i feithrin gwerthoedd moesol yn eu plant.—Gweler hefyd Deuteronomium 6:6, 7.

Mae cyngor digyfnewid y Beibl i rieni yn eglur. Angen plant yw disgyblaeth gyson a chariadus. Dengys profiad ymarferol fod cyfarwyddyd o’r fath yn gweithio’n dda. *

Goresgyn Rhwystrau sy’n Rhannu Pobl

Fe rennir pobl heddiw gan rwystrau hiliol, cenedlaethol, ac ethnig. Bu i’r fath furiau artiffisial gyfrannu at ladd bodau dynol diniwed mewn rhyfeloedd ar hyd a lled y byd. Llwm yn wir, o edrych ar hanes, yw’r rhagolwg y daw gwŷr a gwragedd o wahanol hiliau a chenhedloedd i’w hystyried a’u trin ei gilydd yn gyfartal. “Mae’r ateb,” medd gwladweinydd o Affrica, “yn ein calonnau.”11 Ond nid peth hawdd yw newid calonnau dynol. Er hynny, ystyriwch fel mae neges y Beibl yn apelio at y galon gan hybu agweddau cydraddoldeb.

Mae dysgeidiaeth y Beibl i Dduw wneud “o un dyn bob cenedl o ddynion” yn nacáu unrhyw syniad o ragoriaeth hiliol. (Actau 17:26) Mae’n dangos mai dim ond un hil sydd—yr hil ddynol. Mae’r Beibl yn ein hannog ymhellach i fod “yn efelychwyr Duw,” y dywedir amdano: “Nad yw . . . yn dangos ffafriaeth, ond bod y sawl ym mhob cenedl sy’n ei ofni ac yn gweithredu cyfiawnder yn dderbyniol ganddo ef.” (Effesiaid 5:1; Actau 10:34, 35) I’r rhai sy’n cymryd y Beibl o ddifrif ac sy’n wirioneddol geisio byw yn ôl ei ddysgeidiaeth, mae’r wybodaeth hon yn gweithredu i uno. Mae’n dylanwadu ar y gwastad dyfnaf, yn y galon ddynol, gan doddi’r rhwystrau o waith dynion sy’n rhannu pobl. Ystyriwch enghraifft.

Pan ryfelai Hitler ledled Ewrop, ’roedd un grŵp o Gristionogion—Tystion Jehofah—a gadarn wrthodai ymuno yn lladdfa bodau dynol diniwed. ’Wnaen’ nhw ddim ‘codi cleddyf’ yn erbyn eu cyd-ddyn. Gwnaethant y safiad hwn oherwydd eu dymuniad i foddhau Duw. (Eseia 2:3, 4; Micha 4:3, 5) Credent o ddifri’ yr hyn a ddysga’r Beibl—nad yw un genedl na hil yn well na’r llall. (Galatiaid 3:28) Oherwydd eu safiad heddychlon, ’roedd Tystion Jehofah ymhlith y carcharorion cyntaf yn y gwersyll-garcharau.—Rhufeiniaid 12:18.

Ond ni wnaeth pawb a honnai ddilyn y Beibl safiad o’r fath. Yn fuan wedi Rhyfel Byd II, ysgrifennodd Martin Niemöller, clerigwr Protestannaidd o’r Almaen: “’Dyw’r sawl sydd eisiau beio Duw am [ryfeloedd] ddim yn adnabod Gair Duw, neu’n dewis peidio ei ’nabod. . . . Mae eglwysi Cristionogol, drwy’r oesoedd, wedi ymroi dro ar ôl tro i fendithio rhyfeloedd, milwyr, ac arfau a . . . gweddïo mewn modd anghristionogol iawn am ddifa’u gelynion mewn rhyfel. Ein bai ni yw hyn i gyd a bai ein tadau, ond nid yw Duw ar fai ar unrhyw gyfrif. Ac ’rydym ni Gristionogion heddiw yn sefyll mewn cywilydd yng ngŵydd sect megis y Myfyrwyr Beiblaidd Selog fel y’i gelwir [Tystion Jehofah], a aeth i’r gwersyll-garcharau wrth y cannoedd a’r miloedd a marw [hyd yn oed] am iddynt wrthod gwasanaeth milwrol a gwrthod saethu at fodau dynol.”12

Hyd heddiw, fe ŵyr pawb am frawdoliaeth Tystion Jehofah, sy’n uno Arab ac Iddew, Croatiaid a Serbiaid, Hutu a Tutsi. Fodd bynnag, mae’r Tystion yn barod iawn i gydnabod fod undeb o’r fath yn bosib’, nid am eu bod nhw’n well nag eraill, ond oherwydd y cânt eu cymell gan rym neges y Beibl.—1 Thesaloniaid 2:13.

Arweiniad Ymarferol Sy’n Hybu Iechyd Meddwl Da

Yn aml effeithia iechyd corfforol dyn ar gyflwr ei iechyd meddyliol ac emosiynol. Er enghraifft, mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos effeithiau niweidiol dicter. “Mae rhan fwyaf y dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu fod pobl sy’n ymosodol iawn yn fwy tebygol o ddioddef gan afiechyd cardiofascwlaidd (yn ogystal â chlefydau eraill) am amryw resymau, gan gynnwys gostyngiad mewn cefnogaeth cymdeithasol, adweithedd biolegol cynyddol oherwydd gwylltio, ac ymblesera cynyddol mewn ymddygiad iechydol peryglus,” medd Dr. Redford Williams, Cyfarwyddwr Ymchwil Ymddygiadol yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Duke, a’i wraig, Virginia Williams, yn eu llyfr Anger Kills.13

Filoedd o flynyddoedd cyn astudiaethau gwyddonol o’r fath, ’roedd y Beibl, mewn geiriau syml ond eglur, wedi cysylltu’n cyflwr emosiynol gyda’n hiechyd corfforol: “Meddwl iach yw iechyd y corff, ond cancr i’r esgyrn yw cenfigen.” (Diarhebion 14:30; 17:22) Yn ddoeth, cynghorodd y Beibl: “Paid â digio; rho’r gorau i lid,” a “Paid â rhuthro i ddangos dig [neu “dicter,” King James Version].” —Salmau 37:8; Pregethwr 7:9.

Yn y Beibl hefyd ceir cyngor synhwyrol ar reoli dicter. Er enghraifft, mae Diarhebion 19:11 yn dweud: “Y mae deall yn gwneud dyn yn amyneddgar, a’i anrhydedd yw maddau camwedd.” Mae’r gair Hebraeg am “deall” yn deillio o ferf sy’n tynnu sylw at “wybod y rheswm” dros rywbeth.14 Y cyngor doeth yw: “Pwyllo cyn gweithredu.” Gall ceisio deall y rhesymau cudd pam mae eraill yn siarad neu’n gweithredu mewn ffordd arbennig helpu dyn i fod yn fwy goddefgar—ac yn llai tueddol i wylltio.—Diarhebion 14:29.

Ceir gair arall o gyngor ymarferol yn Colosiaid 3:13, lle dywedir: “Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i’ch gilydd.” Mae mân bryfociadau yn rhan o fywyd. Mae’r ymadrodd “goddefwch” yn awgrymu derbyn y pethau na hoffwn mewn eraill. Ystyr “maddeuwch” yw anghofio drwgdeimlad. Ar adegau peth doeth yw anghofio teimladau chwerw yn hytrach na’u magu nhw; dim ond ychwanegu at ein baich ni fydd dal dig.—Gweler y blwch “Arweiniad Ymarferol ar gyfer Perthynas Rhwng Pobl.”

Heddiw, mae llawer ffynhonnell cyfarwyddyd ac arweiniad. Ond mae’r Beibl yn wirioneddol unigryw. Nid dim ond damcaniaeth yw ei argymhellion, ac nid yw ei gyngor fyth yn peri niwed inni. Yn hytrach, “sicr iawn” yw ei ddoethineb. (Salmau 93:5) Heblaw hynny, mae cyfarwyddyd y Beibl yn ddigyfnewid. Er bod bron i 2,000 o flynyddoedd oddi ar ei gwblhau, mae ei eiriau’n dal i fod yn addas. Ac maen’ nhw yr un mor gymwys beth bynnag fo lliw ein croen neu’r wlad ’rydym yn byw ynddi. Hefyd mae grym yng ngeiriau’r Beibl—y grym i newid pobl er gwell. (Hebreaid 4:12) Felly gall darllen y llyfr hwnnw a chymhwyso’i egwyddorion wella ansawdd eich bywyd chi.

[Troednodiadau]

^ Par. 13 Mae’r gair Hebraeg da·vaqʹ, a gyfieithir “glynu,” “yn cyfleu’r ystyr o ymlynu wrth rywun mewn hoffter a theyrngarwch.”4 Yn y Groeg, mae’r gair a gyfleir “glynu” ym Mathew 19:5 yn perthyn i’r gair sy’n golygu “gludio,” “cadarnhau,” “ieuo’n dynn.”5

^ Par. 18 Yng nghyfnod y Beibl, golygai’r gair “gwialen” (Hebraeg, sheʹvet) “ffon,” megis honno a ddefnyddia bugail.10 Yn y cyd-destun hwn awgryma gwialen awdurdod arweiniad cariadus, nid creulondeb chwyrn.—Cymharer Salmau 23:4.

^ Par. 19 Gweler y penodau “Hyfforddwch Eich Plentyn o Fabandod,” “Helpwch Eich Arddegwr i Ffynnu,” “’Oes ’Na Wrthryfelwr yn y Tŷ?”, ac “Amddiffynnwch Eich Teulu Rhag Dylanwadau Dinistriol” yn y llyfr The Secret of Family Happiness, a gyhoeddwyd gan the Watchtower Bible and Tract Society of New York, Inc.

[Broliant ar dudalen 24]

Mae’r Beibl yn cynnig cyfarwyddyd eglur, rhesymol ynglŷn â bywyd teulu

[Blwch ar dudalen 23]

NODWEDDION TEULUOEDD IACH

Rai blynyddoedd yn ôl gwnaeth addysgwraig oedd yn arbenigo ar y teulu arolwg eang lle gofynnwyd i ragor na 500 o bobl a weithiai’n broffesiynol gyda theuluoedd i wneud sylwadau ar y nodweddion a welent hwy mewn teuluoedd “iach.” Yn ddiddorol, ymhlith y nodweddion mwyaf cyffredin a restrwyd ’roedd pethau a gymeradwyid amser maith yn ôl gan y Beibl.

Arferion cyfathrebu da oedd ar ben y rhestr, gan gynnwys dulliau effeithiol o gymodi gwahaniaethau. Polisi cyffredin a geir mewn teuluoedd iach yw “nad yw neb yn mynd i’r gwely yn flin ag un arall,” sylwodd awdures yr arolwg.6 Eto, cynghorodd y Beibl, dros 1,900 mlynedd yn ôl: “Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i’r haul fachlud ar eich digofaint.” (Effesiaid 4:26) Yn amser y Beibl cyfrifid y dyddiau o fachlud i fachlud. Felly, ymhell cyn i arbenigwyr modern astudio teuluoedd, fe gynghorodd y Beibl yn ddoeth: Setlwch eich gwahaniaethau yn gyflym—cyn terfyn un dydd a dechrau un arall.

Canfu’r awdures nad yw teuluoedd iach “ddim yn codi pynciau a all fod yn ffrwydrol yn union cyn mynd allan neu cyn amser gwely.” “Dro ar ôl tro fe glywais yr ymadrodd ‘yr adeg orau’”7 Heb yn wybod iddynt ’roedd teuluoedd o’r fath yn adleisio’r ddihareb o’r Beibl a gofnodwyd 2,700 mlynedd yn ôl: “Fel afalau aur ar addurniadau o arian, felly y mae gair a leferir yn ei bryd.” (Diarhebion 15:23; 25:11) Gall fod y gyffelybiaeth hon yn cyfeirio at dlysau aur ar ffurf afalau a osodwyd ar badelli arian wedi’u hysgythru—eiddo hardd a gwerthfawr yng nghyfnod y Beibl. Mae’n cyfleu harddwch a gwerth geiriau a leferir ar yr adeg addas. Mewn amgylchiadau poenus, mae’r geiriau iawn a leferir ar yr adeg orau yn amhrisiadwy.—Diarhebion 10:19.

[Blwch ar dudalen 26]

ARWEINIAD YMARFEROL AR GYFER PERTHYNAS RHWNG POBL

“Er i chwi gynddeiriogi, peidiwch â phechu; er i chwi ymson ar eich gwely, byddwch ddistaw.” (Salmau 4:4) Yn y rhan fwyaf o achosion yn ymwneud â thramgwyddiadau bychain, efallai mai doeth fyddai atal eich geiriau, ac felly osgoi gwrthdaro emosiynol.

“Y mae geiriau’r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iacháu.” (Diarhebion 12:18) Pwyllwch cyn siarad. Mae geiriau difeddwl yn medru brifo eraill a difetha cyfeillgarwch.

“Y mae ateb llednais yn dofi dig, ond gair garw yn cynnau llid.” (Diarhebion 15:1) Mae gofyn am hunan-ddisgyblaeth i ymateb yn addfwyn, ond mae cwrs o’r fath yn aml yn esmwytháu problemau ac yn meithrin perthynas heddychlon.

“Y mae dechrau cweryl fel diferiad dŵr; ymatal di cyn i’r gynnen lifo allan.” (Diarhebion 17:14) Pan fo sefyllfa danllyd yn codi, doeth yw i chi ymadael cyn ichwi golli’ch tymer.

“Paid â brysio i ddangos drwgdeimlad; oherwydd ffyliaid sy’n magu drwgdeimlad.” (Pregethwr 7:9, The New English Bible) Mae emosiynau yn aml yn rhagflaenu gweithredoedd. Mae’r person sy’n hawdd ei ddigio yn ffôl, gan y medr ei gwrs arwain at eiriau neu weithredoedd byrbwyll.

[Llun ar dudalen 25]

’Roedd Tystion Jehofah ymhlith carcharorion cyntaf y gwersyll-garcharau